'Anrhydedd fawr' cael fy ethol yn Gymrawd yr Eisteddfod

- Cyhoeddwyd
Bydd Gethin Thomas yn cael ei gyflwyno'n Gymrawd Anrhydeddus yr Eisteddfod Genedlaethol mewn seremoni yn Eisteddfod y Garreg Las ar 4 Awst.
Dyma'r anrhydedd uchaf y gall yr Eisteddfod ei rhoi i unigolyn am flynyddoedd o wasanaeth i'r sefydliad.
Dim ond pum Cymrawd Anrhydeddus sydd gan yr Eisteddfod ar unrhyw adeg, a bydd Gethin Thomas yn llenwi'r bwlch a adawyd yn dilyn marwolaeth D Hugh Thomas yn 2025.
Bydd Gethin Thomas yn ymuno â'r Prifardd John Gwilym Jones, Geraint R Jones, Garry Nicholas a Dyfrig Roberts fel un o bum Cymrawd Anrhydeddus yr Eisteddfod.
Tair dynes yn arwain gorsedd eisteddfodau Cymru
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
Lluniau: Taith Yr Arglwydd Rhys o amgylch bro'r Eisteddfod yn dod i ben
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
Siân Eirian fydd cadeirydd newydd Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2025
Yn wreiddiol o Borth-y-rhyd, Sir Gâr, mae'r Eisteddfod wedi bod yn rhan ganolog o fywyd Gethin Thomas ers pan oedd yn blentyn.
"Daeth yr Eisteddfod Genedlaethol i Lanelli ym 1962 pan o'n i tua pedair oed, ac fe ges i fynd yno.
"Yn rhyfedd iawn, lleolwyd yr eisteddfod honno ar gaeau fyddai'n cael eu defnyddio'n ddiweddarach i adeiladu Ysgol Dewi Sant, a bum yn brifathro'r ysgol honno hyd at fy ymddeoliad.
"Mae'r gwreiddiau'n ddyfnach nag y bydde dyn yn ei feddwl," meddai.
Bu Gethin yn cystadlu mewn eisteddfodau gyda chorau yn ystod ei gyfnod yn yr ysgol, ac yn ddiweddarach gyda Chôr Mynydd Mawr a Bois y Castell.
Mae wedi gwasanaethu'r Eisteddfod mewn sawl rôl dros y degawdau, gan gynnwys fel stiward, cadeirydd y Pwyllgor Technegol yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 2000, ac yn ddiweddarach fel cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr.
Bu hefyd yn aelod o Gyngor yr Eisteddfod a'r Bwrdd Rheoli, gan wasanaethu fel cadeirydd am chwe blynedd hyd at fis Tachwedd y llynedd.
Wrth ymateb i'r anrhydedd, dywedodd: "Dwi'n teimlo fy mod wedi elwa cymaint o bob cysylltiad gyda'r Brifwyl."
Ychwanegodd: "Mae cael fy ethol yn Gymrawd gan fy nghyfoedion mewn sefydliad sydd wedi bod yn rhan mor bwysig o'm bywyd am gyfran helaeth o'm hoes yn anrhydedd fawr."
Bydd y seremoni'n cael ei chynnal ar lwyfan Pafiliwn Eisteddfod y Garreg Las am 15:20 ddydd Mawrth 4 Awst.