Person wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A483

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i wrthdrawiad ar yr A483 ger Cylchfan Laura Ashley yn Y Drenewydd am 13:10 ddydd Sul
- Cyhoeddwyd
Mae person wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ym Mhowys dros y penwythnos.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i wrthdrawiad ar yr A483 ger Cylchfan Laura Ashley yn Y Drenewydd am 13:10 ddydd Sul.
Roedd y gwrthdrawiad yn ymwneud â Dacia Sandero llwyd.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod gyrrwr y Dacia wedi marw yn y fan a'r lle.
Ychwanegodd y llu nad oes tystiolaeth i awgrymu bod cerbyd arall wedi bod yn rhan o'r gwrthdrawiad, gan annog unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â nhw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.