Ysgol Rhuthun i gau ei drysau ar ddiwedd y tymor

Bydd Ysgol Rhuthun yn cau ei drysau ar ddiwedd y tymor ac ni fydd yn ailagor ym mis Medi
- Cyhoeddwyd
Bydd Ysgol Rhuthun yn cau ei drysau ar ddiwedd y tymor ac ni fydd yn ailagor ym mis Medi, yn ôl y cwmni sy'n rhedeg yr ysgol.
Dywedodd Ruthin Education Ltd nad oedd wedi bod yn bosibl sicrhau dyfodol ariannol cynaliadwy i'r ysgol, ac y bydd y cwmni'n mynd i ddwylo'r gweinyddwyr ar ddiwedd y tymor.
Mae'r ysgol, a gafodd ei sefydlu ym 1284, yn un o'r ysgolion hynaf yng Nghymru ac mae wedi bod yn rhan o fywyd addysgol Sir Ddinbych ers dros saith canrif.
Dywedodd y cwmni mai'r flaenoriaeth nawr yw "cefnogi disgyblion, teuluoedd ac aelodau o staff, gan gadarnhau eu bod yn gweithio gyda Choleg Myddelton yn Ninbych i sicrhau y gall disgyblion barhau â'u haddysg o fis Medi."
'Diwrnod hynod drist i bawb'
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Ruthin Education Ltd: "Gallwn gadarnhau na fydd Ysgol Rhuthun yn ailagor ym mis Medi. Mae hwn yn ddiwrnod hynod o drist i bawb dan sylw.
"Er gwaethaf pob ymdrech i sicrhau dyfodol yr ysgol, nid oedd yn bosibl sefydlu dyfodol ariannol cynaliadwy, a bydd y cwmni'n mynd i ddwylo'r gweinyddwyr yn dilyn diwedd y tymor."
Fe wnaeth y datganiad ychwanegu mai'r flaenoriaeth ar unwaith fydd cefnogi disgyblion, teuluoedd ac aelodau o staff drwy'r cyfnod pontio.
Cadarnhawyd hefyd fod y cwmni'n gweithio'n agos gyda Choleg Myddelton i sicrhau bod y disgyblion yn cael y cyfle i barhau â'u haddysg ym mis Medi, tra bydd disgyblion sy'n sefyll arholiadau yn parhau i gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw wrth symud ymlaen i'r cam nesaf.
Dywedodd y llefarydd fod trafodaethau hefyd yn parhau gyda Choleg Myddelton ynghylch sut y gellir diogelu etifeddiaeth Ysgol Rhuthun.
"Mae penderfyniad ar y cyd i sicrhau y bydd hanes unigryw a chyfraniad yr ysgol i fyd addysg yn parhau i gael eu cydnabod yn y dyfodol," meddai.
Ychwanegwyd: "Rydym yn hynod ddiolchgar i'n staff am eu proffesiynoldeb a'u hymroddiad drwy'r cyfnod eithriadol o anodd hwn, ac yn hynod flin ein bod wedi cyrraedd y pwynt hwn."
'Sioc wirioneddol'
Dywedodd Darren Millar AS ei fod wedi'i "dristáu'n fawr" gan y newyddion.
"Mae fy nghalon yn mynd allan at yr holl ddisgyblion, rhieni ac aelodau o staff sydd wedi'u heffeithio," meddai.
"Mae hyn wedi dod fel sioc wirioneddol ac mae teuluoedd bellach yn wynebu ansicrwydd difrifol ynghylch addysg eu plant, tra bod staff yn ddealladwy yn poeni am eu dyfodol.
"Y flaenoriaeth nawr yw sicrhau bod pob disgybl yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw ac yn gallu parhau â'u haddysg gyda chyn lleied â phosibl o darfu.

Yn ôl Darren Millar AS, mae hyn wedi dod fel 'sioc wirioneddol'
"Mae'n hanfodol hefyd bod staff sy'n cael eu heffeithio gan y penderfyniad hwn yn cael cymorth priodol yn ystod cyfnod mor anodd."
Ychwanegodd Mr Millar mai hwn oedd yr ail ysgol annibynnol yng ngogledd Cymru i gyhoeddi ei bod yn cau mewn ychydig wythnosau.
"Er y bydd nifer o resymau y tu ôl i'r penderfyniad, ni ellir anwybyddu'r pwysau ariannol ehangach sy'n wynebu ysgolion annibynnol yn sgil cyflwyno TAW ar ffioedd ysgolion preifat.
"Wedi'i sefydlu ym 1284, mae Ysgol Rhuthun wedi bod yn gonglfaen addysg yn Sir Ddinbych ers cenedlaethau.
"Mae ei chau yn foment hynod drist i ogledd Cymru, ond dylai hefyd fod yn rhybudd am ganlyniadau polisïau sy'n cynyddu'r pwysau ar ysgolion a theuluoedd."
Daw'r cyhoeddiad am gau yr ysgol hon ar adeg lle mae sawl ysgol breifat arall wedi dilyn yr un trywydd gan gynnwys St Gerads ym Mangor.
Bydd yr ysgol honno yn cau ei drysau am y tro olaf ddydd Gwener, 3 Gorffennaf.
Fe wnaeth Coleg Llanymddyfri hefyd gyhoeddi ei bod yn torri cyflogau staff ar ôl rhybuddion fod y coleg "ar fin cau" oherwydd pwysau ariannol yr wythnos hon.
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad am Goleg Llanymddyfri, dywedodd llefarydd ar ran Trysorlys Llywodraeth y DU bod ganddyn nhw'r "cynllun economaidd cywir" ac y bydd rhoi diwedd ar ostyngiadau treth i ysgolion preifat yn codi £1.8bn y flwyddyn.
Ysgolion eraill yn cynnig lleoedd
Yn dilyn y cyhoeddiad, mae ysgolion annibynnol eraill wedi cynnig llefydd i ddisgyblion Ysgol Rhuthun.
Dywedodd pennaeth Ysgol Rydal Penrhos, Tom Hutchinson, ei fod yn estyn ei gydymdeimlad diffuant i ddisgyblion, rhieni, gofalwyr ac aelodau o staff.
Mewn llythyr at deuluoedd, dywedodd fod llefydd ar gael yn yr ysgol o fis Medi, a bod trefniadau arbennig yn cael eu cynnig i helpu teuluoedd i drosglwyddo gyda chyn lleied â phosibl o darfu.
Mae'r rhain yn cynnwys gostyngiad ar wisg ysgol, cinio wedi'i gynnwys yn y ffioedd, gofal estynedig cyn ac ar ôl oriau ysgol heb gost ychwanegol, iPad i bob disgybl a chludiant ysgol ar rai llwybrau.
Yn y cyfamser, dywedodd pennaeth Coleg Myddelton, Lucy Davies, fod y coleg yn barod i groesawu unrhyw ddisgybl o Ysgol Rhuthun sy'n dymuno symud ym mis Medi.
Dywedodd fod y coleg, sydd tua wyth milltir o Ruthun, yn deall pa mor anodd yw gorfod newid ysgol yn annisgwyl, ac y byddai cymorth ar gael i deuluoedd lleol yn ogystal â disgyblion preswyl a rhyngwladol.
Ychwanegodd fod Coleg Myddelton yn rhannu'r ymrwymiad i sicrhau bod etifeddiaeth Ysgol Rhuthun yn cael ei diogelu a'i chydnabod yn y dyfodol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.