Osian Pryce: 'Mae'n od bod Elfyn yn Bencampwr y Byd a fi'n Bencampwr Prydain'

Osian (dde) gyda'i gyd-yrrwr James Morgan (chwith). Dyma dro cyntaf James Morgan i fod yn bencampwr Pencampwriaeth Ralio Prydain
- Cyhoeddwyd
Mae Osian Pryce o Fachynlleth wedi cipio tlws Pecampwriaeth Rali Prydain Motorsport UK am yr eildro, yn dilyn buddugoliaeth yn Rali Cambria dros y penwythnos.
O 1.2 eiliad yn unig, fe lwyddodd Osian a'i gyd-yrrwr James Morgan i ddod i'r brig er ymdrechion hwyr gan Max McRae a Cameron Fair mewn tywydd stormus.
Daw ei fuddugoliaeth lai na mis ers i'r gyrrwr rali o Ddinas Mawddwy, Elfyn Evans, ennill pencampwriaeth ralio y byd yn Sardinia ar 4 Hydref.
Dywedodd Osian, a gipiodd y tlws am y tro cyntaf yn 2022 wrth Ifan Jones Evans ar Radio Cymru: "Dwi ddim yn gwbod be' i ddeud - o'n i'n lwcus y tro cynta' ond i wneud o am yr ail dro mae'n profi nad ffliwc oedd y cynta!
"Mae e'n od fod o wedi digwydd - Elfyn yn Bencampwr y Byd a finnau yn Bencampwr Prydain."
Ond mae'n cydnabod fod ei waith caled wedi talu ar ei ganfed.
"Pan dwi'n 'neud wbath dwi'n licio rhoi 100% i mewn - alla i ddim bod dim hapusach," meddai.
A oes rhywbeth yn y dŵr yng nghanolbarth Cymru?
Ar ôl ralio'r Toyota GR Yaris Rally2 o Landudno drwy goedwigoedd gogledd Cymru, ac yn ôl i Landudno yng ngham olaf y bencampwriaeth yn Rali Cambria, mae Osian ar ben ei ddigon bod dau Gymro yn bencampwyr ralio Prydain a'r byd.
"Dan ni wedi tyfu i fyny tair milltir i ffwrdd o'n gilydd. Dwi'n cofio pan oeddan ni lot iau oedden ni'n reidio motobeics - pwy fydde'n meddwl bod y ddau ohonan ni'n y sefyllfa yma rŵan."
Elfyn Evans yn ennill Pencampwriaeth Ralïo y Byd am y tro cyntaf
- Cyhoeddwyd4 Hydref
"Dwi ddim rili yn siŵr be' oedd y gyfrinach - dwi'n ffodus o ran lle 'dan ni'n byw - gei di nunlle gwell i dyfu fyny na'r canolbarth.
"Mae'r byd wedi newid a dydi ddim mor hawdd i fynd ar fotobeic a neud petha fel'ny 'wan.
"Mae 'na gymaint o hanes ralio yn yr ardal a cymaint o interest wedi bod dros y blynydde efo'r ddau ohonon ni."

Noel O'Sullivan (chwith) ac Osian Pryce (dde) wedi iddynt gipio tlws Pencampwriaeth Rali Prydain yn 2022
Fe ddechreuodd ddiddordeb Osian yn y byd ralio "mewn cae adre'" pan oedd o dan 10 oed.
"Fydde fy rhieni yn cofio yn well na fi i fod yn onest," meddai.
"Maen nhw'n cofio'r details bach yma achos dwi'n siŵr oedden nhw yn poeni lot mwy na fi - mae yna lot wedi digwydd ers hynny."
Mwy o lwyddiant
Ac mae llawer wedi digwydd i Osian mewn cyfnod byr iawn hefyd.
Yn ystod penwythnos 16-18 Hydref daeth Osian i'r brig ym Mhencampwriaeth Rali Hanesyddol Ewropeaidd yn Yr Eidal.
Eglurodd: "Dwy wythnos yn olynol dwi 'di ennill pencampwriaeth.
"Wythnos dwytha o'n i'n bencampwr Ewropeaidd efo'r Historics yn y categori 3.
"Roeddan ni yn y Ford Escort RS 1800 MKII, yr un car enillon ni yn yr RAC llynedd - oedden ni'n teimlo bod ni wedi ennill rywbeth draw fan hyn felly be' am i ni drio Ewrop.
"Dwi'n credu mewn rhoi 100% i mewn a gobeithio cael y canlyniad ar y diwedd - a ddaru ni lwyddo neud hynna wythnos dwytha."

Ford Escort 'lwcus' Osian Pryce
Er ei holl lwyddiannau, dyw'r tymor o ralio ddim ar ben i Osian eto sy'n bwriadu cystadlu yn Rali Silver Fern yn Seland Newydd ym mis Rhagfyr:
"Mae'n rali saith diwrnod, 5000 o gilometrau - mae yna un sialens fach ar ôl i ni gwblhau."
Ydy Osian yn obeithio am lwyddiant driphlyg?
"Fyddai'n neis cael y tri ond mae yna lot o waith i'w 'neud, ond pan ti wedi ennill dau pam ddim rhoi cynnig ar dri."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd25 Medi 2022

- Cyhoeddwyd15 Hydref
