Galw am sicrwydd ariannu i brosiect digartrefedd sy'n newid bywydau

Emily yn eistedd mewn parc gwyrdd. Mae'n gwisgo top pinc golau. Mae ganddi wallt melyn i'w hysgwyddau a llygaid glas.
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Emily fod ganddi iselder difrifol cyn cael help gan Llamau ac Upstream Cymru

GanGareth BryeraMatthew BassettNewyddion BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae ymgyrchwyr digartrefedd yn rhybuddio fod perygl i brosiect chwyldroadol sy'n atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru ddisgyn tu ôl weddill y Deyrnas Unedig heb arian hirdymor gan Lywodraeth Cymru.

Upstream Cymru oedd y prosiect cyntaf o'i fath yn y DU pan gafodd ei gyflwyno gan elusen Llamau yn 2020.

Roedd hynny'n dilyn prosiect llwyddiannus yn Awstralia, ac erbyn hyn mae wedi cyrraedd 12 ysgol uwchradd yn ne Cymru.

Mae tystiolaeth fod y prosiect yn arwain at ostyngiad sylweddol mewn cyfraddau digartrefedd ifanc, ond mae elusennau yn honni fod gwledydd eraill y DU bellach ar y blaen i Gymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod atal digartrefedd yn flaenoriaeth, ac y byddan nhw'n parhau i weithio gyda'r sector, gan gynnwys drwy ddeddfwriaeth newydd.

Hunlun o Emily yn ei chartre gyda gitâr trydan gwyn. Mae ganddi wallt melyn hyd at ei hysgwyddau ac yn gwiso top gwyn. Ffynhonnell y llun, Emily Mapley
Disgrifiad o’r llun,

Mae Emily wedi gweld "tro byd" ers wynebu digartrefedd yn ei harddegau cynnar

Cafodd Emily Mapley, 20, ddechrau heriol i'w harddegau.

Tra'n delio gyda bwlio a sylweddoli ei bod hi'n drawsryweddol, cafodd ei theulu eu gwneud yn ddigartref pan roedd hi'n 13.

Bu'r teulu o saith, gan gynnwys nith ifanc Emily, yn cysgu mewn dwy ystafell mewn llety dros dro am 18 mis - rhywbeth y penderfynodd hi gadw'n gyfrinach.

"Dydw i ddim hyd yn oed yn gwybod a oedd yr ysgol yn gwybod," meddai.

"Do'n i ddim eisiau i unrhyw un wybod oherwydd ro'n i'n barod yn cael fy mwlio."

Ond daeth "tro byd" wedi iddi symud i Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Illtyd yng Nghaerdydd, lle cwblhaodd arolwg byr Upstream Cymru.

"Mae'n debyg nes i dicio bob blwch o ran yr hyn y gallai Llamau ac Upstream helpu ag ef," meddai Emily.

Dywedodd ei bod hi'n cael trafferth gydag iselder difrifol ar y pryd.

"Do'n i ddim eisiau mynd allan na mynd i'r ysgol na gwneud unrhyw beth, ond yna rhoddodd Llamau weithiwr cymorth i fi - Russell - ac fe helpodd fi i fynd allan yn araf.

"Bydden i'n ei weld bob hyn a hyn, unwaith yr wythnos, dwywaith yr wythnos.

"Bydden ni'n gwneud pethau hwyl ac fe helpodd fi i ddod mas o fy nghragen."

Sut mae'r cynllun yn gweithio?

Mae Upstream Cymru yn gynllun sy'n gweithio mewn ysgolion, ac sy'n seiliedig ar brosiect yn ninas Geelong yn Awstralia, a welodd ostyngiad 40% mewn digartrefedd ymhlith pobl ifanc.

Mae'r arolwg, a gafodd ei ddatblygu ar gyfer yr elusen Llamau gan Brifysgol Caerdydd, yn gofyn i ddisgyblion am eu perthnasoedd, eu hiechyd meddwl a'u sefyllfa fyw.

Mae disgyblion sy'n ateb 'ydw' i rai cwestiynau hollbwysig yn awtomatig yn cael sgôr risg uchel - er enghraifft, os ydyn nhw'n poeni y gallen nhw redeg i ffwrdd neu gael cais i adael eu cartref yn y flwyddyn nesaf.

Mae ymchwil yn dangos mai chwalfa deuluol yw prif achos digartrefedd.

Yna, mae algorithm yn asesu'r atebion i weld pa fyfyrwyr sydd mewn perygl o fynd yn ddigartref.

Os yw disgyblion yn bodloni'r meini prawf, bydd gweithwyr prosiect sydd wedi'u lleoli yn yr ysgol yn cysylltu â theuluoedd i gynnig y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw.

Gallai hyn fod ar ffurf gwasanaethau mediation, cymorth i rieni, neu gyngor ariannol, ymhlith pethau eraill.

Mae'r ymchwil i'r prosiect yn Awstralia wedi dangos fod tua dau draean y rhai oedd yn bodloni'r meini prawf heb ddod at sylw'r awdurdodau o'r blaen, gyda ffigwr tebyg yng Nghymru hyd yma.

Mae Emily yn credu bod y gefnogaeth a gafodd hi wedi newid cwrs ei bywyd, cymaint felly nes iddi gyfarfod â Thywysog Cymru y llynedd i siarad am ei phrofiadau.

"Heb Upstream, mae'n debyg y byddwn i'n berson hollol wahanol.

"Yn bendant ni fyddwn i wedi gorffen y coleg ac efallai na fyddwn i hyd yn oed wedi dod allan [yn drawsryweddol]."

Yvonne Connolly yn sefyll o flaen posteri Llamau mewn swyddfa. Mae ganddi wallt brown i'w hysgwyddau ac yn gwisgo top streipiog.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Yvonne Connolly yn dweud fod gwario ar brosiect fel Upstream Cymru yn arbed llawer mwy o arian yn yr hirdymor

O un ysgol chwe blynedd yn ôl, mae Llamau bellach wedi ehangu'r prosiect i 12 ysgol ledled de Cymru.

Gyda dros hanner y boblogaeth ddigartref wedi profi digartrefedd cyn iddyn nhw droi'n 21 oed, dywedodd Yvonne Connolly, cyfarwyddwr gweithredol Llamau, y gallai prosiect fel Upstream gael effaith positif hirdymor ar ddigartrefedd yng Nghymru.

Mae'r gallu i ddod o hyd i bobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, ond nad ydyn nhw'n hysbys i'r awdurdodau, yn hollbwysig, meddai.

"Yr hyn rydyn ni wir eisiau gwneud yw helpu teuluoedd i beidio â chyrraedd y pwynt lle mae perthnasoedd yn chwalu," meddai.

Yn ogystal â bod y cyntaf i gyflwyno'r prosiect yn y DU, mae'r elusen hefyd wedi helpu sefydliadau eraill i sefydlu prosiectau Upstream ledled Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac yn arwain grŵp llywio'r DU a enillodd Wobr Rhagoriaeth mewn Digartrefedd eleni.

'Gallai Cymru gael ei gadael ar ôl'

Ond mae rhybudd, o fod ar flaen y gad, y gallai Cymru syrthio y tu ôl i weddill y DU.

Y llynedd, cafodd prosiectau peilot Upstream England eu cynnwys yng nghynllun cenedlaethol llywodraeth y DU i ddod â digartrefedd i ben, gydag elusen y Tywysog William, Homewards, yn cyflwyno un peilot o'r fath yn Sheffield.

"Y perygl yma yw, heb y math yna o ymrwymiad i gylldio'n hirdymor, y gallai Cymru gael ei gadael ar ôl, er gwaetha'r ffaith mai Cymru gyflwynodd hyn gyntaf," meddai Ms Connolly.

Bill Rowlands yn edrych at y camera
Disgrifiad o’r llun,

Mae tystiolaeth ledled byd yn dangos "100%" bod Upstream yn gweithio, medd Bill Rowlands

Bill Rowlands ydy cyfarwyddwr End Youth Homelessness Cymru - corff sy'n ceisio sicrhau bod llais pobl ifanc sydd wedi profi digartrefedd yn cael ei glywed.

Mae'n dweud fod y dystiolaeth o bob gwlad sydd wedi cyflwyno prosiect o'r fath, yn "rili, rili gryf yn dangos shwd mor effeithiol" yw Upstream.

"Y peryg i ni fel elusen ydy bod ni ddim yn mynd i weld y prosiect mor llwyddiannus ac y gall e fod.

"Ni 'di gweld y dystiolaeth ryngwladol, a bydd e'n siom a massive missed opportunity os ni ddim yn cymryd y cam nesa' gyda'r prosiect 'ma.

"Ni jyst isho cael yr hyder, a'r bravery i gymryd y step nesa'."

'Prosiectau arloesol'

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc yn flaenoriaeth iddyn nhw.

Dywedon nhw eu bod yn "darparu mwy na £3.7m eleni drwy'r Grant Cymorth Ieuenctid i adnabod a chefnogi pobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn ddigartref cyn gynted â phosibl".

Maen nhw hefyd yn "buddsoddi dros £3.5m mewn prosiectau digartrefedd ieuenctid arloesol ledled Cymru, gan gynnwys system Tai yn Gyntaf i bobl ifanc a dulliau eraill sy'n seiliedig ar dystiolaeth, i helpu pobl ifanc sydd mewn peryg o niwed i osgoi hynny, neu symud ymlaen o ddigartrefedd.

"Byddwn yn parhau i weithio gyda'r sector wrth i ni gryfhau ein hymdrechion i atal ymhellach, gan gynnwys drwy ddeddfwriaeth newydd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.