Ysgol Glanaethwy yn symud safle i 'arafu' a 'thorri yn ôl ar niferoedd'

Enillodd Glanaethwy gystadleuaeth Côr y Byd yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn 2024
- Cyhoeddwyd
Mae Ysgol Glanaethwy wedi cyhoeddi eu bod yn symud o'u safle ym Mangor yn y flwyddyn newydd "a bydd peth torri yn ôl ar niferoedd ac oedran y disgyblion".
Ysgol ddrama ydy Glanaethwy, ac mae Côr Glanaethwy yn rhan ohoni.
Cafodd y busnes ei sefydlu gan Cefin Roberts a Rhian Roberts yn 1990, gan gynnal gweithdai yn Ysgol y Garnedd, Bangor ac yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy.
Prynon nhw ddarn o dir ym Mharc Menai ym Mangor yn 1995 a chodi ysgol yno, sydd wedi bod yn safle i'r busnes ers dros 30 mlynedd.
Mewn datganiad, dywedodd y cwmni ei fod "yn amser i arafu rhyw fymryn a gwerthu'r adeilad" ond nid yw'n "golygu fod y ddau yn rhoi'r ffidil yn y to o bell ffordd".

Sefydlodd Cefin a Rhian Roberts Ysgol Glanaethwy yn 1990, a phrynu'r safle presennol yn 1995
Er yr "arafu" mi fyddan nhw'n "dal i ddatblygu sgiliau ac arbrofi gyda syniadau newydd hefo'u disgyblion" meddai'r datganiad.
"Fe fydd peth torri yn ôl ar niferoedd ac oedran y disgyblion," ond bydd "rhagor o wybodaeth am hynny yn y man".
Ychwanegon nhw y bydd y "patrwm newydd o weithredu yn digwydd yn raddol a thros gyfnod o amser".

Roedd Ysgol Glanaethwy ar 'Last Choir Standing' yn 2008
Gwerthu'r tir a'r adeilad i Goleg Menai ydy'r cynllun, sefydliad sydd "wedi bod yn gymdogion i'r ysgol ers blynyddoedd bellach".
Mae Cefin Roberts a Rhian Roberts yn "hynod falch mai sefydliad addysgiadol arall fydd yn meddiannu eu hen gartref ac mae'n gysur meddwl iddynt wybod y bydd eu gweledigaeth wreiddiol o addysgu pobl ifanc yn parhau yn yr adeilad".
Glanaethwy: Ennill Côr y Byd yn Llangollen yn 'freuddwyd'
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2024
Ysgol Glanaethwy yn dathlu'r 30
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2019
Côr Glanaethwy: BGT wedi camarwain
- Cyhoeddwyd17 Awst 2015
Bydd y busnes yn cael gwared ar 'Ysgol' o'r enw ond yn cadw 'Glanaethwy', ac mae ganddyn nhw nifer o gynyrchiadau drwy'r flwyddyn.
"Cychwyn y dathliadau fydd y sioe Dinas Noddfa fydd yn cael ei llwyfannu yng Nghadeirlan Bangor ar benwythnos olaf mis Hydref 2026.
"Bydd hwn yn ddathliad dwbl gan y bydd y cynhyrchiad hefyd yn rhan o ddathliadau hynod y gadeirlan ei hun yn 1,500 o flynyddoedd ers pan sefydlodd Deiniol Sant ei glas ar lan yr Afon Adda yn y flwyddyn 525 OC.
"Cylch rhyfeddol yn hanes yr ysgol gan mai yno y cynhaliodd Glanaethwy eu cyngerdd Nadolig cyntaf un."
Diolchodd Cefin Roberts a Rhian Roberts i "bawb a'u cefnogodd dros yr holl flynyddoedd".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.