Cyngor Gwynedd yn wynebu 'straen sylweddol' oherwydd tirlithriadau

Y cynghorydd June Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Cynghorydd June Jones fod tirlithriadau yn rhoi "straen sylweddol" ar adnoddau'r cyngor

GanLiam Evans
Newyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Gwynedd yn dweud eu bod wedi wynebu'r "flwyddyn waethaf o ran tirlithriadau" eleni a bod hynny'n rhoi straen ar adnoddau a chyllid yr awdurdod.

Yn ôl aelod cabinet y cyngor, mae angen mwy o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru os oes disgwyl i awdurdodau lleol ymdopi â sgil effeithiau newid hinsawdd fel tirlithriadau, llifogydd a thanau gwair.

Yn ardal Nefyn mae sawl tirlithriad wedi digwydd eleni, gyda rhannau o'r llwybr cyhoeddus ym Mhorthdinllaen wedi gorfod cau yn ddiweddar.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn cydnabod yr angen i addasu a newid er mwyn ymateb i sgil effeithiau newid hinsawdd.

Arwydd Tirlithriad
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Gwynedd yn dweud mai hon fu'r "flwyddyn waethaf o ran tirlithriadau"

Ers degawdau mae rhannau o arfordir Nefyn wedi bod yn llithro i'r môr wrth i dirlithriadau ddigwydd.

Digwyddodd un tirlithriad ganol mis Ebrill ac un arall ym mis Mawrth, yn ôl Cyngor Gwynedd, gan ledaenu mwd a phridd o'r clogwyni ar hyd y traeth.

Ond wrth i gost glanhau'r difrod ac atgyweirio llwybrau cyhoeddus godi, mae'r cyngor yn rhybuddio fod y gwaith yn dod â sawl her.

"Mae'n rhoi straen sylweddol," meddai'r Cynghorydd June Jones sy'n Aelod Cabinet dros Briffyrdd, Peirianneg ac Ymgynghoriaeth.

"Does 'na'm posib rhagweld pryd fyddan nhw'n digwydd ac maen nhw'n digwydd yn sydyn.

"Mae'n straen ar adnoddau a hefyd yn straen ariannol."

Yn ôl y Cynghorydd Jones, mae'n rhaid i fwy o gyllid ddod i lywodraeth leol er mwyn ymdopi â heriau tebyg.

"Meddyliwch am faint o arfordir sydd gan Wynedd, mae 'na fwy o dirlithriadau... ma'n rhaid cael cyllid ac mae'n rhaid iddo ddod o rhywle - un ai'r llywodraeth yn ganolog, Llywodraeth Cymru neu fydd yn rhaid i drethdalwyr dalu."

Dr Dei Huws, Prifysgol Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r daearegwr Dr Dei Huws yn rhybuddio y gallai newid hinsawdd arwain at fwy o dirlithriadau yn y dyfodol

Daw hyn wrth i adroddiad gan Bwyllgor Newid Hinsawdd annibynnol y Deyrnas Unedig rybuddio y gallai effeithiau newid hinsawdd, gan gynnwys tirlithriadau, ddigwydd yn amlach.

O ganlyniad i safon y tir a rhediad y dŵr, mae ardal Nefyn wedi wynebu nifer o dirlithriadau dros ddegawdau, ond mae rhai arbenigwyr yn rhybuddio y gallai'r nifer gynyddu yn y blynyddoedd i ddod.

"Mae cymunedau fel Nefyn ac unrhyw ardal arfordirol wedi gorfod ymdopi efo hyn yn y cefndir," meddai Dr Dei Huws, sy'n ddaearegwr ym Mhrifysgol Bangor.

"Mae tirlithriadau wedi bod yn digwydd.

"Dwi'n darogan erbyn y genhedlaeth nesa' y bydd hyn yn digwydd llawer mwy a byddwn ni fel cymdeithas yn gorfod ymdopi efo newid hinsawdd lot mwy na 'da ni wedi gorfod hyd yn hyn.

"Mae hwn yn un enghraifft o sut mae newid hinsawdd yn effeithio arnom ni o fewn un bywyd."

Tra'n cydnabod bod ansawdd y tir a gaeafau gwlypach yn golygu bod tirlithriadau wedi digwydd ers blynyddoedd, pwysleisiodd Dr Huws fod disgwyl i'r nifer gynyddu ac i'r digwyddiadau ddigwydd yn amlach, gan greu mwy o her i gymunedau.

Tirlithriad yn Nefyn 2021
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd tirlithriad mawr yn Nefyn yn 2021 gan achosi difrod sylweddol i'r clogwyn a rhannau o'r traeth

Yn ôl Cyngor Gwynedd, mae cyfres o dirlithriadau yn golygu bod rhannau o'r wal fôr yn ardal Nefyn yn parhau'n ansefydlog.

"Mae llawer o ddŵr yn llifo fel mwd gwlyb i'r traeth islaw.

"Pan fo digwyddiadau o'r fath, blaenoriaeth y cyngor yw ailagor y llwybr pan fo'n ddiogel gwneud hynny."

Ychwanegodd llefarydd fod y cyngor weithiau'n gorfod symud llwybr ymhellach i mewn i'r tir er mwyn diogelu llwybr yr arfordir, a'u bod yn disgwyl i achosion tebyg gynyddu wrth i effeithiau newid hinsawdd waethygu.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn croesawu'r adroddiad gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd a'u bod wedi ymrwymo i wella paratoadau'r wlad ar gyfer effeithiau newid hinsawdd.

"Drwy ymateb rŵan, fe allwn ni greu dyfodol tecach a chryfhau gwydnwch Cymru."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig