Beth sydd ei angen ar Wrecsam a Chasnewydd ar ddiwrnod olaf y tymor?

Dean Windass o Wrecsam a Nathan Opoku o GasnewyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n ddiwrnod hollbwysig i Wrecsam a Chasnewydd ddydd Sadwrn

GanAled Williams
Chwaraeon BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae'n benwythnos tyngedfennol i glybiau pêl-droed Wrecsam a Chasnewydd – am resymau tra gwahanol.

Gydag un gêm yn weddill o'r tymor arferol, mae gan y ddau glwb gemau hollbwysig brynhawn Sadwrn.

Mae'n argoeli i fod yn brynhawn hir a llawn tensiwn i gefnogwyr - 90 munud nerfus a chynhyrfus.

Dyma olwg ar yr hyn sy'n wynebu Wrecsam a Chasnewydd.

Wrecsam

Mae Wrecsam wedi sicrhau tri dyrchafiad yn olynol dros y blynyddoedd diwethaf.

Y tymor hwn mae'r Dreigiau wedi bod yn chwarae yn y Bencampwriaeth – sef ail haen y pyramid yn Lloegr – am y tro cyntaf ers 42 o flynyddoedd.

Phil ParkinsonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Phil Parkinson wedi goruchwylio tri dyrchafiad yn olynol

Mae tîm Phil Parkinson wedi gwneud yn well na'r disgwyl, ac mae posib iddyn nhw sicrhau lle yn y gemau ail gyfle am y siawns i ennill dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr.

Ar hyn o bryd mae'r Dreigiau yn y chweched safle yn y tabl – safle fyddai yn sicrhau lle yn y gemau ail gyfle – uwchben Hull City ar wahaniaeth goliau.

Middlesbrough, sydd yn bwrydro am ddyrchafiad awtomatig – yw'r gwrthwynebwyr ar y Cae Ras tra bod Hull gartref yn erbyn Norwich City.

Beth sydd ei angen ar Wrecsam?

Hyd yn oed pe byddai Wrecsam yn ennill, mae'n bosib na fydd hynny yn ddigon.

Os yw Hull yn curo Norwich o un gôl yn fwy na Wrecsam, yna'r clwb o Sir Efrog fyddai'n gorffen yn chweched.

Ac fe allai Wrecsam a Hull golli allan i Derby County, sydd yn mynd mewn i'r gêm olaf ond pwynt y tu ôl i'r ddau glwb.

Derby fyddai yn hawlio'r chweched safle os ydynt yn curo Sheffield United, a pe bai Wrecsam a Hull yn gollwng pwyntiau.

Ac os bydd Wrecsam a Hull yn colli, mi fyddai pwynt i Derby yn ddigon iddyn nhw gyrraedd y gemau ail gyfle, ar sail eu gwahaniaeth goliau.

Casnewydd

Tra bod y ras i gyrraedd Uwch Gynghrair Lloegr yn poethi, mae'r frwydr i aros ym mhyramid y gynghrair i lawr i'r diwrnod olaf.

Mae Casnewydd, sydd wedi bod yn rhan o Gynghrair Bêl-droed Lloegr ers 2013, wedi treulio'r rhan fwyaf o'r tymor tua gwaelodion Adran Dau.

Ond mae'r Alltudion, o dan reolaeth Christian Fuchs, wedi cadw eu gobeithion o aros yno yn fyw hyd at ddiwrnod olaf y tymor.

Christian Fuchs yn cymeradwyo cefnogwyrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cyn-amddiffynnwr Caerlŷr, Christian Fuchs, sydd wedi bod wrth y llyw i Gasnewydd ers Tachwedd 2025

Fe wnaethon nhw sicrhau buddugoliaeth ddramatig hwyr yn erbyn Oldham Athletic ddydd Sadwrn diwethaf.

Yn mynd mewn i'r Sadwrn olaf, mae Casnewydd yn 21ain allan o'r 24 clwb yn yr adran – dim ond pwynt uwchben y safleoedd cwympo.

Maen nhw'n un o bum clwb allai orffen yn y ddau isaf a disgyn i'r Gynghrair Genedlaethol.

Barrow, sydd yn y ddau isaf gyda Harrogate Town ar hyn o bryd, fydd gwrthwynebwyr Casnewydd yn y gêm olaf.

Hyd yn oed os byddai Barrow yn curo Casnewydd, mae eu gwahaniaeth goliau yn waeth na'r clybiau eraill.

Yn ogystal â Harrogate - sydd yn chwarae yn erbyn Barnet - dydy Crawley a Tranmere Rovers ddim yn ddiogel.

Mae Crawley yn herio Salford City gyda Tranmere gartref yn erbyn Grimsby Town.

Ennill, ac mae Casnewydd yn ddiogel. Ond petai'r Alltudion yn gollwng pwyntiau, yna bydd eu tynged yn ddibynnol ar ganlyniadau'r timau o'u cwmpas.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.