Cywaith rhwng dwy yn dod i'r brig yng nghystadleuaeth y Fedal Ddrama

Lois a Mirain Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Lois (chwith) a Mirain (dde) gyda'r ffugenw Ymlaen am eu drama 'Cwch Gwenyn'

  • Cyhoeddwyd

Cywaith rhwng Melda Lois Griffiths a Mirain Alaw Jones sydd wedi dod i'r brig yng nghystadleuaeth y Fedal Ddrama yn Eisteddfod y Garreg Las.

Magwyd Lois yn ardal Llanuwchllyn tra bod Mirain yn dod yn wreiddiol o Gapel Seion, Cwm Gwendraeth. Mae'r ddwy bellach yn byw yng Nghaerdydd.

Roedd gofyn i ymgeiswyr lunio braslun o ddrama sy'n cynnwys dechrau, canol, diwedd - lleoliad ac amser, proffil cymeriadau, arddull y darn yn ogystal ag enghraifft o dair golygfa wedi eu deialogi, neu ddrafft o ddrama gyflawn o hyd at 30-45 munud.

Dywedodd y beirniaid fod y ddrama fuddugol yn "ddrama ddoniol, realistig ac ystyrlon am fenyweidd-dra a'r heriau y mae menywod yn eu profi yn y Gymru gyfoes".

Lois
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lois yn gweithio ym maes iechyd cyhoeddus mewn Uned Gwyddor Ymddygiad

Mae Lois a Mirain wedi bod yn ffrindiau ers iddyn nhw gyfarfod yng Nghymdeithas Gymraeg Prifysgol Caerdydd.

Ar ôl graddio, ymunodd y ddwy gyda thîm merched Clwb Rygbi Cymry Caerdydd.

'Ymlaen' - ffugenw'r gwaith - yw arwyddair y clwb. Hoffai'r ddwy feddwl bod y ddrama 'Cwch Gwenyn' yn deyrnged i'r tîm a'u cyfeillgarwch.

Mae gan Lois ddoethuriaeth mewn Seicoleg, ac mae'n gweithio ym maes iechyd cyhoeddus mewn Uned Gwyddor Ymddygiad. Mae hefyd yn gerddor ac yn ysgrifennu yn ei hamser sbâr.

Graddiodd Mirain o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd ac mae'n mwynhau chwarae rygbi gan ddilyn ôl traed ei thad, Iwan, yn ei hoffter o'r gêm.

Mae'n gweithio ar gyfres Pobol y Cwm fel golygydd sgriptiau, sydd wedi dysgu'r grefft o adrodd stori iddi. Hoffai ddiolch i bawb sydd ynghlwm a'r gyfres am y cyd-weithio hwyliog.

Mirain
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mirain yn gweithio ar gyfres Pobol y Cwm fel golygydd sgriptiau

Wrth drafod y gwaith buddugol, dywedodd y beirniaid: "Dyma ddrama ddoniol, realistig ac ystyrlon am fenyweidd-dra a'r heriau y mae menywod yn eu profi yn y Gymru gyfoes.

"Deialog naturiol, gyda gwir ymgais i ni gael cynrychiolaeth o ran cefndir, agwedd, oed, rhywioldeb a phrofiad bywyd.

"Mae'r syniad yn un cryf ac amserol, gyda strwythur clir a chymeriadau credadwy, yn enwedig Gog a Bica. Roedd y cymeriadau'n gryf a'u siwrneiau'n glir trwy gydol y ddrama. Mae'r defnydd o theatr gorfforol ar y cae yn effeithiol, gan bwysleisio'r gwrthgyferbyniad rhwng cyffro'r gêm a'r gwrthdaro.

"...Roedd y cyflwyniad yn un cyflawn, yn dangos dylanwadau'r awdur, ôl ymchwil a phrofiad, ac yn cynnig potensial am ddrama dda."

Y Fedal Ddrama
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r fedal yn rhodd er cof am Urien ac Eiryth Wiliam gan eu plant Hywel, Sioned a Steffan

Fel yn achos Gwobr Goffa Daniel Owen, seremoni fer oedd hon heb yr Archdderwydd na'r Orsedd yn cymryd rhan.

Mae cwmnïau a chynhyrchwyr theatr yng Nghymru wedi dod ynghyd i greu consortiwm fel rhan o bartneriaeth gyda'r Eisteddfod Genedlaethol i gynnig pecyn o gyfleoedd i enillydd y fedal.

Aelodau'r consortiwm yw Frân Wen, Theatr Bara Caws, Theatr Clwyd, Theatr Cymru, Theatr Sherman, Theatr y Torch, Cwmni Theatr Arad Goch ynghyd â'r Eisteddfod.

Roedd y panel o feirniaid eleni yn cynrychioli aelodau'r consortiwm sef Daniel Lloyd (Theatr Clwyd), Rhian Blythe (Theatr Cymru), Ffion Dafis (Theatr Bara Caws), Gethin Evans (Frân Wen), Ffion Wyn Bowen (Cwmni Theatr Arad Goch), Lowri Morgan (Theatr y Sherman) ac Alice Eklund (Theatr y Torch).

Cafodd Leo Drayton a Nia Morais eu penodi i'r panel beirniaid fel ymarferwyr llawrydd.

Mae'r buddugol yn ennill y fedal, er cof am Urien ac Eiryth Wiliam yn rhoddedig gan eu plant Hywel, Sioned a Steffan a £3,000 ( yn rhoddedig gan Cware ac Olew Trefigin).