Gwahardd cyn-focsiwr rhag gemau pêl-droed am iaith homoffobig cyn gêm Wrecsam

Sion Yaxley yn 2019
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-bencampwr bocsio wedi cael ei wahardd rhag mynychu gemau pêl-droed am dair blynedd ar ôl cyfaddef defnyddio iaith homoffobig cyn gêm Wrecsam.
Plediodd Sion Yaxley, 29 oed o Bwll-glas, Rhuthun, yn euog yn Llys Ynadon Wrecsam i drosedd yn erbyn y drefn gyhoeddus, wedi digwyddiad cyn gêm yng Nghwpan yr FA rhwng Wrecsam a Chelsea ar 7 Mawrth.
Clywodd y barnwr Paul Conlon fod Yaxley, sy'n dad i ddau o blant, yn un o grŵp o bobl a oedd ar Stryd Regent cyn y gêm.
Cafodd ei rybuddio gan yr heddlu ar ôl iddo gael ei glywed yn defnyddio iaith sarhaus homoffobig tuag at grŵp o gefnogwyr Chelsea.
Ond fe barhaodd, ac fe gafodd ei arestio.
'Ddim yn deall ystyr yr iaith'
Mae Yaxley yn gyn-focsiwr proffesiynol a enillodd deitl Pwysau Uwch-welter Rhyng-gyfandirol IBO yn 2023.
Mae'n siarad Cymraeg, a dywedodd ei gyfreithiwr nad oedd yn deall ystyr yr iaith sarhaus a ddefnyddiodd - rhywbeth roedd y barnwr yn "cael hi'n anodd credu".
Clywodd y llys hefyd ei fod yn feddw iawn ar adeg y drosedd.
Mae Yaxley wedi colli ei swydd â chyflog da gyda chwmni diogelwch ers hynny, ac fe glywodd y gwrandawiad ei fod yn gweithio mewn warws ar hyn o bryd.
Dywedwyd ei fod wedi colli ei enw da yn dilyn y digwyddiad.
Roedd yn rhoi o'i amser ei hun i fentora bocswyr ifanc eraill, clywodd y llys.

Mae Sion Yaxley yn gyn-focsiwr proffesiynol (llun o 2021)
Mae'r gorchymyn gwahardd yn golygu na all Yaxley fynychu unrhyw gêm bêl-droed sy'n cael ei rheoleiddio yn y DU am dair blynedd.
Mae'n rhaid iddo hefyd osgoi bod mewn unrhyw dref neu ddinas pan fydd Wrecsam neu dîm rhyngwladol Cymru yn chwarae.
Cafodd ddirwy o £250, a bydd yn rhaid iddo dalu gordal o £100 a chostau o £85.
Hefyd yn y llys - yn cael ei drin ar wahân am yr un drosedd o dan yr un amgylchiadau - oedd Joshua Jones, 33 oed o Weston Rhyn ger Croesoswallt.
Plediodd Jones yn euog hefyd i'r cyhuddiad o ddefnyddio geiriau bygythiol neu sarhaus neu ymddygiad gyda'r bwriad o achosi ofn neu ysgogi trais anghyfreithlon.
Cafodd ddirwy o £500, gyda gordal o £200 a chostau o £85, ac fe dderbyniodd yr un gorchymyn sy'n ei wahardd rhag mynychu gemau pêl-droed am dair blynedd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.