Taith i bob fferm odro ym Môn i godi arian i'r Sioe Fawr

Mae Gareth Pritchard Jones yn "dysgu cymaint am ei ardal ei hun" trwy seiclo
- Cyhoeddwyd
Mae ffermwr o ardal Rhos-goch ger Cemaes yn trefnu taith noddedig o gwmpas ffermydd godro Ynys Môn, i godi arian ar gyfer Sioe Frenhinol 2027.
"'Dan ni'n mynd i fod yn seiclo tua 105 o filltiroedd yn ymweld â phob un fferm odro ar Sir Fôn.
"Mae'r niferoedd wedi dod lawr yn arw - o be fedra' i weld, mae 'na 38 o ffermydd godro yn Sir Fôn.
"Tasa ni wedi gwneud y daith rhyw hanner can mlynedd n'ôl, mi fasa 'na dipyn mwy," meddai Gareth Pritchard Jones.
Bob blwyddyn mae gwahanol sir yn noddi'r sioe a'r flwyddyn nesa, tro Ynys Môn ydy hi.
Ymgyrch Môn fel sir nawdd ar gyfer Sioe Fawr 2027 am 'godi ysbryd'
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2025
Lluniau: Dydd Llun yn y Sioe Frenhinol 2025
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2025
Mae'r daith wedi ei rhannu yn bedwar darn ac yn ôl Gareth - sydd ei hun yn ffermwr godro - mae modd i bobl ymuno â darn unigol yn hytrach na seiclo'r llwybr cyfan.
"Mi fydd 'na griw bach ohona' ni'n gwneud y siwrne i gyd, ond mae 'na groeso i rywun ymuno â ni a thalu £15 y darn neu £50 i 'neud y cwbl," ychwanegodd.
Mi fydd y daith yn cychwyn ym Miwmares ac yn gorffen yn Nhafarn yr Iorwerth ym Mryngwran ym mis Awst.
Roedd Gareth ei hun yn arfer seiclo'n rheolaidd hyd at ryw 10 mlynedd yn ôl ac mi wnaeth ailafael yn y diddordeb yn gynharach eleni.
"Dwi'n mwynhau mynd ar y beic, er ei bod hi'n job cael amser a thywydd call - yn enwedig hefo cydbwyso hefo gwaith fferm pan mae hi'n braf."
'Cadw'n heini a busnesu'
"Mae'n ffordd o gadw'n heini a chael busnesu," meddai Gareth.
Ychwanegodd ei fod yn mwynhau "cael mynd ar wahanol lonydd a gweld gwahanol ffermydd, mae rhywun yn dysgu cymaint am ei ardal ei hun".
Roedd meddwl am syniad gwahanol i godi arian yn heriol, meddai Gareth, o gofio bod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd newydd ymweld ag Ynys Môn.
Ond mae'n gobeithio y bydd y syniad yma yn taro deuddeg ac yn codi ymwybyddiaeth am y diwydiant llaeth ar yr ynys.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.