Penri Williams i dderbyn Medal R. Alun yn Eisteddfod y Garreg Las

Penri WilliamsFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Penri Williams yn cael ei anrhydeddu am wneud "cyfraniad eithriadol i fywyd Cymraeg y gymuned dros sawl degawd"

  • Cyhoeddwyd

Fe fydd medal sy'n coffáu un o fawrion yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn cydnabod cyfraniad cymwynaswyr bro yn cael ei rhoi eleni i ŵr sydd wedi rhoi "dros 40 mlynedd o wasanaeth gwirfoddol i'r Gymraeg a bywyd diwylliannol Cymru".

Penri Williams - yn enedigol o Borthmadog ond wedi ymgartrefu yn ardal Rhondda Cynon Taf - sy'n derbyn Medal R. Alun yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las 2026.

Dywed yr Eisteddfod ei fod "wedi gwneud cyfraniad eithriadol i fywyd Cymraeg y gymuned dros sawl degawd", gan gynnwys golygu papur bro Tafod Elái am 38 mlynedd.

Fe fydd yn derbyn y fedal mewn seremoni arbennig yn y Pafiliwn ar Faes yr Eisteddfod yn Llantwd brynhawn Sul, 2 Awst.

Fel un o sylfaenwyr Clwb y Dwrlyn yn 1979 mae Penri Williams, medd y trefnwyr, "wedi bod yn ganolog i gynnal gweithgareddau Cymraeg yn ardal Creigiau, Gwaelod y Garth a Phentyrch, gan gynnwys sefydlu gwasanaeth Plygain ac ymweliad blynyddol y Fari Lwyd".

"Cyn ymddeol roedd yn beiriannydd ym mhwerdy Aberddawan ger Y Barri. Drwy'r cyfnod hwnnw ac ers hynny mae wedi defnyddio ei gefndir mewn technoleg i wneud gwaith arloesol gyda mentrau iaith, hyrwyddo addysg Gymraeg, cefnogi mudiadau diwylliannol yn ogystal â chryfhau presenoldeb y Gymraeg ar-lein."

Mae'r wobr hefyd yn nodi ei gyfraniad i nifer o gorau, gan gynnwys Côr Godre'r Garth, Côr y Mochyn Du/Hen Nodiant a Chôrdydd.

Fe dderbyniodd Ryddfraint Cymuned Pentyrch yn 2022 am ei wasanaeth dros y Gymraeg a Cymreictod y cylch.

Cyfraniad 'amhrisiadwy'

Cafodd ei enwebu ar gyfer yr anrhydedd gan Helen Prosser, cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024.

"Mae cyfraniad Penri i Gymreictod yr ardal yn amhrisiadwy," dywedodd. "Mae'n un o'r bobl yna cewch bob amser ddibynnu arno.

"Defnyddiwn y gair 'anhygoel' yn rhy aml o lawer ond mae'r gamp mae wedi'i chyflawni gyda'r papur bro gan gyhoeddi 403 rhifyn, wir wedi bod yn anhygoel.

"Rydym fel tîm newydd yn ymdrechu i lenwi ei esgidiau ond mae'n her a hanner."

Mewn ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Mr Williams: "Roeddwn yn eistedd yn y gynulleidfa ac yn gwrando ar Helen ac yn ceisio dyfalu am pwy roedd hi'n siarad.

"Doeddwn ddim yn disgwyl iddi fy enwi i a daeth fel bach o sioc. Rwy'n hynod falch o'r anrhydedd ac yn ei werthfawrogi'n fawr."

R. Alun Evans ar lwyfan y pafiliwnFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn/Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Roedd R. Alun Evans yn ffigwr amlwg o fewn llywodraethiant yr Eisteddfod Genedlaethol, gan ymgymryd â sawl rôl dros y blynyddoedd

Penri Williams yw'r ail berson i dderbyn y fedal, sy'n cael ei rhoi er cof am y diweddar Barchedig R. Alun Evans - y darlledwr, awdur a gweinidog gyda'r Annibynwyr a fu farw yn 2023 yn 86 oed,

Roedd yn ffigwr canolog yn hanes yr Eisteddfod, gan ymgymryd â sawl rôl allweddol dros y blynyddoedd, cyn cael ei anrhydeddu'n Gymrawd am oes o wasanaeth i'r Brifwyl.

Mae ei deulu wedi croesawu'r cyhoeddiad mai Penri Williams sy'n cael y wobr eleni.

Dywedodd ei ferch, Betsan Powys: "Dwi'n nabod Penri ers blynyddoedd, ac yn gwybod o brofiad amdano fel rhywun sy'n cyfrannu'n dawel yn y cefndir, yn holi sut gall e helpu ac yn ateb y galw.

"Mae hynny'n wir amdano mewn pob math o feysydd ond amlycaf i fi, fel cyd-aelod o Gôrdydd.

"Roedd clywed, felly, mai Penri fydd yn cael Medal R. Alun eleni yn newyddion bendigedig. Sôn am 'gymwynaswr bro' - dyna Penri."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.