Bachgen, 16, yn ddieuog o geisio llofruddio athrawes

Ysgol Aberdaugleddau
GanOwain Evans
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae bachgen 16 oed a drywanodd athrawes yn ei phen yn Sir Benfro wedi ei gael yn ddieuog o geisio llofruddio.

Clywodd Llys y Goron Abertawe fod y bachgen, nad oes modd ei enwi oherwydd ei oed, wedi cynllwynio'r ymosodiad yn Ysgol Gyfun Aberdaugleddau gan fynd â chyllell i'r ysgol a sicrhau bod yr athrawes ar ei phen ei hun.

Ar ôl ystyried am ychydig dros bedair awr fe ddyfarnodd y rheithgor o fwyafrif bod y bachgen yn ddieuog o geisio ei llofruddio.

Ond penderfynodd y rheithgor bod y bachgen yn euog o anafu'n fwriadol ac anafu'n anghyfreithlon.

Bydd yn cael ei ddedfrydu ym mis Medi.

Llun o Vicki Williams
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y llys fod Vicki Williams wedi cael ei thrywanu yn ei phen a'i bod wedi cael anafiadau i'w bysedd a'i chefn hefyd

Roedd yr athrawes hanes Vicki Williams yn ei hystafell ar 5 Chwefror pan ddaeth y bachgen ati ar ddiwedd y dydd i ofyn iddi edrych ar ei waith. Fe ddywedodd hi wrth y llys bod hynny'n anarferol.

Caeodd ddrws yr ystafell a chlywodd y llys ei fod yn cylchdroi o gwmpas Mrs Williams cyn iddo dynnu cyllell o'i fag a'i thrywanu.

Fe geisiodd hi afael yn y gyllell a chicio'r bachgen i ffwrdd, ac fe ddisgrifiodd hi'r olwg ar ei wyneb fel un o "gasineb pur".

Wrth roi tystiolaeth dywedodd Mrs Williams wrth y llys ei bod hi'n ofni am ei bywyd ac yn meddwl ei bod hi'n mynd i farw.

Daeth yr ymosodiad i ben ar ôl iddi sgrechian am help. Dywedodd athrawes arall wrth yr achos fod y sgrech yn "iasoer".

Ysgol Gyfun AberdaugleddauFfynhonnell y llun, Pembrokeshire Herald

Cafodd y bachgen ei weld ar luniau CCTV yn rhedeg o'r ysgol yn dilyn y digwyddiad.

Aeth i dŷ ei fam-gu lle cyfaddefodd fod rhywbeth "wedi mynd" yn ei ben.

Roedd y bachgen wedi dweud wrth y rheithgor ei fod wedi dod â'r gyllell i'r ysgol fel rhan o gêm gyda ffrindiau i ddod ag eitemau amrywiol i'r ysgol heb gael eu dal ac iddo ddewis y gyllell fwyaf "i blesio ei ffrindiau".

Celwydd oedd hynny meddai'r erlyniad, ac nid oedd wedi dangos y gyllell i'w ffrindiau rhag iddyn nhw rwystro'r cynllun.

Roedd Mrs Williams yn fenyw ar ei phen ei hun ac yn "darged hawdd", meddai'r erlyniad, gan ddisgrifio'r ymosodiad fel un "llwfr".

Roedd y bachgen wedi gwadu ei hanafu yn fwriadol gan ddweud i hynny ddigwydd ar ôl iddi weld y gyllell yn ei fag a cheisio mynd â'r gyllell oddi arno.

Roedd yr erlyniad yn dadlau nad oedd yr eglurhad hwnnw'n gyson gyda'r anaf i gefn ei phen ac mai'r unig reswm iddi oroesi oedd am ei fod wedi trywanu ei phenglog ac ei bod hi wedi ymladd yn ôl.

Clywodd yr achos nad oedd yna ddrwgdeimlad rhwng yr athrawes a'r disgybl ac nad oedd y rheswm dros yr ymosodiad yn glir.

Mae disgwyl i'r bachgen gael ei ddedfrydu ddechrau mis Medi, a bydd yn cael ei gadw mewn uned ddiogel i bobl ifanc.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.