Llywodraeth Cymru'n 'asesu' dyfodol canolfan profi trenau a rheilffyrdd

Oriel luniauNeidio heibio'r oriel luniauSleid1 o 4, Llun artist o'r safle pe tai'r cynllun yn cael ei wireddu, Mae cyfres o luniau artist yn rhoi syniad o sut fyddai hen waith glo brig Nant Helen yn edrych petai'r cynllun yn cael ei wireddu
GanDaniel Davies
Gohebydd gwleidyddol BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Bydd dyfodol canolfan brawf rheilffordd sydd wedi derbyn £70m o arian trethdalwyr, ond sydd ddim wedi'i adeiladu, yn cael ei benderfynu gan Lywodraeth Cymru.

Yn ôl pennaeth y Ganolfan Rhagoriaeth Rheilffyrdd Fyd-eang (CRhRhF) dydyn nhw ddim wedi dod o hyd i'r cyllid sector preifat sydd ei angen oherwydd bod y risg "rhy fawr" i fuddsoddwyr posibl.

Cafodd y prosiect ei lansio pum mlynedd yn ôl, ac mae wedi'i leoli yn hen chwarel glo brig Nant Helen ger Ystradgynlais.

Nawr, mae gofyn ar weinidogion i gymeradwyo cynlluniau ar gyfer canolfan ddata yno, gyda'r gobaith bydd modd i CRhRhF ddenu mwy o gyllid ar gyfer y prosiect rheilffordd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod CRhRhF – y mae'r llywodraeth yn berchen arni – wedi bod "yn archwilio amryw o brosiectau i adfywio safle Nant Helen".

"Rydym yn gweithio gyda'r cwmni i asesu'r camau nesa' yn sgil ein cenhadaeth cynhyrchiant," ychwanegodd llefarydd.

Dau drên ar stop gyda thrac rheilffordd rhynddynt ar safle'r ganolfan ragoriaeth
Disgrifiad o’r llun,

Y bwriad yw creu canolfan ragoriaeth ar gyfer profi technoleg trenau'r genhedlaeth nesaf ar safle hen waith glo brig yn Sir Castell-nedd Port Talbot

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £50m i CRhRhF ers iddo gael ei sefydlu yn 2021 gan y llywodraeth Lafur ar y pryd.

Fe wnaeth cyn-lywodraeth Geidwadol y DU hefyd ddarparu £20m.

Y gobaith oedd dod o hyd i £330m o'r sector preifat er mwyn trawsnewid y lofa ar ben Cwm Dulais ger Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Byddai dau drac trydan saith cilomedr o hyd i brofi trenau yn dolennu safle tua maint Gibraltar neu Faes Awyr Gatwick.

Gyda chyfleusterau eraill, mae CRhRhF yn dweud y gallai greu mwy na 1,000 o swyddi.

Roedd disgwyl iddo fod ar waith erbyn 2025, ond mae wedi cael ei oedi tan 2030.

Cafodd y cynllun ei etifeddu gan Blaid Cymru ar ôl iddyn nhw ennill etholiad y Senedd ym mis Mai.

Safle hen waith glo brig Nant Helen
Disgrifiad o’r llun,

Does dim gwaith adeiladu hyd yma ar safle'r hen waith glo brig yng Nghwm Dulais

Dywedodd prif weithredwr CRhRhF, Simon Jones, fod galw o fewn y diwydiant rheilffyrdd am y gwasanaethau y byddai'r cwmni'n eu darparu, "ond allwn ni ddim parhau i ddefnyddio arian cyhoeddus ar hyn am byth, felly mae angen gwneud penderfyniad".

Bu "sgyrsiau manwl" gyda chwmni ynni a chanolfan ddata, na all Mr Jones ei enwi oherwydd cyfrinachedd masnachol.

Mae CRhRhF yn awyddus, meddai, i gwblhau'r sgyrsiau hynny eleni fel bo' modd llofnodi cytundeb.

"Mae angen i ni fod mewn sefyllfa lle 'da ni'n gwybod a yw'r rheilffordd yn mynd ymlaen ai peidio y foment y byddwn yn llofnodi'r cytundeb hwnnw," dywedodd wrth BBC Politics Wales.

"Os yw'r llywodraeth yn penderfynu fod hwn yn rhywbeth maen nhw am ei wneud, os allwn ni gyflawni'r cytundeb gyda'n partner canolfan ddata, yna pum mlynedd o nawr fe allwn ni fod mewn sefyllfa ble y gwelwn ni drenau yn rhedeg o amgylch y safle."

Simon Jones, mewn helmed wen a siaced lachar oren ar safle Nant Helen
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen sicrwydd ynghylch dyfodol y cynllun, medd y prif weithredwr Simon Jones

Mae CRhRhF wedi siarad â buddsoddwyr posibl ledled y byd, ond wedi methu â sicrhau cyllid.

"Galla i restru llawer o bethau fyddai'n ymddangos fel esgusodion ynglŷn ag amodau macro-economaidd, effeithiau Covid ac ati, ond yn y pendraw mae'n ymwneud ag awydd y farchnad fuddsoddi i gymryd risg," meddai Mr Jones.

"Yr hyn sydd gyda ni yma yw cynnig anhysbys.

"Mae yna risg ynghylch gallu creu canolfan profi rheilffyrdd cyflym cynta'r DU, ac mae'r risg honno'n rhy fawr i'r farchnad ei chymryd ar ei phen ei hun dan yr amgylchiadau presennol.

"Mae 'na bethau y gellir eu gwneud i leihau'r risg honno i ryw raddau, i'w wneud yn fwy deniadol, a dyna'r math o bethau ry'n ni'n siarad amdano ar hyn o bryd gyda'n partneriaid yn y llywodraeth."

Arwydd Canolfan Rhagoriaeth Rheilffyrdd Fyd-eang
Disgrifiad o’r llun,

Arwydd safle'r Ganolfan Rhagoriaeth Rheilffyrdd Fyd-eang, ble mae'r gwaith adeiladu wedi'i oedi nes bod modd sicrhau buddsoddiad gan y sector preifat

Dywedodd yr Aelod o'r Senedd Ceidwadol Andrew RT Davies, a ymwelodd â'r safle fel cadeirydd y pwyllgor economi yn ystod y Senedd ddiwethaf: "Mae angen i'r llywodraeth ei siapio hi, a gwneud penderfyniad cyflym.

"Ydyn nhw'n mynd i barhau i gefnogi'r safle hwn at ddibenion adfywio neu a ydyn nhw'n mynd i roi defnydd arall iddo am resymau eraill?"

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Straeon perthnasol