'Gallai pobl fod wedi marw...rhaid gwybod y risg o lifogydd' cyn yr hydref

Ioan Williams o Gyfoeth Naturiol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ioan Williams o CNC yn galw ar bobl i wirio risg eu cartref o wynebu llifogydd ar-lein, yn ogystal â chofrestru i dderbyn rhybuddion

GanSteffan Messenger
Gohebydd Amgylchedd
  • Cyhoeddwyd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn dweud eu bod yn poeni am "risg uwch na'r arfer" o dywydd anwadal dros y misoedd nesaf - all arwain at lifogydd.

Mae rhagolygon hirdymor ar gyfer yr hydref, dolen allanol yn awgrymu tebygolrwydd uwch o amodau gwlyb a gwyntog, gyda'r corff amgylcheddol yn dweud bod angen ystyried effeithiau newid hinsawdd a ffenomenon El Niño hefyd.

Er bod un ymhob saith cartref a busnes yng Nghymru'n wynebu risg o lifogydd, dim ond 27% o'r sawl sy'n gymwys i dderbyn rhybuddion i ffôn neu e-bost sydd wedi cofrestru.

Yn dilyn haf o sychder a gwres eithafol, mae CNC wedi galw ar bobl i "beidio â bod yn hunanfodlon", gan rybuddio y gallai amodau newid yn sydyn.

Trefynwy dan ddwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Trefynwy yn dal i ddod i delerau ag effeithiau llifogydd Storm Claudia yn 2025

Mae Cymru wedi wynebu cyfres o achosion difrifol o lifogydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn aml yn dilyn stormydd pwerus fel Dennis yn 2020, Bert a Darragh yn 2024 a Claudia yn 2025.

Daw'r bygythiad o sawl cyfeiriad gan gynnwys afonydd a'r môr.

Tra bod llifogydd dŵr wyneb, lle mae systemau draenio lleol yn cael eu gorlethu yn ystod glaw trwm, yn cael eu hystyried fel perygl cynyddol.

Mae CNC yn dadlau bod daearyddiaeth Cymru'n gwneud y wlad yn arbennig o fregus - gydag arfordir eang a nifer o afonydd sy'n "ymateb yn gyflym" wrth i law lifo oddi ar dir serth mewn llefydd fel cymoedd y de.

Mae 274,534 o dai a busnesau yn cael eu hystyried fel rhai sy'n wynebu risg o lifogydd ar hyn o bryd, gyda disgwyl i'r ffigwr hwnnw gynyddu yn sylweddol erbyn diwedd y ganrif.

Brian Churches, Jim Taylor, Dave Blake a Malcolm Butcher [o'r chwith i'r dde]
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Brian Churches, Jim Taylor, Dave Blake a Malcolm Butcher [o'r chwith i'r dde] eu bod erioed wedi gweld llifogydd tebyg yn Sir Fynwy

Ar y stryd fawr yn Nhrefynwy, soniodd nifer wrth BBC Cymru Fyw am amodau "ofnadwy" yn ystod y llifogydd mawr a darodd y dref ym mis Tachwedd 2025.

Collodd Malcolm Butcher, 82 ei gar i'r dŵr. Roedd yn ddiolchgar bod y llifogydd wedi digwydd yn ystod oriau man y bore pan oedd pobl yn gymharol ddiogel yn llofftydd eu tai.

"Petai wedi digwydd yn ystod y dydd fyddai pobl wedi marw," meddai.

"Dyw'r dref ddim yn ôl i normal eto," ychwanegodd Imogen Elliot, 82.

"Roedd Waitrose dan bedair troedfedd o ddŵr, ac fe aeth yr holl ffordd lan y stryd fawr," meddai.

Disgrifio'r digwyddiad fel un "brawychus", wnaeth Frank Brehany, 70.

Tra bod nifer o gynlluniau ar waith yn lleol i godi ymwybyddiaeth o'r risg o lifogydd, fe ddywedodd fod rhaid i bawb gymryd y bygythiad o ddifrif.

"Mae'n rhaid i chi fod yn gyfrifol, addysgu'ch hun, a deall beth yw'r risg - nid dim ond i'ch eiddo eich hun... ond i'ch cymuned," meddai.

Maes carafanau ger Aberystwyth dan ddwr
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daw'r bygythiad i gymunedau o sawl cyfeiriad gan gynnwys afonydd a'r môr a phan mae systemau draenio lleol yn cael eu gorlethu yn ystod glaw trwm

Mae disgwyl i dywydd eithafol effeithio ar Gymru'n fwy aml o ganlyniad i newid hinsawdd, a byddwn ni'n gweld gaeafau sy'n fwy gwlyb a gwyllt yn fwy cyson.

Yn y cyfamser, mae gwyddonwyr wrthi'n monitro'r El Niño cryfaf ar gofnod, dolen allanol yn y Môr Tawel, ffenomenon naturiol sy'n cynyddu tymereddau'n fyd eang.

Er nad yw hyn o reidrwydd yn arwain at dywydd gwael yn y DU, mae'n un o'r ffactorau sy'n arwain at bryder o fewn CNC ynglŷn â'r misoedd nesaf.

Llifogydd LlansawelFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Bu llifogydd yn Llansawel, Castell-nedd Port Talbot, fis Rhagfyr diwethaf

Mae rhagolygon hir dymor y Swyddfa Dywydd ar gyfer Hydref, Tachwedd a Rhagfyr yn awgrymu tebygolrwydd uwch na'r arfer o amodau gwlyb, gwyntog a mwyn.

"Mae 'na bryderon... yn enwedig eleni... mae'r risg o dywydd anwadal yr hydref a gaeaf hyn yn mynd i fod yn uwch na'r arfer," esboniodd Ioan Williams, un o uwch-reolwyr CNC.

"Ry'n ni'n edrych ar fuddsoddi mewn mwy o amddiffynfeydd," ond "allwn ni ddim amddiffyn pob cartre', pob busnes yng Nghymru."

"Dro ar ôl tro" yn dilyn llifogydd, mae pobl yn dweud nad oedden nhw wedi ystyried y gallai ddigwydd iddyn nhw, gyda CNC yn poeni hefyd am oblygiadau'r misoedd diwethaf o dywydd sych.

"Ar hyn o bryd mae dŵr a llifogydd a glaw falle ymhell o'n meddwl ni fel cymdeithas - ond bydd e'n rhywbeth fydd gyda ni cyn i ni droi rownd," meddai Mr Williams.

"Mae isie bod pobl yn deall beth yw eu risg nhw o lifogydd... a meddwl be allen nhw fod yn 'neud yn eu cartrefi eu hunain.

"[Gall fod] mor syml a meddwl lle maen nhw'n parcio eu car yn y nos. Oes angen mynd a phethau gwerthfawr lan staer [pan fod tywydd gwael]."

Mae'r corff hefyd yn ymbil ar bobl i gofrestru i dderbyn rhybuddion llifogydd, dolen allanol i'w ffon neu e-bost.

Mae'r gwasanaeth ar gael i 181,158 o eiddo yng Nghymru, ond yn ôl ffigyrau newydd dim ond 48,844 - 27% - sydd wedi cofrestru ar hyn o bryd.

Gat llifogydd newydd yn ardal Rhisga, Casnewydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru'n dadlau na allan nhw amddiffyn pawb rhag llifogydd

Mae Jane Roche, sy'n rhedeg caffi a siop bysgod ar lannau Afon Teifi wedi helpu i gydlynu cynllun llifogydd cymunedol ar gyfer yr ardal, ac yn dweud bod paratoi yn hanfodol.

"Mae byw a gweithio wrth ymyl afon Teifi yn golygu bod llifogydd yn rhywbeth rydyn ni wedi dysgu byw ag ef ers blynyddoedd lawer."

"Rydym wedi gweld â'n llygaid ein hunain yr aflonyddwch y gall ei achosi i fusnesau, trigolion ac ymwelwyr," meddai.

"Mae datblygu cynllun llifogydd cymunedol wedi dod â phobl leol ynghyd, wedi ein helpu i ddeall pa gamau sydd angen i ni eu cymryd pan gyhoeddir rhybuddion ac wedi rhoi hyder i ni y byddwn yn gallu cefnogi ein gilydd pan fydd tywydd garw yn cael ei ragweld."

Y Cynghorydd Olwen Davies, maer Aberteifi
Disgrifiad o’r llun,

Mae "cymuned glos" Aberteifi yn gyfarwydd â sut i ymateb pan fo'r afon leol yn gorlifo, meddai'r cynghorydd Olwen Davies

Mae maer Aberteifi, y cynghorydd Olwen Davies yn byw ar un o'r strydoedd sy'n dueddol o gael ei effeithio pan mae afon Teifi'n gorlifo.

Mae wedi buddsoddi mewn drws ffrynt pwrpasol ac mae ganddi hi a nifer yn lleol gatiau atal llifogydd sy'n helpu amddiffyn eu tai.

"Mae pawb wedi cofrestru [am rybuddion llifogydd]... ac wedyn byddwn ni'n mynd o amgylch yn cnocio drysau pobl, watcho bod ceir ddim yn dod lan a lawr y ffordd achos ma' hynny'n achosi tonnau, a gwneud yn siŵr bod pobl sy'n fregus yn iawn," meddai.

"Ni'n gymuned glos a ma' pob un yn helpu ei gilydd," ychwanegodd.

"Mae llawer o sôn bod y Gaeaf yma yn mynd i fod yn un eitha' caled... ond gyda ni fan hyn mae'n dibynnu ydy'r gwynt a'r glaw yn mynd i gyrraedd yr un amser a llanw llawn."

"[Wrth] fyw fan hyn chi wastad yn ymwybodol o bethe, chi wastad yn gw'bod ble ma'ch iet llifogydd a ma'r rhybuddion yn dod yn ddigon cloi i allu paratoi."

Llifogydd yn AberteifiFfynhonnell y llun, Olwen Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhannau o Aberteifi yn wynebu llifogydd o'r afon leol

Dywedodd Sarah Davies, Pennaeth yr Amgylchedd ac Ynni y Swyddfa Dywydd fod rhagolygon hirdymor y sefydliad ar gyfer yr hydref a dechrau'r gaeaf yn dangos "mwy o siawns o aflonyddwch sy'n gysylltiedig â'r tywydd".

"Gall patrymau tywydd newid yn gyflym yr adeg hon o'r flwyddyn, ac mae rhagolygon hirdymor yn disgrifio tueddiadau tymhorol eang yn hytrach nag amseriad, lleoliad neu ddifrifoldeb digwyddiadau tywydd unigol."

"Beth bynnag fo'r tymor, mae deall eich perygl llifogydd a gwybod pa gamau i'w cymryd os cyhoeddir rhybuddion yn gamau synhwyrol a all eich helpu i baratoi pe bai tywydd garw yn digwydd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig