Cau ysgolion yn Sir Gâr: 'Mae'r plant yn beio'u hunain'

Mae disgwyl penderfyniad terfynol ar ddyfodol Ysgol Meidrim ddydd Mercher
- Cyhoeddwyd
Mae llywodraethwr un ysgol fach yn Sir Gâr wedi dweud ei fod yn poeni am yr effaith y bydd cau'r ysgol yn cael ar les plant.
Yn ôl Glyn Harbour mae disgyblion Ysgol Meidrim wedi dechrau "beio'u hunen" fod yr ysgol yn debygol o gau wedi blwyddyn o ymgyrchu.
Mae Cyngor Sir Gâr yn bwriadu cau Ysgol Meidrim ac Ysgol y Fro yn Llangyndeyrn oherwydd "niferoedd isel o ddisgyblion" a "phwysau ariannol".
Mewn cyfarfod cyngor ddydd Mercher mae disgwyl penderfyniad terfynol ar ddyfodol y ddwy ysgol.

Yn ôl Jean Lewis a Glyn Harbour mae yna 'dristwch' wrth ddisgwyl y penderfyniad
Daw'r cyfarfod ddiwrnod ar ôl i Gyngor Sir Gâr benderfynu bwrw ymlaen â chynlluniau i ymgynghori ar gau pedair ysgol gynradd yn y sir.
Cytunodd Pwyllgor Craffu Addysg, Pobl Ifanc a'r Gymraeg y cyngor ddydd Mawrth i argymell symud ymlaen â'r broses ar gyfer Ysgol Blaenau, Ysgol Pontiets, Ysgol Carwe ac Ysgol Bancffosfelen.
Yn ystod y broses ymgynghori i gau Ysgol Meidrim ac Ysgol y Fro cafwyd "ymateb sylweddol" gan gymunedau'r ddwy ysgol, a sawl protest tu allan i adeilad Cyngor Sir Gâr.
Yn ôl Glyn Harbour, Llywodraethwr Cymunedol Ysgol Meidrim, fe wnaeth y plant "roi eu calonnau" mewn i'r ymgyrchu i gadw'r ysgol ar agor a bellach maen nhw'n "beio'u hunen".
"Maen nhw wedi canu, gwneud fideos, wedi bod tu fas i neuadd y sir.
"O'n nhw gymaint yn y broses eu hunen a phan mae pethau'n edrych yn ddrwg maen nhw'n beio'u hunen. Plant y'n nhw."
Yn siarad yn emosiynol â BBC Cymru ychwanegodd fod angen blaenoriaethu eu lles.
"Mae'n drist ofnadwy. Yn ddiweddar ni wedi cadw nhw mas o'r holl halibalŵ achos nhw sy'n dod gyntaf.
"O'n i'n arfer dweud 'Cofiwch Dryweryn', falle byddwn ni'n dweud Cofiwch Meidrim mewn blynyddoedd i ddod."

Bu plant Ysgol Meidrim yn canu wrth Neuadd y Sir ar ddydd Calan Hen mewn protest yn erbyn y cynlluniau
Doedd rhieni plant Ysgol Meidrim ddim am siarad yn gyhoeddus ond mewn datganiad fe ddywedon nhw: "Mae hwn yn gyfnod llawn emosiynau ac ansicrwydd i'n teuluoedd a'n cymuned.
"Mae pob plentyn yn wahanol, ac i rai, gall amgylchedd llai a meithringar fel Ysgol Meidrim wneud byd o wahaniaeth i'w dysgu a'u datblygiad.
"Mae Ysgol Meidrim yn eu helpu nhw i deimlo'n ddiogel, yn magu eu hyder ac yn rhoi cyfle iddynt ffynnu yn eu haddysg mewn ffordd sy'n addas iddynt.
"Mae llawer ohonom yn ei gweld hi'n anodd dod o hyd i'r geiriau i fynegi sut rydym yn teimlo.
"Am y tro, rydym yn teimlo mai'r peth gorau i'w wneud yw i gamu'n ôl o gyfweliadau unigol â'r cyfryngau a chanolbwyntio ar gefnogi ein plant a'n gilydd."

Cafodd Ysgol Meidrim ei hagor yn 1908
Ym mis Mehefin, gwrthodwyd cais am adolygiad barnwrol gan ymgyrchwyr oedd yn gwrthwynebu cau Ysgol Meidrim gan yr Uchel Lys.
Roedd yr ymgyrchwyr yn honni bod y broses ymgynghori wedi bod yn annheg.
Yn ôl y cynghorydd dros ward Trelech, Jean Lewis, wnaeth yr ysgol gynnig opsiynau er mwyn gallu cadw'r ysgol ar agor.
"Roedd yna hwb gymunedol, maen nhw wedi sicrhau ffynonellau arian ychwanegol, roedd nifer o bethau wedi cael eu harchwilio."
Ychwanegodd byddai wedi bod yn "falch i gael y cyfle" i weld os byddai'r opsiynau hynny wedi gweithio.
"Mae'n gyfnod anodd iawn i'r cyngor ar hyn o bryd, a phob cyngor arall yn y wlad am wn i.
"Maen nhw'n trial datrys y broblem wrth wneud toriadau ac yn anffodus cau ysgolion yw un o'r datrysiadau hynny."
Pam cau'r ysgolion?
Mewn cyfarfod cabinet wythnos ddiwethaf dywedodd aelod dros adnoddau, Alun Lenny, fod y cyngor yn gwario £60m ar addysg, mwy nag ar unrhyw sector arall.
Mae'r gyllideb addysg dan "bwysau sylweddol" ledled Sir Gaerfyrddin.
Mae 3,500 o lefydd gwag yn ysgolion Sir Gaerfyrddin ar hyn o bryd, ac mae'n bosib y bydd diffyg ariannol ysgolion y sir yn cyrraedd £16.4m erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.
Mae hefyd tua 1,000 yn llai o ddisgyblion cynradd yn y sir yn 2026 nag oedd yn 2021.
Clywodd y cyfarfod cabinet fod Ysgol Meidrim "yn llythrennol hanner gwag" ac yn gorwario £62,000.
Tebyg iawn yw sefyllfa Ysgol y Fro. Doedd dim plant wedi cofrestru i ddechrau yn yr ysgol ym mis Medi.
Yn ôl Alun Lenny mae disgwyl i Ysgol y Fro orwario hyd at £130,000 y flwyddyn nesaf.
Dadansoddiad
Dros y misoedd diwethaf mae sawl cymuned mewn sawl rhan o Gymru wedi mynd drwy'r boen o golli'r ysgol leol.
Mae pob sefyllfa yn wahanol ond mae na elfennau sy'n gyffredin – y mwyaf amlwg yw'r pwysau cyllidebol a gostyngiad yn nifer y disgyblion.
Dydy pryder am ddiboblogi gwledig ddim yn beth newydd ond mae nifer y plant oedran ysgol yn y boblogaeth wedi gostwng ar draws Cymru.
Ac mae disgwyl i hynny barhau - yr amcangyfrif diweddaraf yw y bydd nifer y disgyblion lawr tua 100,000 neu 23% dros y 15 mlynedd nesaf.
Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd i sicrhau bod cyllid prin ddim yn ariannu llefydd gwag mewn ystafelloedd dosbarth.
Ond dadl ymgyrchwyr – yn Sir Gâr ac mewn ardaloedd eraill – yw bod yna ddewisiadau ac nad oes rhaid cau ysgolion.

Mae Ffred Ffransis o Gymdeithas yr Iaith wedi bod yn ymgyrchu i gadw'r ysgol ar agor
Bydd gan ddisgyblion Ysgol Meidrim fynediad o hyd at addysg Gymraeg.
Bydd plant yn cael eu symud i naill ai Ysgol Hafodwenog neu Ysgol Gruffudd Jones.
Yn ôl Ffred Ffransis o Gymdeithas yr Iaith: "Dim ond £13,000 y mae'r cyngor yn ei arbed o gau ysgol Meidrim. Yn ôl ffigyrau'r cyngor dim ond 16 lle gwag fyddai wedi bod yn yr ysgol o fewn dwy flynedd."
Yn ôl Hazel Evans, dirprwy arweinydd Cyngor Sir Gâr: "Mae'r holl eitemau a gyflwynir i'r Cabinet a'r Cyngor Llawn ar gyfer penderfyniad, yn yr un modd â phob un o gyfarfodydd Cyngor Sir Caerfyrddin, yn cael eu hystyried yn briodol, yn cynnig cyfle i eitemau gael eu trafod yn llawn ac yn cael eu dilyn gan bleidlais er mwyn gwneud penderfyniad gwybodus."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Hydref

- Cyhoeddwyd19 Mehefin

- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
