Tair dynes yn arwain gorsedd eisteddfodau Cymru

O'r chwith: Marlyn Samuel, Mererid Hopwood a Beryl Vaughan
- Cyhoeddwyd
Am y trydydd tro yn unig yn ei hanes, menyw sy'n arwain Gorsedd Beirdd Ynys Môn.
Yn y seremoni i gyhoeddi Eisteddfod Môn Bro Parys 2027 yn Amlwch dros y penwythnos cafodd Marlyn Samuel ei sefydlu yn dderwydd gweinyddol.
Yn bresennol yn y seremoni hefyd roedd Archdderwydd Gorsedd Cymru, Mererid Hopwood a Beryl Vaughan o Gefnllys - derwydd gweinyddol Gorsedd Powys.
Mae hynny'n golygu bod tair menyw yn arwain gorsedd eisteddfodau Cymru ar hyn o bryd.
Beth yw Gorsedd y Beirdd?
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2022
Eisteddfod: Creu Cylch yr Orsedd o gerrig glas Y Preseli 'dafliad carreg' o'r maes
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
Canu ar Fryn Briallu i gofio cyfraniad Iolo Morganwg
- Cyhoeddwyd8 Mehefin
Dywedodd Marlyn Samuel ei bod wedi cael "tipyn o sioc" pan gafodd yr alwad yn gofyn iddi dderbyn y rôl, gan ychwanegu ei bod wedi cymryd amser i ystyried y cynnig oherwydd "bod o'n gyfrifoldeb ac yn statws".
"Ro'n i'n gwybod bod o'n fraint ac yn anrhydedd mawr ac yn anodd gwrthod hefyd, a'r ffaith eu bod nhw'n ymddiried ynof i gyda'r swydd yma," meddai.
Cafodd Marlyn ei magu yn Llanddeusant ar Ynys Môn ac mae bellach yn byw ym Mhentre Berw.
Mae hi'n ddramodydd, wedi ysgrifennu sawl nofel boblogaidd ac mae hi'n cymryd yr awenau oddi wrth 'Howyddfab' sef y Parchedig Carwyn Siddall.
Annes Glyn a'r ddiweddar Sian Owen ydy'r ddwy arall sydd wedi bod yn dderwyddon gweinyddol.
Dywedodd Marlyn fod y penodiad yn arbennig o emosiynol oherwydd cysylltiad hir ei theulu â'r Orsedd.
"Mae'r Orsedd wedi bod yn rhan ohonof i ers pan o'n i'n ferch fach," meddai.
"Roedd tair modryb i mi yn aelodau o'r Orsedd, ac roeddwn i'n meddwl amdanyn nhw ar y diwrnod.
"Dwi'n gwybod fysan nhw'n hynod o falch."

Cafodd y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth, ei dderbyn i'r Orsedd ddydd Sadwrn
Ymhlith y rhai a gafodd eu hurddo i'r Orsedd yn y seremoni ar dir Ysgol Syr Thomas Jones ddydd Sadwrn, oedd Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Fel yng Ngorsedd Cymru, Rhun ap Iorwerth fydd ei enw barddol.
Dywedodd Marlyn fod y ffaith bod tair menyw bellach yn arwain y tair gorsedd yn adlewyrchu'r newidiadau sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd.
"Mae'r ffaith bod tair merch yn arwain yr Orsedd yn dangos gymaint mae'r oes wedi newid oherwydd yn y blynyddoedd a fu y dynion oedd y prif swyddogion i gyd yn yr Orsedd.
"Mae Gorsedd y Beirdd Ynys Môn, ers urddo Sian Penllyn yn 2011, yn croesawu ac yn rhoi'r cyfleoedd a pharch a statws haeddiannol i ferched."
Ychwanegodd ei bod yn gobeithio gweld mwy o gydweithio rhwng y tair gorsedd yn y dyfodol.
"Byddai'n neis cael digwyddiadau ar y cyd hefyd, ac mae'n syniad gwych bod perthynas agos rhwng y tair gorsedd.
"Tîm ydyn ni, ac mae'n rhaid i chi gael criw o swyddogion cryf, da a gweithgar tu ôl i chi."
'Arbennig ac yn drobwynt'
Dywedodd Beryl Vaughan, derwydd gweinyddol Gorsedd Powys, ei bod yn "beth anhygoel" bod tair menyw bellach yn arwain gorseddau eisteddfodau Cymru ar yr un pryd.
"Dwi'm yn trio dweud bo' ni'n well na dynion, ond 'da ni'n gallu arwain. Mae'n amser iddo fo ddigwydd."
Ychwanegodd ei bod yn gobeithio y byddai'r garreg filltir yn annog mwy o bobl ifanc i gymryd rhan yn y gorseddau ac y byddai'r tair gorsedd yn cydweithio'n agosach yn y dyfodol.
"Mae isio lot mwy o bobl ifanc fod yn ymwybodol eu bod nhw'n ddigon da ac yn barod i ymgymryd â'r swyddi.
"'Da ni'n mynd i gydweithio'n fwy efo'n gilydd rŵan ac efo'r Genedlaethol, a gobeithio wrth wneud hynny byddwn ni'n gallu rhannu syniadau a dysgu lot oddi wrth ein gilydd.
"Mae o'n arbennig ac yn drobwynt gobeithio," ychwanegodd.
Bydd Eisteddfod Môn 2027 yn cael ei chynnal yn Amlwch ar 15 Mai.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.