Gorsafoedd pleidleisio yn agor yn etholiad y Senedd

Gorsaf bleidleisio yn Radur, Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Gall pleidleiswyr gymryd rhan yn yr etholiad rhwng 07:00 a 22:00 ddydd Iau

  • Cyhoeddwyd

Mae gorsafoedd pleidleisio wedi agor ledled Cymru am 07:00 ddydd Iau ar gyfer etholiad y Senedd.

Mae Aelodau o'r Senedd (ASau) yn cael eu hethol ar draws 16 etholaeth gan ddefnyddio system bleidleisio newydd wrth i nifer y gwleidyddion ym Mae Caerdydd gynyddu o 60 i 96.

Bydd chwe gwleidydd yn cael eu hethol i gynrychioli pob etholaeth, wedi'u rhannu yn ôl cyfran y pleidleisiau y mae pleidiau'n eu derbyn yn y sedd.

Mae'r gorsafoedd pleidleisio'n cau am 22:00 gyda chyfrif yn digwydd yn ystod y dydd ddydd Gwener, a darllediad llawn o'r canlyniadau ar draws BBC Cymru ar-lein, teledu a radio.

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld yr elfennau rhyngweithiol hyn. Mwy o wybodaeth am yr etholiadau sydd ar y gweill (Yn agor mewn tab porwr newydd)

Yn wahanol i etholiadau San Steffan, nid oes angen i chi ddod â dogfen adnabod na'ch cerdyn pleidleisio gyda chi i bleidleisio.

Dyma'r ail etholiad seneddol yng Nghymru sy'n caniatáu i bobl 16 a 17 oed gymryd rhan.

Newid arall yn yr etholiad hwn yw y bydd pobl yn bwrw eu pleidlais unwaith, dros blaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol.

Yn etholiadau Senedd blaenorol roedd dwy bleidlais - un dros ymgeisydd ac un arall dros blaid wleidyddol.

Mae etholiadau hefyd yn digwydd i Senedd yr Alban ddydd Iau, ac mae etholiadau lleol a chystadlaethau maerol yn digwydd mewn rhai rhannau o Loegr.