Kane James yn dychwelyd i'w famwlad

- Cyhoeddwyd
Mae Steve Tandy, prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, wedi enwi'r 33 chwaraewr fydd yn rhan o'r garfan ar gyfer Pencampwriaeth y Cenhedloedd yr haf 'ma.
Wedi'r fuddugoliaeth yn erbyn y Barbariaid yn Twickenham ar 27 Mehefin, bydd Cymru'n wynebu Ffiji ar 4 Gorffennaf, ac yna Yr Ariannin a phencampwyr y byd, De Affrica.
Ymysg enwau'r garfan mae'r chwaraewr rheng-ôl, Kane James, sydd eto i ennill cap rhyngwladol.
Ond pwy yw Kane James? A beth oedd ei lwybr o tuag at y garfan genedlaethol?
Cennydd Davies, prif sylwebydd rygbi BBC Cymru, sy'n olrhain ei hanes.
'Rygbi'n rhan annatod o fy mhlentyndod'
"Does unman yn debyg i adra'" yw geiriau enwog cân Gwyneth Glyn, ac mae'n gân sydd yn gallu crynhoi taith Kane James i'r dim - o'i blentyndod ar y cae rygbi i fod o fewn cyrraedd i'w gap rhyngwladol cyntaf dros Gymru.
Mae'r daith honno i raddau wedi bod yn un anghonfensiynol, o gael ei eni'n ardal Hwlffordd, cyn symud i Gaerdydd, derbyn addysg uwch ar draws y ffin a chynrychioli clwb Caerwysg.
Tan yn ddiweddar fe allai'r gŵr 21 mlwydd oed yn rhwydd fod wedi cynrychioli'r hen elyn yn hytrach na Chymru.
"Ar ôl symud o'r gorllewin ges i'n magu yn y brifddinas ac roedd rygbi yn rhan annatod o fy mhlentyndod," meddai. "Mae gen i lu o atgofion melys o gynrychioli timoedd ieuenctid St Peters ac roedd y profiad - ond yn bwysicach y mwynhad - ges i yn y gymuned honno yn amhrisiadwy o safbwynt fy natblygiad.
"Doedd symud i Loegr wir byth ar yr agenda ond fe ddaeth 'na gyfle i fynd ar draws y ffin i ddilyn fy mreuddwydion."

Yn sgorio dros Loegr yn erbyn Ffiji yng Nghwpan y Byd 2024 yn Ne Affrica
Doedd hi ddim yn syndod o gwbl y cafodd doniau James eu nodi gan nifer o ysgolion bonedd yn Lloegr, ac fe dderbyniodd ysgoloriaeth i fynychu ysgol enwog Sedbergh yn Cumbria.
Mae gan yr ysgol hanes disglair o ran meithrin a datblygu nifer o sêr sydd wedi mynd 'mlaen i gynrychioli Lloegr, gan gynnwys y cyn-gapten, Will Carling, Will Greenwood a'r cyn-ganolwr a chyn-reolwr y Llewod, John Spencer.
Ar ôl cynrychioli tîm dan 18 Cymru roedd 'na bryder fyddai ei botensial byth yn cael ei weld yn ei famwlad, a'r pryder hwnnw'n cael ei amlygu ymhellach pan gafodd ei ddewis i gynrychioli tîm dan 20 Lloegr.
Cafodd y tîm yna ei goroni'n bencampwyr byd yn 2024.

James yng nghrys Caerwysg
Roedd gweld James yn gwisgo'r crys gwyn yn erbyn Cymru y llynedd bron yn rwbio'r halen yn y briw ymhellach, er mai Cymru gipiodd fuddugoliaeth gampus ar noson arbennig ar Barc yr Arfau.
Dyw'r llif dros Glawdd Offa wrth gwrs ddim yn rhywbeth newydd, â rhai megis Ross Moriaty, Matt Protheroe ac Ioan Jones o'r Scarlets i gyd wedi gwisgo'r crys gwyn cyn dychwelyd i Gymru.
Mae ysgolion bonedd Lloegr wedi bod yn demtasiwn mawr ers blynyddoedd maith a chyfleusterau Clifton, Hartpury a Millfield yn amlwg yn atynfa – ac fe wnaeth Millfield yng Ngwlad yr Haf chwarae ei rhan yn natblygiad un o'r chwaraewyr gorau erioed, Syr Gareth Edwards.
'Cymru oedd yr unig ddewis'
Faint o bryder gwirioneddol yw hyn felly i lwyddiant y tîm cenedlaethol yn y dyfodol neu a yw'r rhod yn troi?
"Ges i gyfle euraidd i fynd i Sedbergh ac roedd yn anodd i'w wrthod," medd James.
"Ond dyw symud bant ddim at ddant pawb. Mae'r academïau yng Nghymru bellach wedi gwella'n aruthrol a'r chwaraewyr ma' nhw'n cynhyrchu yn dangos hynny.
"Chi ond yn gorfod edrych ar chwaraewyr fel Steff a Ioan Emmanuel, Tom Bowen a finnau; do fe aethon ni i Loegr ond fe benderfynom ni gyd mai Cymru oedd yr unig ddewis yn y pen draw."
Er yr ysfa barhaol i gynrychioli Cymru roedd y chwaraewr yn barod i ddatgelu ffactor allweddol arall oedd wrth wraidd ei benderfyniad, sef prif hyfforddwr Cymru, Steve Tandy, a oedd yn benderfynol o ddwyn perswad arno i gefnu ar Loegr.
Am flynyddoedd lawer roedd 'na feirniadaeth nad oedd Warren Gatland yn ddigon 'effro' i'r rheiny oedd yn gymwys ac yn chwarae tu fas i Gymru - rhywbeth sy'n groes i'r hyfforddwr presennol a'r gyfundrefn newydd, yn ôl James.

Chwarae dros Gaerwysg yn erbyn Bryste yn Ashton Gate y llynedd
"Mae e [Tandy] wedi bod yn wych yn cyfathrebu â fi. Daeth e lawr i Gaerwysg i gwrdd â fi, mae e wedi bod yn danfon adborth a'r hyn galla' i wneud i wella fy ngêm, ac wastad wedi cadw'r posibilrwydd yn agored. Dwi'n amau os bydda lot o hyfforddwr rhyngwladol yn barod i deithio i gwrdd â chwaraewyr mor aml â Steve."
Ag yntau felly yn y garfan ar gyfer yr haf, y nod nawr yw gwireddu breuddwyd ac ennill y cap cyntaf.
"Fyddai hynny yn anhygoel ac yn emosiynol i fi, i Dad a'r holl deulu nôl yn Abergwaun. Dwi am greu argraff yn y gemau - dyna'r nod, ac mi fydda hwnna yn arbennig."
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd27 Mai

- Cyhoeddwyd5 Mehefin

