Pryder cynyddol am effaith ffliw ceffylau ar sioeau amaethyddol yr haf

- Cyhoeddwyd
Mae yna bryder cynyddol am effaith ffliw ceffylau ar sioeau amaethyddol yr haf yn sgil cynnydd sylweddol mewn achosion.
Dros y penwythnos, fe gadarnhaodd Sioe Amaethyddol Pontargothi na fydd adran geffylau yn cael ei chynnal yn y sioe ar ddiwedd mis Mai.
Mae yna 68 achos wedi cael eu cadarnhau o'r clefyd ar draws 33 sir yng Nghymru, Lloegr a'r Alban ers diwedd mis Mawrth yn ôl y Tîm Gwyliadwriaeth Clefydau Heintus Ceffylau.
Mae ffliw ceffylau yn afiechyd heintus tu hwnt sy'n lledu'n gyflym iawn ymhlith ceffylau.
Mae yna bigiad yn erbyn y salwch, ond mae ceffylau sydd wedi cael eu brechu yn medru trosglwyddo'r afiechyd i'r rhai sydd heb gael pigiad.

Yn ôl Mathew Jones, Cadeirydd Sioe Amaethyddol Pontargothi, roedd yna leihad mawr yn nifer y ceisiadau eleni oherwydd pryder ymhlith perchnogion
Er nad yw fel arfer yn salwch angheuol, mae'n achosi twymyn, peswch a llesgedd i geffylau sy'n dioddef.
Yn ôl Mathew Jones, Cadeirydd Sioe Amaethyddol Pontargothi, roedd yna leihad mawr yn nifer y ceisiadau eleni oherwydd pryder ymhlith perchnogion ceffylau.
"Mae lot o drafod wedi bod ers wythnosau bellach ond nos Wener ddiwethaf fe wnaethon ni benderfynu tynnu'r plwg ar yr adran geffylau eleni oherwydd doedd dim lot o bobl wedi entro oherwydd y ffliw a hefyd roedd e'n ymledu go gloi yn yr ardal," meddai.
"Y peth gorau i ni wneud oedd i stopio fe cyn iddo ymledu ymhellach. Roedden ni lawr tua 85% ar rifau y llynedd.
"Ni'n aml yn cael dros 300 o geffylau 'ma ar ddiwrnod sioe a hyd yn hyn, dim ond cyrraedd 50 wnaethon ni."

Roedd milfeddygon sy'n cynghori'r pwyllgor wedi awgrymu na fyddai'n ddoeth i gynnal cystadlaethau i geffylau eleni.
"Ni'n lwcus iawn i gael milfeddygon yn rhan o'r sioe fan hyn. Roedd lot o achosion a hefyd lot o achosion yn mynd heb eu reportio," meddai Mathew.
"Eu barn nhw oedd cael bennu gydag adran y ceffylau eleni. Mae fe'n gallu bod yn yr awyr am filltir a hanner felly mae risg i geffylau sydd yn byw yn yr ardal a heb fynychu'r sioe. Mae llawer o bobl wedi cysylltu i ddiolch i ni am ganslo."
Fe fydd y sioe, serch hynny, yn mynd yn ei blaen "fel arfer" gyda dosbarthiadau i wartheg, defaid, alpacas a geifr.

"Mae'r iardiau i gyd nawr, lot ohonyn nhw yn yr ardal ac yn ne Cymru, wedi eu cau lawr," meddai Shan Cothi
Mae gan y gyflwynwraig a'r gantores, Shan Cothi, dri cheffyl, ac mae dau yn cael eu cadw ar iard yn Sir Gaerfyrddin.
"Mae'r iardiau i gyd nawr, lot ohonyn nhw yn yr ardal ac yn ne Cymru, wedi eu cau lawr," meddai.
"Does yna ddim digwyddiadau a dim symudiad ceffylau. Hwnna yw'r unig ffordd i leihau'r risg o'r haint yma yn cydio.
"Chi ddim eisiau fe. Chi ddim eisiau eich ceffyl i gael y ffliw neu strangles ac mae un ffurf arall sydd yn fwy niwrolegol.
"Y peth yw mae'n mynd i effeithio ar y digwyddiadau a thymor y sioeau. 'Sdim bob ceffyl wedi cael y pigiad...
"Mae'r ceffylau i gyd yn cario'r haint ond mae rhai sydd yn cael y pigiad ddim yn datblygu'r symptomau mor wael. Os 'wnewn ni rhywbeth nawr mae yna rywfaint o obaith y bydd tymor y sioeau ar ôl."

Mae'n angenrheidiol i bob ceffyl sydd yn mynd i'r Sioe Frenhinol gael eu brechu yn erbyn ffliw ceffylau, meddai Aled Jones
Dywedodd Prif Weithredwr y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, Aled Jones, y bydd yr "adran geffylau yn cael ei chynnal yn ôl yr arfer".
"Ers 2019, mae hi'n angenrheidiol i bob ceffyl sy'n dod i'r sioe gael eu brechu yn erbyn ffliw ceffylau," meddai.
"Fe fyddwn ni yn parhau i fonitro'r sefyllfa yn ofalus a chefnogi cystadleuwyr sydd yn arddangos ceffylau wrth baratoi ar gyfer y sioe ym mis Gorffennaf."
Y cyngor i atal lledaenid ffliw ceffylau yw:
sicrhau bod brechiadau'n gyfredol
monitro ar gyfer arwyddion clinigol cynnar fel peswch, hylif o'r trwyn, twymyn a llesgedd
gweithredu mesurau bioddiogelwch llym
ynysu ceffylau sydd newydd gyrraedd a rhai yr amheuir fod ganddyn y ffliw yn brydlon.
'Annog pobl i fod yn wyliadwrus'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "ymwybodol o'r cynnydd mewn achosion o ffliw ceffylau".
"Rydym yn annog pobl i fod yn wyliadwrus am arwyddion o glefyd a chysylltu â'u milfeddyg os oes ganddynt bryderon.
"Mae'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ac Awdurdodau Lleol yn gwneud penderfyniadau am iechyd a lles anifeiliaid yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael.
"Os ydynt yn credu bod digwyddiad yn peri risg rhy uchel, gallant ddewis peidio â rhoi trwydded.
"Brechu yw'r ffordd bwysicaf o leihau risg ac effaith ffliw ceffylau. Mae bioddiogelwch a hylendid da yn allweddol i atal ei gyflwyno a'i ledaenu."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.