Dysgwr y Flwyddyn 2026: Cwrdd â Paige Morgan

Paige MorganFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Paige Morgan, mae'r Gymraeg wedi bod "fel angor mewn cyfnod ansicr iawn"

  • Cyhoeddwyd

Dydy Paige Morgan "ddim yn gwybod" pam yn union ei bod hi wedi dechrau dysgu Cymraeg, ond mae hi'n disgrifio'r daith fel "pleser pur".

Er ei bod yn byw yn yr Unol Daleithiau, mae Ms Morgan yn ysgrifennu erthyglau i gylchgrawn Golwg, yn ysgrifennu straeon byrion a bellach yn dysgu cynganeddu.

Dywedodd fod cyrraedd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn eleni yn "fraint ofnadwy" a'i bod yn teimlo fel ei bod "wedi ennill yn barod".

Mae'n un o bedwar sydd wedi cyrraedd y rhestr fer, ac mae Cymru Fyw yn cael cyfle'r wythnos yma i gwrdd â'r ymgeiswyr.

Mewn cyfweliad ar Dros Frecwast, dywedodd Paige nad yw hi'n gallu esbonio pam iddi ddechrau dysgu'r iaith, er mai "dyna beth mae pawb eisiau gwybod".

"Cyhyd a galla i gofio, roeddwn i wastad eisiau siarad Cymraeg," meddai.

"S'dim clem 'da fi, rhyw ofalwr yn eglwys fy rhieni, rhyw lyfr o'r llyfrgell, rhyw raglen deledu efallai?

"Ond y peth pwysig yw fy mod i'n gallu siarad Cymraeg bellach."

Y gynghanedd 'wedi fy machu yn syth'

Pan oedd Paige yn ifanc, roedd wrth ei bodd yn ysgrifennu, ond rhoddodd y gorau i'r syniad yn ei harddegau.

Ar ôl dechrau dysgu Cymraeg, ailgydiodd yn ei hysgrifennu, ac yn 2024 cafodd gyfle i ddysgu cynganeddu.

Mae bellach yn rhan o Gynllun Pencerdd Llenyddiaeth Cymru a Barddas - y fenyw Americanaidd gyntaf i wneud hynny.

"Mae hynny wedi bod yn anhygoel ac mae fy nghynganeddu wedi gwella yn barod.

"'Da ni'n byw mewn diwylliant dopamine y dyddiau hyn, a dysgu cynghanedd ydi'r gwrthwyneb i hynny - rhaid i chi arafu a chanolbwyntio ar y byd o'ch cwmpas.

"Ces i fy machu yn syth ar ôl dechrau cyrsiau Prifysgol Aberystwyth gyda Ceri Wyn Jones a dwi mor ddiolchgar i bawb sydd wedi bod yn rhan o fy nhaith barddoni a fy nhaith iaith."

Paige Morgan o flaen prif lwyfan TafwylFfynhonnell y llun, Paige Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Paige yn mwynhau yn Tafwyl eleni

Dywedodd Paige mai un peth sydd wedi ei helpu i ddysgu'r iaith yw "rhoi Radio Cymru ymlaen yn y cefndir".

Esboniodd ei bod wedi torri ei phigwrn tra'n cerdded rhan o lwybr arfordir Cymru dwy flynedd yn ôl, a bod y cyfnod o wella yn dilyn yr anaf hwnnw wedi rhoi cyfle gwirioneddol iddi ganolbwyntio ar y Gymraeg.

"Am ryw reswm, penderfynais ddefnyddio'r Gymraeg drwy'r holl antur.

"Roedd gen i dri ffrind oedd yn gofalu amdanaf i a pob un yn siarad Cymraeg, ond mwy na hynny roedd yr iaith fel angor i mi mewn cyfnod ansicr iawn."

Ychwanegodd ei bod bellach yn rhan o werslyfr dysgu Cymraeg swyddogol yn sgil ei hanffawd - a hynny wedi iddi fynd ati i chwilio am eiriau Cymraeg i ddisgrifio ei hanaf i'w thiwtor.

"Rydw i bellach yn y gwerslyfr uwch dau neu uwch tri newydd fel rhan o wers am enwau rhannau'r corff.

"Felly rydw i wedi cyfrannu rhywbeth pwysig i'r diwylliant a'r cwricwlwm dysgu Cymraeg!"

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.