Lluniau: Taith Yr Arglwydd Rhys o amgylch bro Eisteddfod y Garreg Las

Yr Arglwydd Rhys 'yn deffro o'i drwmgwsg' yng Nghadeirlan TyddewiFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Yr Arglwydd Rhys 'yn deffro o'i drwmgwsg' yng Nghadeirlan Tyddewi

GanAnna George
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae pyped Yr Arglwydd Rhys wedi bod yn teithio trwy drefi a phentrefi lleol Eisteddfod y Garreg Las am wythnos gyfan, ychydig o dan fis cyn ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â Llantwd yng ngogledd Sir Benfro.

Bydd Yr Arglwydd Rhys, a gaiff ei gofio am gynnal yr Eisteddfod gyntaf erioed yn ei gastell yn Aberteifi yn 1176, yn cyrraedd pen ei daith yng Nghastell Aberteifi ar ddydd Sadwrn 27 Mehefin lle bydd dathliad cyhoeddus.

Dechreuodd taith y cawr o byped, sydd â thaldra o bum metr, yng Nghadeirlan Tyddewi ar ddydd Gwener 19 Mehefin.

Ers hynny mae wedi bod yng Nghenarth a Chastell Newydd Emlyn, Talgarreg, Llangrannog ac Wdig.

Bydd yn crwydro Maenclochog ar ddydd Gwener 26 Mehefin cyn dychwelyd i'w drwmgwsg yng nghastell Aberteifi.

Dros yr wythnos a fu mae'r Arglwydd Rhys wedi cael cwmni trigolion lleol a beirdd a chantorion gan gynnwys y prifardd Ceri Wyn Jones, y cerddor Mari Mathias, a'r perfformiwr Eddie Ladd.

Yn ôl Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, mae'r daith "yn ddathliad pwerus o'r Eisteddfod Genedlaethol, gan anrhydeddu ei gwreiddiau wrth edrych ymlaen at ei dyfodol".

Dyma gip ar daith Yr Arglwydd Rhys hyd yma.

Y dorf yn Nhyddewi yn rhoi croeso cynnes i'r Arglwydd Rhys ar ôl iddo godi a gadael y GadeirlanFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Y dorf yn Nhyddewi yn rhoi croeso cynnes i'r Arglwydd Rhys ar ôl iddo godi a gadael y Gadeirlan

Gorymdeithio trwy ddinas lleiaf Cymru, Tyddewi, a baneri lliwiau Dewi Sant yn cyhwfanFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Gorymdeithio trwy ddinas lleiaf Cymru, Tyddewi, a baneri lliwiau Dewi Sant yn cyhwfan

Yr Arglwydd Rhys yn sefyll yn dalog ar Bont CenarthFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Yr Arglwydd Rhys yn sefyll yn dalog ar Bont Cenarth...

Sylwi ar Yr Arglwydd Rhys tra ar gwragl ar Afon Teifi Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Tra roedd rhai yn rhwyfo cwryglau ar Afon Teifi islaw

Roedd yn rhaid cael llun!Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yn rhaid cael llun!

Eddie Ladd a Mari Mathias yn cadw cwmni i'r Arglwydd Rhys yng Nghastell Newydd Emlyn, ac roedd digon o ganu a barddoniaethFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Eddie Ladd a Mari Mathias yn cadw cwmni i'r Arglwydd Rhys yng Nghastell Newydd Emlyn, ac roedd digon o ganu ac adrodd barddoniaeth

Y gymuned leol yn rhan o'r dathliadau i'r Arglwydd Rhys yng Nghastell Newydd EmlynFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Y gymuned leol yn rhan o'r dathliadau i'r Arglwydd Rhys yng Nghastell Newydd Emlyn

Daeth Merched Beca i chwilio am Yr Arglwydd Rhys yn NhalgarregFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Merched Beca i chwilio am Yr Arglwydd Rhys yn Nhalgarreg

Roedd croeso cynnes mewn ffermydd cyfagos iddo hefydFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Roedd croeso cynnes mewn ffermydd cyfagos iddo hefyd

Fe aeth Yr Arglwydd Rhys draw i wersyll yr Urdd, Llangrannog. Yn anffodus doedd dim sgîs ddigon hir iddo roi cynnig ar sgioFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Fe aeth Yr Arglwydd Rhys draw i wersyll yr Urdd, Llangrannog. Yn anffodus doedd dim sgîs ddigon hir iddo roi cynnig ar sgio

Roedd hi'n ddiwrnod poeth iawn i'r Arglwydd Rhys ar draeth LlangrannogFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Roedd hi'n ddiwrnod poeth iawn i'r Arglwydd Rhys ar draeth Llangrannog

Cranogwen yn barod i'w groesawu ar y traethFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Cranogwen yn barod i'w groesawu ar y traeth

Cyrraedd Wdig o'r diwedd ar ddiwrnod hynod o boethFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Cyrraedd Wdig o'r diwedd ar ddiwrnod hynod o boeth i'r Arglwydd Rhys

Trigolion Wdig yn heidio i groesawu'r Arglwydd Rhys i'w trefFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Trigolion Wdig yn heidio i groesawu'r Arglwydd Rhys i'w tref

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.