Tro pedol ar gynllun i ddileu statws eglwysig Ysgol Cilgerran

Mae cynghorwyr Sir Benfro wedi gwneud tro pedol ar gynlluniau i newid statws eglwysig Ysgol Gynradd Cilgerran
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorwyr Sir Benfro wedi gwneud tro pedol ar benderfyniad i ddiddymu statws eglwysig Ysgol Gynradd Cilgerran.
Ym mis Mai, pleidleisiodd Cyngor Sir Penfro o blaid dileu statws Gwirfoddol Reoledig yr ysgol a'i newid i ysgol gymunedol 3-11 oed.
Roedd yr Eglwys yng Nghymru wedi bygwth camau cyfreithiol, gan ddweud bod y cyngor yn gweithredu mewn ffordd a allai gyfateb i "wahaniaethu crefyddol" yn erbyn ysgolion ffydd yn y sir.
Cyhuddo cyngor o 'wahaniaethu crefyddol' wrth ddiddymu statws ysgol
- Cyhoeddwyd27 Mehefin
Ysgolion Meidrim a Llangyndeyrn i gau ddiwedd y flwyddyn
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
Cau ysgolion yn Sir Gâr: 'Mae'r plant yn beio'u hunain'
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
Mewn cyfarfod yn Neuadd y Sir, Hwlffordd, ddydd Iau, dywedodd yr aelod cabinet dros addysg ac adfywio, Paul Miller, fod "yr heriau technegol yn gorbwyso manteision y cynnig hwn".
Dywedodd hefyd fod gwrthwynebiad cryf yn y gymuned i'r cynllun, gyda 97% o'r ymatebion i'r ymgynghoriad cyhoeddus yn gwrthwynebu'r newid.
Yn ôl yr Eglwys yng Nghymru, nid oes gan y cyngor hawl awtomatig i ddefnyddio'r safle ar gyfer ysgol gymunedol pe bai'r statws eglwysig yn cael ei ddileu.
Mae tua 100 o ddisgyblion yn yr ysgol. Yn ôl Paul Miller, mae gogledd-ddwyrain y sir yn wynebu heriau penodol o ran nifer y disgyblion.
"Ni allwn fwrw ymlaen â hyn, ond nid yw'r heriau wedi diflannu."
Dywedodd Prif Weithredwr ac Ysgrifennydd yr Esgobaeth, Iwan Thomas, fod safbwynt yr Esgobaeth a chymuned yr ysgol "bob amser wedi bod yn glir".
Nododd fod 97% o'r rhieni a ymatebodd i'r ymgynghoriad wedi cefnogi cadw statws yr ysgol yn un Eglwys yng Nghymru, a'u bod yn credu nad oedd y newid arfaethedig er budd cymuned yr ysgol.
Ychwanegodd eu bod yn ddiolchgar i swyddogion y cyngor am ymgysylltu â'r Esgobaeth ac am gydnabod cymhlethdodau'r sefyllfa.
"Mae'r penderfyniad hwn yn parchu'r egwyddorion y sefydlwyd Ysgol Cilgerran arnynt - rhai y mae'n parhau i'w cynnal mor llwyddiannus heddiw.
"Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda Chyngor Sir Penfro a chymuned yr ysgol i sicrhau dyfodol cadarnhaol a chynaliadwy i'r ysgol."
Ymateb y rhieni
"Mae hyd yn oed y rhai sydd ddim yn credu yn deall pwysigrwydd yr eglwys yn Ysgol Cilgerran. Y newyddion gorau," oedd ymateb Michelle Clarke, un o'r rhieni.
"Mae wedi bod yn gyfnod hir o aros ac ansicrwydd. O'r diwedd, rydym wedi cael y canlyniad roeddem ei eisiau – newyddion gwych!," meddai Julie Ramsey.
"Gwrthwynebodd nifer fawr o bobl yn y gymuned y cynnig i ddileu statws eglwysig Ysgol Cilgerran. O'r diwedd rydym wedi cael y canlyniad roeddem ei eisiau," meddai Sarah Harris.
"Er fy mod yn falch o weld y canlyniadau heddiw – rwy'n teimlo bod y penderfyniadau wedi'u gwneud ar seiliau cyfreithiol, yn hytrach na thrwy wrando ar leisiau'r gymuned leol.
"Roedd y gymuned wedi gwrthwynebu'r cynnig yn flaenorol, ond cawsant eu hanwybyddu gan y rhai a etholwyd i'w cynrychioli," meddai Dominic Harris.
"Canlyniad gwych i'n cymuned, ac un sy'n cynnal y cysylltiadau hanesyddol sydd wedi helpu i'w lunio.
"Roedd gwasanaeth Gŵyl y Cynhaeaf yn yr eglwys yr wythnos diwethaf yn enghraifft wych o fanteision addysg sy'n cael eu chefnogi gan ffydd.
"Roedd ein plant yn dysgu am bwysigrwydd rhannu. Da iawn bawb am ddangos cefnogaeth, ac yn enwedig y rhai a aeth yno heddiw – diolch am gymryd yr amser," meddai Sarah Costello.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.