Bethan Gwanas: 'Mae llyfrgelloedd yn drysor'

Bethan GwanasFfynhonnell y llun, Cyngor Llyfrau Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bethan Gwanas

GanAngharad Rhys
Yn gohebu oBBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Wrth i'r defnydd o ffonau symudol gynyddu ymysg plant a phobl ifanc, mae mwy a mwy o athrawon a rhieni yn pryderu fod plant yn ymwrthod rhag darllen.

Ond mae ymchwil newydd gan y National Literacy Trust yn awgrymu bod nifer y plant sy'n dweud eu bod nhw'n mwynhau darllen wedi codi am y tro cyntaf ers pum mlynedd, ar ôl cwympo i'w lefel isaf ers 20 mlynedd yn 2025.

Mae'r cynnydd wedi digwydd yn ystod misoedd cyntaf Blwyddyn Cenedlaethol Darllen, sef ymgyrch i ysbrydoli pawb i ddarganfod y pleser mewn darllen ac i ddarllen bob dydd.

Mae'r lefelau dal yn isel, serch hynny, gyda tua 37% o blant a phobl ifanc rhwng wyth ac 18 oed yn dweud eu bod nhw'n mwynhau darllen yn eu hamser hamdden.

Bu'r awdures Bethan Gwanas a bardd plant Cymru, Siôn Tomos Owen, yn trafod y pwnc ar Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru.

Amrywiaeth

Dywedodd Siôn, sy'n ymweld ag ysgolion yn gyson fel Bardd Plant Cymru ar hyn o bryd, fod y sefyllfa'n amrywio yn fawr o ysgol i ysgol:

"Mae'n dibynnu ar yr ysgol. Os oes ysgol sydd efo llyfrgell da a llyfrau newydd yn aml, chi yn gweld mwy o blant yn darllen ac yn cario'r llyfrau o gwmpas.

"Y prif beth yw cael dewis beth maen nhw moyn darllen. Os ydy nhw'n gweld y llyfrau, a'n gweld llyfrau newydd, maen nhw efo mwy o siawns o ddewis a ffeindio'r llyfr sy' i'w dant nhw.

"Mae cael dewis o lyfrau newydd sbon mewn llyfrgell yn yr ysgol yn gwneud lot o wahaniaeth.

"Ac os nad oes lot o lyfrau yna, does dim siawns i blant i fynd a gweld llyfr, pigo fe lan i weld os ydy nhw'n licio'r llyfr yn y lle cyntaf."

Siôn Tomos OwenFfynhonnell y llun, Jon Pountney
Disgrifiad o’r llun,

Siôn Tomos Owen

Mae Bethan Gwanas, sy' wedi ysgrifennu nifer o lyfrau i blant, wedi gweld ymgyrchoedd gwahanol yn gwneud gwahaniaeth mewn ysgolion:

"Nôl yn y 90au ges i'n nghyflogi i drio cael mwy o fechgyn oedd ddim yn hoffi darllen i ddarllen ac oedd 'na bres i gael i wneud rhywbeth o'r enw Hei Hogia a gyrru Iwcs (Iwan Roberts) a Maldwyn John i ysgolion uwchradd i ddarllen.

"Roedd rhai o'r plant yn dweud bod nhw mwy tebygol o ddarllen [o ganlyniad] achos 'dwi'n gwybod sut maen nhw'n swnio rŵan'.

"I blant sy' ddim â'r awch a'r cariad 'ma at lyfrau mae 'na ffordd o gyrraedd atyn nhw."

Technoleg

Erbyn hyn wrth gwrs mae plentyndod wedi ei drawsnewid gan dechnoleg ac mae sgriniau yn difyrru plant a phobl ifanc yn fwyfwy, fel mae Siôn yn ei gydnabod:

"Mae 'na bethau bach yn eu pocedi nhw sy' yn denu sylw.

"Ond chi'n gallu darllen ar sgrins hefyd. Mae lot o bethau gwych yn digwydd fel rhaglen Darllen Co, lle chi'n edrych ar bethau ar ffonau symudol neu gyfrifiadur."

Mae Siôn yn credu'n gryf mewn pwysigrwydd llyfrgelloedd, meddai: "Dyw plant ddim yn gwybod beth yw llyfrgellodd weithiau.

"Mae ysgolion yn mynd mewn i llyfrgell a mae rhai o'r plant erioed wedi bod yna a ti'n gweld llygaid nhw'n goleuo lan pan maen nhw'n rhedeg rownd a gweld gwahanol fathau o lyfrau.

"Y dewis yw'r prif beth. Yn y cwricwlwm newydd mae mwy o onws ar y plant i ddweud beth maen nhw moyn. Maen nhw eisiau mwy o ddewis.

"Ar ffonau a sgriniau, chi'n gallu ffeindio rhywbeth newydd yn syth. Mae'n lot mwy anodd i ffeindio llyfrau newydd."

Mae Sion yn canmol fod mwy o amrywiaeth yng Ngwobrau Tir na n-Og eleni, meddai: "Mae lot o wahanol fathau o lyfrau, rhai ffeithiau a straeon am bêl-droed a zombies, mae lot o wahanol bethau o gwmpas.

"Dyna'r cnewyllyn yw i drio cael yr amrywiaeth yna i gael plant i sylweddoli bod 'na amrywiaeth allan yna yn y Gymraeg hefyd."

Yn ôl Bethan mae angen i rieni fod yn ran o'r ateb: "Mae llyfrgelloedd fel trysor.

"Gawn ni roi y pwyslais ar rieni [i fynd â'r plant i'r llyfrgell].

"Peidiwch â dweud wrth y plant 'chi ddim yn cael darllen hwnna'.

"Gadewch i'r plant 'neud beth maen nhw eisiau. A hefyd, peidiwch a bod yn snobscomics a nofelau graffeg ddaru'n hudo i pan oeddwn i'n blentyn. A s'nam eisiau meddwl bod comics ddim yn ddigon da."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig