Hantafeirws: 'Nifer fach o drigolion Cymru' yn hunan-ynysu

Llong yr MV HondiusFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae awdurdodau sawl gwlad wedi ymateb wedi i achosion hantafeirws ddod i'r amlwg ar fwrdd MV Hondius ym mis Ebrill

  • Cyhoeddwyd

Mae "nifer fach o drigolion Cymru sy'n gysylltiedig â'r achosion o hantafeirws" yn hunan-ynysu ac yn derbyn cefnogaeth, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC).

Mae tri pherson wedi marw gyda'r haint a nifer yn rhagor wedi cael triniaeth wedi i'r cyflwr ddod i'r amlwg ar fwrdd y llong fordaith o'r Iseldiroedd, MV Hondius ym Môr Iwerydd ym mis Ebrill.

Mae ICC wedi cadarnhau bod yr unigolion sy'n hunan-ynysu naill ai wedi bod ar y llong MV Hondius neu wedi bod mewn cysylltiad â rhywun oedd arni, ond bod dim modd rhannu manylion personol yr unigolion.

Dywed ICC bod yr holl unigolion o Gymru "yn iach" a heb symptomau, ond "mae trefniadau cadarn ar waith" os fyddan nhw'n dechrau arddangos unrhyw symptomau.

Mae'r awdurdod iechyd hefyd yn pwysleisio bod y risg i'r cyhoedd "yn isel iawn" a bod dim achosion hysbys o'r feirws yng Nghymru hyd yn hyn.

Delwedd hantafeirwsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen cyswllt hir cyn i bobl drosglwyddo hantafeirws i'w gilydd

Yn eu datganiad dywedodd ICC: "Bydd yr unigolion yn derbyn profion rhagofalus rheolaidd ac asesiadau iechyd cyhoeddus dyddiol am gyfnod eu hunan-ynysu.

"Tra bod hantafeirws yn haint difrifol, nid yw'n cael ei ledaenu trwy gyswllt cymdeithasol bob dydd fel mynd i fannau cyhoeddus, siopau, gweithleoedd, neu ysgolion.

"Yn yr achosion prin lle mae rhywun wedi dal yr haint gan rywun arall, maent wedi cael cyswllt agos a hir â'r unigolyn sydd wedi'i heintio â hantafeirws."

Aeth y datganiad ymlaen: "Mae'r holl drigolion o Gymru yn iach ac nid ydynt yn dangos symptomau.

"Os oes unrhyw un ohonynt yn dangos symptomau hantafeirws mae trefniadau cadarn ar waith i sicrhau eu bod yn cael sylw meddygol brys.

"Ar hyn o bryd nid oes unrhyw achosion hysbys o hantafeirws yng Nghymru ac mae'r risg i'r cyhoedd yn isel iawn."

Ychwanegodd ICC eu bod "yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA), byrddau iechyd Cymru ac awdurdodau lleol i ymateb i'r achosion ac i gymryd camau priodol".

Beth yw hantafeirws?

Mae hantaveirws yn cwmpasu sawl feirws sy'n cael eu cario gan lygod.

Mae wedi dod i'r amlwg mewn rhannau o Ewrop, Affrica ac Asia, ond dydy'r rhan fwyaf o'r feirysau ddim yn pasio o berson i berson.

Mewn achosion prin, gall pobl ei ddal trwy anadlu aer wedi ei heintio â gronynnau wrin, baw neu boer llygod.

Mae angen cyswllt hir cyn bod modd i berson drosglwyddo'r feirws i unrhyw un arall.

Straen Andes hantafeirws sydd wedi ei gofnodi ymhlith pobl oedd ar long MV Hondius.

Mae symptomau'n cynnwys twymyn, blinder eithafol, poen yn y cyhyrau neu'r stumog, cyfogi a dolur rhydd.

Mewn rhai achosion, mae pobl yn datblygu trafferthion anadlu difrifol, pwysedd gwaed isel neu fethiant yr arennau, sydd angen gofal ysbyty.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig