Gwarant frenhinol i arddwyr o Gaernarfon gafodd eu bygwth â machete

Sue, Bleddyn a MeinirFfynhonnell y llun, Cwmni Da
Disgrifiad o’r llun,

Sue a Bleddyn Wynn Jones gyda chyflwynydd rhaglen Garddio a Mwy - Meinir Gwilym

GanIwan Arwel
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae Sue a Bleddyn Wynn Jones o ardal Caernarfon wedi teithio'r byd yn casglu rhywogaethau prin o blanhigion a'u dod â nhw yn ôl i ogledd Cymru.

O ddringo mynyddoedd y byd, teithio trwy goedwigoedd Fietnam a chael eu bygwth gan ladron â machetes yn Guatemala, mae'r pâr sy'n rhedeg meithrinfa arddio ger Caernarfon wedi derbyn gwarant gan y Brenin.

Mae'r warant yn cydnabod dros 30 mlynedd o waith yn cyflenwi planhigion i Balas Buckingham ac ystadau brenhinol eraill fel Balmoral a Sandringham.

Dywedodd Sue: "Roeddem yn falch iawn o dderbyn y newyddion am y warant frenhinol.

"Ni yw'r unig feithrinfa blanhigion yng Nghymru i gael y fath anrhydedd ac ar hyn o bryd dim ond 14 o fusnesau eraill sydd wedi derbyn y gwarantau yng Nghymru."

Lladron â machete

Mae anturiaethau'r ddau i chwilio am blanhigion ar draws y byd yn cynnwys sefyllfaoedd eithaf brawychus.

Dros 35 mlynedd, mae'r ddau wedi teithio o amgylch Asia, y Dwyrain Canol a De America yn chwilio am rywogaethau planhigion sy'n gallu ffynnu yn hinsawdd Prydain.

Yn Guatemala roedd lladron yn eu cyffwrdd â llafnau eu cyllyll tra bod gweddill y gang yn cuddio mewn llwyni gerllaw. Bryd hynny fe gollodd y pâr gamerâu a watshys cyn iddyn nhw ffoi.

Ym Mecsico, mi wnaeth milwyr ar ochr y ffordd fynd â phopeth gwerthfawr o'u cerbydau a phan adroddodd y pâr am y lladrad i'r heddlu, ymateb y plismyn oedd bygwth rhoi Sue a Bleddyn eu hunain dan glo.

Sue, Bleddyn a MeinirFfynhonnell y llun, Cwmni Da
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sue a Bleddyn wedi teithio'r byd yn casglu planhigion prin

Maent wedi darganfod cannoedd o blanhigion nad oedd neb yn gwybod am eu bodolaeth o'r blaen ac wedi cyflwyno mwy na 4,000 o gyltifarau i Brydain

Yn eu plith roedd rhywogaeth newydd ryfeddol o lili a math hollol newydd o blanhigyn o deulu'r gollen ystwyth, gan achosi tipyn o gyffro ymhlith botanegwyr ledled y byd.

Ychwanegodd Sue: "Yn y dyddiau cynnar doedd dim ffonau symudol, dim rhyngrwyd, dim mapio GPS ac roedd popeth wedi'i drefnu trwy lythyrau, galwadau ffôn a gair ar lafar.

"Yn ystod ein teithiau rydym wedi cyfarfod pobl wych ac wedi gwneud ffrindiau am oes."

Garddwyr y Brenin

Ers degawdau mae garddwyr Palas Buckingham wedi bod yn teithio i ogledd Cymru i gwrdd â Bleddyn a Sue a chael cyngor am blanhigion o dramor.

Dywedodd Sue: "Rydym wedi gwneud llawer o waith yn cyflenwi amryw o'r gerddi brenhinol.

"Byddai'r prif arddwr ym Mhalas Buckingham yn dod yma i godi planhigion a phan aethom i arddwest ar dir y palas roeddem yn gallu gweld ein planhigion yn tyfu yno.

"Roedd honno'n wefr arbennig."

Bydd hanes Sue a Bleddyn a'i meithrinfa Crug ger Caernarfon i'w weld ar raglen Garddio a Mwy ar S4C nos Lun am 20:25.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb: