135,000 o blant a phobl ifanc yng Nghymru gyda chyflwr iechyd meddwl

Plentyn yn siarad gyda therapyddFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae gan tua 135,000 o blant a phobl ifanc yng Nghymru gyflwr iechyd meddwl, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae adroddiad newydd gan y corff yn amcangyfrif bod gan chwarter o bobl ifanc rhwng 17 a 24 oed gyflwr iechyd meddwl sy'n gallu cael ei ddiagnosio.

Mae'r ffigwr ychydig yn is ar gyfer oedrannau iau, gydag un o bob chwech o blant rhwng wyth a 10 oed, ac un o bob pump rhwng 11 ac 16 oed gyda chyflwr iechyd meddwl.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod y cynnydd mwyaf mewn anawsterau emosiynol fel gorbryder, ochr yn ochr â chynnydd mewn anhwylderau bwyta ac ymddygiadau hunan-niweidio.

"Mae'r sefyllfa wedi bod yn fregus iawn ers rhai blynyddoedd" meddai'r seicolegydd clinigol Dr Mair Edwards, gan ychwanegu mai "diffyg gwasanaethau" dros nifer o flynyddoedd sydd ar fai.

Mae merched, pobl ifanc anneuaidd, a'r rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yn cael eu heffeithio'n anghymesur, meddai'r corff yn eu Hasesiad Anghenion Iechyd: Iechyd Meddwl Babanod, Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru.

Dywedodd ICC bod symptomau'n ymddangos pan mae unigolion yn iau ac yn gwreiddio'n ddwfn erbyn llencyndod.

Mae'r corff yn amcangyfrif bod chwarter o ferched, a hanner o blant traws neu blant sy'n cwestiynu rhywedd, yn profi llesiant meddyliol isel tra yn yr ysgol uwchradd.

Mae ystod gymhleth o ffactorau sy'n ysgogi'r tueddiadau hyn, meddai'r adroddiad, sy'n cynnwys tlodi plant, anghydraddoldeb cymdeithasol, pwysau academaidd, anawsterau iechyd meddwl rhieni a thechnoleg ddigidol.

Mae hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd perthnasoedd cynnar, cysylltiad cymunedol, gweithgarwch corfforol a chyfleoedd ar gyfer creadigrwydd fel ffactorau amddiffynnol.

'Y cylch yn mynd yn un dieflig'

Mae'r seicolegydd clinigol Dr Mair Edwards yn "hollol grediniol" mai newidiadau i bolisïau "rhyw 20 mlynedd yn ôl" a arweiniodd at golli "gwasanaethau oedd yn cefnogi plant ifanc yn enwedig yn y blynyddoedd cynnar" sy'n gyfrifol.

"Rŵan 'da ni'n gweld cenhedlaeth gyfan sydd wedi mynd drwy'r cyfnod o ddiffyg gwasanaethau a dyma 'da ni'n ei gael ar y diwedd - bod iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng Nghymru llawer gwaeth na o'n i'n disgwyl."

Aeth ymlaen ar raglen Dros Frecwast i esbonio bod "tair blynedd cyntaf plant mor bwysig i roi gwreiddiau da sydd wedyn yn eu cynnal nhw pan mae yna broblemau".

Yn ogystal â diffyg gwasanaethau dywedodd bod "cymaint o dlodi, difreintiaeth a phwysau ychwanegol oherwydd y cyfryngau cymdeithasol" i gyd yn effeithio ar bobl ifanc.

Pwysleisiodd os nad oes cefngoaeth gynnar mae'r "cylch yn mynd yn un dieflig" a bod problemau'n cael "eu cario gyda nhw yn lle cael eu datrys".

Merch yn edrych trwy ffenestr ei ystafell welyFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r adroddiad hefyd yn galw am flaenoriaethu iechyd a llesiant babanod, plant a phobl ifanc.

Mae ICC yn dweud bod 25–30% o berthnasoedd rhiant-baban yn debygol o elwa ar gefnogaeth yn ystod y 1,000 diwrnod cyntaf, ond mae'n annhebygol y bydd dwy ran o dair yn derbyn y gefnogaeth honno cyn dwy oed.

Yn ôl yr adroddiad, mae cryfhau'r berthynas rhwng rhiant a baban a buddsoddi mewn cefnogaeth yn y blynyddoedd cynnar yn gost-effeithiol ac yn darparu manteision parhaol i ganlyniadau cymdeithasol, emosiynol a datblygiadol plant.

Roedd problemau iechyd meddwl yn costio £4.8bn i economi Cymru bob blwyddyn cyn y pandemig ac mae'r costau bellach wedi codi, meddai'r corff.

'Bwysig bod ni'n gwrando ar bryderon pobl ifanc'

Dywedodd Emily van de Venter, Ymgynghorydd Llesiant Meddwl Arweiniol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae gormod o blant a phobl ifanc yng Nghymru yn profi trallod, llesiant meddwl isel a chyflyrau iechyd meddwl.

"Mae'r bobl ifanc hyn wedi wynebu heriau mawr iawn gan gynnwys y pandemig, ansicrwydd ariannol ac amgylcheddau digidol heriol.

"Ein pobl ifanc yw ein dyfodol, ac maen nhw angen cefnogaeth wrth iddyn nhw wynebu'r heriau hyn. Mae'n bwysig ein bod ni'n gwrando ar eu pryderon ac yn eu cefnogi.

"Mae angen rhoi llesiant meddyliol wrth wraidd polisi cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ac mae hynny'n dechrau o flynyddoedd cynnar iawn bywyd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.