'Posib osgoi' gwrthdrawiad trên ble bu farw dyn ym Mhowys

Tren
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw un dyn, ac fe gafodd nifer o bobl eu hanafu yn sgil y digwyddiad

  • Cyhoeddwyd

Mae'n bosib y byddai damwain rhwng dau drên wedi cael ei hosgoi, pe bai system i ollwng tywod ar y traciau i atal llithro yn gweithio, yn ôl ymchwiliad.

Daeth y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffyrdd (RAIB) o hyd i "nam trydanol ysbeidiol" oedd yn gyfrifol am fethiannau system dywod un trên oedd yn rhan o'r digwyddiad yn Nhalerddig, Powys. Ni chafodd system dywod frys ei gweithredu gan y gyrrwr chwaith.

Bu farw Tudor Evans, 66 o Gapel Dewi, yn dilyn y gwrthdrawiad ar 21 Hydref 2024, gyda phedwar arall yn cael eu hanafu'n ddifrifol pan fethodd trên oedd yn teithio o Amwythig i Aberystwyth â stopio mewn dolen basio, cyn taro trên oedd yn teithio o'r cyfeiriad arall.

Mae'r adroddiad terfynol yn gwneud naw argymhelliad gan gynnwys gwella'r gwaith o gynnal a chadw trenau, profi systemau a gwell hyfforddiant i staff.

Mae Trafnidiaeth Cymru, ar y cyd gyda Network Rail, yn croesawu'r adroddiad gan nodi bod "damweiniau yn brin" ac mai "cwsmeriaid a chydweithwyr" sy'n parhau i fod y brif flaenoriaeth.

Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain wedi dweud bod eu hymchwiliad i'r digwyddiad "yn parhau".

Beth ddigwyddodd?

Disgrifiad,

Dyma oedd yr olygfa o'r awyr y diwrnod ar ôl y ddamwain

Roedd dau o drenau Trafnidiaeth Cymru yn teithio ar Rheilffordd y Cambrian - un tuag at Aberystwyth, a'r llall i gyfeiriad Amwythig.

Mae'r rhan fwyaf o Reilffordd y Cambrian yn drac sengl ond mae adran o drac dwbl, sef dolen Talerddig, ger safle'r gwrthdrawiad.

Roedd y trenau i fod i basio ei gilydd yn y ddolen, ond ar noson y gwrthdrawiad ni lwyddodd y trên i Aberystwyth stopio, er bod y brêc ymlaen yn llawn.

Teithiodd dros gilomedr y tu hwnt i'r man stopio cyn y gwrthdrawiad.

Map Talerddig

Roedd y trên i Aberystwyth yn teithio ar gyflymder o 24mya ar adeg y gwrthdrawiad, tra bod trên Amwythig yn teithio ar gyflymder o 6mya. Roedd gyrrwr trên Amwythig wedi llwyddo i arafu ar ôl cael rhybudd gan y signalwr.

Arhosodd y ddau drên ar y cledrau ond cafodd trên Amwythig ei wthio'n ôl tua 35 metr gan rym y gwrthdrawiad, gan achosi difrod sylweddol i'r ddau.

Ar y pryd, roedd 31 o bobl ar y trên i Aberystwyth, gan gynnwys staff, gyda chwech o bobl yn teithio i Amwythig.

Llun o ddyn mewn crys glas yn sefyll o flaen golygfa hardd o fynyddoedd mewn gwald dramor. Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Tudor Evans o Gapel Dewi, oedd yn 66 oed, yn dilyn y gwrthdrawiad

Un oedd ar y trên y noson honno oedd Bethan Evans a dywed mai cyn y "digwyddiad ofnadw'" ei bod wedi teimlo'n ddiogel teithio ar drên ond bod hynny wedi newid bellach.

Mae'n canmol y gofal a gafodd wedi'r gwrthdrawiad ond dywed na fydd hi'n anghofio "clywed sŵn uchel brêcs y trên".

"Ro'n i'n darllen ar y pryd - fi'n cofio rhoi dwylo yn clustiau fi a dim byd wedyn gan bo fi wedi passo mas.

"Cofio wedyn edrych o gwmpas ac roedd pawb mewn panic mawr. O'dd e'n brofiad gwael iawn. O'dd pawb ar y llawr, ro'n in clywed defibrillators yn mynd arno - o'dd e'n brofiad ofnus.

"Pan chi ar y trên, chi'n meddwl bo chi'n mynd i fod yn saff - chi ddim yn credu bo chi'n mynd i fod mewn damwain.

"Ar ôl y profiad hyn fi byth yn mynd i deimlo'n saff."

Bethan Evans
Disgrifiad o’r llun,

"Fi'n cofio rhoi dwylo yn clustiau fi a dim byd wedyn gan bo fi wedi passo mas," meddai Bethan Evans

Yn ôl adroddiad terfynol RAIB, roedd cyfuniad o draciau llithrig a diffygion mewn system ddiogelwch yn ffactorau allweddol yn y gwrthdrawiad.

Roedd gan y ddau drên systemau i wasgaru tywod i atal llithro - un sy'n awtomatig, ac un mae'r gyrrwr yn ei weithredu mewn argyfwng.

Difrod i ddrws blaen a ffenestr y trenau.Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Roedd difrod sylweddol i'r trenau ar ôl y gwrthdrawiad

Daeth RAIB i'r casgliad na wnaeth y system awtomatig weithio oherwydd nam, ond nad oedd y gyrrwr yn ymwybodol o hynny ac felly ni wnaeth weithredu'r ail system.

Mae RAIB yn argymell "mesurau cryfach" i atal trenau rhag mynd heibio i fannau stopio, a gwell rheolaeth mewn amodau llithrig.

'Clywed clec anferth'

Mae Ifan Edwards yn gynghorydd cymuned sy'n byw ger safle'r ddamwain. Mae'n cofio ei wraig Eleri yn dod i'r tŷ "ar ôl clywed clec anferth".

"Dyma ni'n bwyta ein swper cyn gweld goleuadau glas yn dod i lawr y ffordd. Mwyaf sydyn, roedd y ffordd wedi cau a cafon ni wybod bod tren wedi crasho."

Dyn mewn crys glas yn sefyll ym mhentref Talerddig o flaen tai.
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ifan Edwards a'i deulu ymysg y cyntaf i gyrraedd y safle

"Bues i'n stopio cerbydau yn mynd lawr y ffordd a daeth twr o gerbydau brys yma wedyn, tair helicopter ac roedd hi'n brysur yma am amser go lew."

Maen dweud bod gwersi i'w dysgu o'r gwrthdrawiad: "Da ni'n gwybod bod y darn yma o reilffordd yn un o'r serthaf yn y wlad.

"Bob blwyddyn, mae nhw'n cael trafferth gyda dail ar y llinellau. Ydyn, mae nhw wedi bod yn glanhau nhw ond pam nad ydyn nhw'n torri mwy ar y coed. Os ydy'r dail yn broblem, mae eisiau cael gwared ar y broblem.

"Da ni ddim eisiau damwain yma eto, mae hynny'n reit siwr."

Dyn gyda gwallt gwyn a barf yn gwisgo siwt las ac yn sefyll ar bont gyda cledrau tren i'w gweld yn y cefndir.
Disgrifiad o’r llun,

"Rhaid osgoi" digwyddiad fel hyn eto, meddai Elwyn Vaughan

Mae Elwyn Vaughan, Aelod o'r Senedd Maldwyn Meirionnydd, yn galw am weithredu ar holl argymhellion yr adroddiad.

"Yn aml iawn, fel welwch chi, pethau syml sydd yn arwain at ddamweiniau o'r fath.

"Rydyn ni wedi clywed am yr angen i gadw dail i ffwrdd o'r cledrau. Maen amlwg felly bod angen torri nôl mwy ar y llystyfiant.

"Un o'r pethau amlwg oedd bod pibelli sydd yn gollwng swnd allan o flaen yr injan wedi blocio, a ddim yn gweithio.

"Mae'n rhaid gwneud yn siŵr, trwy'r gwaith cynnal a chadw, bod rheiny yn gweithio yn iawn a bod digwyddiadau fel hyn ddim yn digwydd eto."

Arfon Jones
Disgrifiad o’r llun,

"Ma' 'na ddamweinie 'di bod o'r blaen ac ar ôl peth amser ma'r cwbl yn mynd dan y carped," meddai ffrind Tudor Evans, Arfon Jones

Mae ffrind i Tudor Evans wedi galw am atebolrwydd yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad.

"Mae e'n bwysig bo' ni'n cofio am Tudor yn y trychineb yma, ond hefyd ma' isie bo' nhw'n cofio bod 'na bobl eraill all golli'u bywyde yn y dyfodol," meddai Arfon Jones, 67 o Landre, oedd wedi 'nabod Tudur am dros 45 mlynedd.

"Ma' 'na ddamweinie 'di bod o'r blaen ac ar ôl peth amser ma'r cwbl yn mynd dan y carped a dyw pethe ddim yn cael ei 'neud yn iawn, ond mae'n rhaid iddyn nhw gael e'n iawn.

"Mae'n rhaid arbed bod neb arall yn cael ei ladd. Ar ddiwedd y dydd, alle fod Tudor gyda ni heddi.

"A hynna yw'r peth mae'n rhaid i'r bobl 'ma ystyried, yn lle trio rhoi bai ar rywbeth arall, jest cymryd y cyfrifoldeb bo' nhw ar fai."

Tren gyda pedwar cerbyd yn llonydd ar y cledru tra'n aros i'r tren arall ei basio.
Disgrifiad o’r llun,

Trên wedi oedi yn y ddolen basio yn Nhalerddig

Dywedodd Andrew Hall, prif arolygydd damweiniau rheilffordd, RAIB, bod y "ddamwain yn Nhalerddig yn drasiedi".

"Bu farw un person ac anafwyd eraill yn ddifrifol yn y gwrthdrawiad trên angheuol cyntaf mewn mwy na 25 mlynedd.

"Mae lefelau amrywiol iawn o afael rhwng olwynion dur a rheiliau dur yn broblem gynhenid ​​i reilffyrdd ac mae llawer o ymdrech yn mynd i reoli hyn a'i ganlyniadau posibl.

"Gall hynny gynnwys sut mae'r trac a'r ardal gyfagos yn cael eu cynnal, y ffordd y mae trenau a systemau signalau wedi'u cynllunio, a'r ffordd y mae trenau'n cael eu gweithredu a'u cynnal.

"Canfu ymchwiliad Talerddig ffactorau sy'n gysylltiedig â sawl un o'r meysydd hyn, ac yn gysylltiedig â'r ffordd y rhyngweithiodd gwahanol rannau o'r system reilffordd gyffredinol.

"Rwy'n mawr obeithio y bydd gwersi'r ddamwain hon yn darparu gwelliannau diogelwch parhaol ar linell y Cambrian a'r rhwydwaith rheilffyrdd ehangach."

Gweithwyr mewn cotiau oren yn cynnal y gwaith ymchwilio ger y tren yn dilyn y gwrthdrawiad. Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae Network Rail a Thrafnidiaeth Cymru yn dweud eu bod wedi "cydweithio'n llawn â'r ymchwiliad"

Mewn ymateb dywedodd Network Rail a Thrafnidiaeth Cymru mai "cwsmeriaid a chydweithwyr" yw'r brif flaenoriaeth.

"Mae ein meddyliau yn parhau i fod gyda theulu ac anwyliaid David Tudor Evans a'r teithwyr a anafwyd yn y digwyddiad, ac rydym yn parhau i gefnogi ein cydweithwyr a gafodd eu hanafu neu eu heffeithio."

Mae Network Rail a Thrafnidiaeth Cymru wedi croesawu'r adroddiad, a dweud eu bod wedi "cydweithio'n llawn â'r ymchwiliad".

"Er bod digwyddiadau o'r fath yma yn anghyffredin tu hwnt ar ein rhwydwaith rheilffyrdd, rydym yn parhau i ymrwymo i gydweithio fel diwydiant i ystyried argymhellion yr adroddiad yn ofalus er mwyn helpu atal digwyddiad tebyg yn y dyfodol."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig