Gwyneth Keyworth: Actio a byw gyda ADHD

Gwyneth KeyworthFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gwyneth Keworth

GanIwan Arwel
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Un o sêr y gyfres dditectif, Death Valley yw'r actor o Aberystwyth, Gwyneth Keyworth.

Mae'r gyfres newydd o Death Valley allan nawr, ac yn ogystal â chwarae rhan y Ditectif Janie Mallowan, mae hi hefyd wedi serennu yn Game of Thrones, Black Mirror a The Crown.

Wrth siarad ar raglen Georgia Ruth ar Radio Cymru, roedd Gwyneth yn pwysleisio'r tebygrwydd sydd 'na rhyngddi hi a'i chymeriad, DI Mallowan a bod y ddwy â rhinweddau niwro-amrywiol.

Roedd hi hefyd yn sôn am ei hoffter o actio gyda Timothy Spall ac yn diolch i un o'i athrawon yn Ysgol Penweddig.

Timothy Spall a Gwyneth Keyworth
Disgrifiad o’r llun,

Gwyneth yn actio gyda Timothy Spall yn Death Valley

Mae cyfres Death Valley yn dilyn partneriaeth rhwng cymeriad Gwyneth a John Chappell, sy'n cael ei chwarae gan Timothy Spall, a'u hymdrechion nhw i geisio datrys troseddau yng nghefn gwlad Cymru.

"Mae'r berthynas rhyngddyn nhw yn rhywbeth hyfryd, mae gweithio gyda Tim yn anhygoel.

"Mae'r ddau ohonon ni yn gweithio yn eithaf tebyg. Take the work seriously but don't take yourself too seriously.

"Mae e mor dda yn be' mae o'n ei wneud ac mae'n dod â cymaint o egni i'r gwaith i feddwl cymaint o bethau mae o wedi ei wneud yn ei yrfa - mae'n National Treasure." meddai Gwyneth.

Cyn ei gyrfa actio ddechrau, roedd ei chyfnod yn yr ysgol yn un eithriadol o heriol.

Bryd hynny, roedd ymwybyddiaeth o arwyddion person niwro-amrywiol yn llai amlwg na heddiw.

Roedd Gwyneth yn cael ei labelu fel disgybl oedd ddim yn ymdrechu ac yn breuddwydio o hyd, rhywbeth oedd yn bell o fod yn wir.

Dywedodd: "Nes i ond cael diagnosis o ADHD tua dwy flynedd yn ôl.

"Roedd o wastad yn rhywbeth yn y naughties yn Aberystwyth, doedd dim lot o bobl yn sôn amdano fe, a definitely ddim lot o bobl o ran merched.

"Mae bron pob un school report s'gen i o Ysgol Rhydypennau a Penweddig yn dweud fod 'Gwyneth yn breuddwydio a ddim yn canolbwyntio, yn siaradus ac hefo lot o syniadau ond ddim yn gallu gorffen darllen'.

"Nawr ti'n edrych yn ôl arno fe, mae e mor amlwg," meddai.

'Diffyg canolbwyntio'

Wrth sôn am ei gwaith fel actor, mae hi'n sylwi ar yr un math o bersonoliaeth ac yn gallu uniaethu â chymeriad Janie Mallowan.

Mae hi hefyd yn sôn pa mor bwysig oedd hi i fod wedi darganfod gwaith fel actor yn gwybod ei bod hi'n byw gyda ADHD.

"Fi'n credu efo Jainie, a be dwi'n rhannu gyda Jainie, fi'n gwbod fy mod i mor lwcus fy mod wedi ffeindio actio.

"Roedd y pethe fel bod yn siaradus a dod â lot o syniade yn yr ysgol yn rhywbeth positif.

"Be' o'n i eisiau dangos gyda Jainie, yn enwedig yn yr ail gyfres, yw ei bod hi ddim yn delio'n dda iawn gyda paper work a sut mae hi'n gallu newid o un pwnc i'r llall.

"Mae'n rhan o'i chymeriad hi, ond beth o'n i ddim moyn gwneud oedd gwneud o'n sob story," meddai.

Wrth edrych ar ei chyfnod yn yr ysgol, mae hi'n ddiolchgar iawn i un athrawes yn arbennig ym Mhenweddig am ei hymwybyddiaeth a'i hymdrechion i'w helpu.

"Os fi'n edrych yn ôl ar fy amser yn yr ysgol, mae bron stigma i'r ffaith bod fi methu gweithio fel oedd pobl eraill a dwi'n cofio roedd hynny yn brifo hyder fi ar y pryd.

"Dwi'n cofio siarad efo Pam John, sy'n athrawes ym Mhenweddig, a 'naeth hi neud ei gorau glas i wneud yn siŵr fy mod i'n cael amser ychwanegol," meddai.

Mae Gwyneth yn falch bod mwy o ymwybyddiaeth nawr i ADHD a chyflyrau niwro-amrywiol a'i bod hi wedi dod o hyd i waith fel actor ac yn gwneud y mwyaf o'i sgiliau oedd yn cael ei gweld yn yr ysgol fel methiant neu rywbeth negyddol.

Mae modd gwylio cyfres newydd Death Valley ar BBC iPlayer.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol