Lluniau: Ras y Gader 2026

GanRhys Ffrancon
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Ar ddydd Sadwrn, 16 Mai, roedd Dolgellau yn fwrlwm wrth i Ras y Gader gael ei chynnal yn y dref unwaith eto.

Mae'r ras flynyddol yn dechrau yn Sgwâr Eldon, gan ddilyn i fyny Ffordd y Gader at Tŷ Nant, ac yna i fyny'r llwybr tuag at fynydd Cader Idris, cyn dod nôl yr un ffordd a gorffen yn y Sgwâr.

Roedd y ras eleni'n llwyddiant ysgubol unwaith eto, a dyma rai o'r golygfeydd o'r diwrnod gan y ffotograffydd o Wynedd, Gwynfor James o Sport Pictures Cymru.

Ras y Gader 2026Ffynhonnell y llun, Sport Pictures Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cyn i ras yr oedolion ddechrau roedd cyfle i'r plant redeg

Ras y Gader 2026Ffynhonnell y llun, Sport Pictures Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Y ffermwr a chyflwynydd o'r dref, Alun Elidyr, yn gwneud ei ddyletswyddau ar y meic

Ras y GaderFfynhonnell y llun, Sport Pictures Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cefnogwyr yn ymgynnull yn y sgwâr

Ras y Gader 2026Ffynhonnell y llun, Sport Pictures Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r plant lleol yn barod i redeg

Ras y Gader 2026Ffynhonnell y llun, Sport Pictures Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'Ras Hwyl' y plant rhyw 600m o hyd ac yn dechrau a gorffen yn y Sgwâr Eldon

Ras y Gader 2026Ffynhonnell y llun, Sport Pictures Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mam yn helpu ei merch i orffen y ras

Ras y Gader 2026Ffynhonnell y llun, Sport Pictures Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Seren lleol - y gyrrwr rali, Elfyn Evans

Ras y Gader 2026Ffynhonnell y llun, Sport Pictures Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Y rhedwyr yn paratoi am yr her o'u blaenau

Ras y GaderFfynhonnell y llun, Sport Pictures Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cyfle am hufen iâ, beth bynnag yw'r tywydd

Ras y Gader 2026Ffynhonnell y llun, Sport Pictures Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Y ras yn dechrau - bron i 11 milltir i fyny'r Gader ac yn ôl

Ras y Gader 2026Ffynhonnell y llun, Sport Pictures Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Rhedeg ar y llethrau

Ras y Gader 2026Ffynhonnell y llun, Sport Pictures Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cader Idris yn 893m (2,930tr) o uchder

Ras y Gader 2026Ffynhonnell y llun, Sport Pictures Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhai mewn hwyliau da er gwaethaf pa mor heriol oedd y ras

Ras y Gader 2026Ffynhonnell y llun, Sport Pictures Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o Glwb Rhedeg Eryri ar eu ffordd i fyny

Ras y Gader 2026Ffynhonnell y llun, Sport Pictures Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae golygfeydd godidog o'r Fawddach o'r llwybr hwn... ond doedd dim amser i'r rhedwyr stopio i fwynhau'r rheiny yn ystod y ras!

Ras y Gader 2026Ffynhonnell y llun, Sport Pictures Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n gyflymach dod nôl lawr... ond hefyd yn anoddach ar y pengliniau!

Ras y Gader 2026Ffynhonnell y llun, Sport Pictures Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Y rhyddhad o groesi'r llinell derfyn

Ras y Gader 2026Ffynhonnell y llun, Sport Pictures Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Yn gorffen yn Sgwâr Eldon

Ras y Gader 2026Ffynhonnell y llun, Sport Pictures Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Y wên o wybod bod y llinell derfyn o fewn ychydig lathenni

Ras y Gader 2026Ffynhonnell y llun, Sport Pictures Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cynrychiolaeth gref o Glwb Rhedeg Meirionnydd unwaith eto

Ras y Gader 2026Ffynhonnell y llun, Sport Pictures Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Un arall a oedd yn cynrychioli'r clwb lleol

Ras y Gader 2026Ffynhonnell y llun, Sport Pictures Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd 398 o redwyr yn rhedeg eleni

Ras y Gader 2026Ffynhonnell y llun, Sport Pictures Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Rhedwr lleol arall, Helen, yn dathlu gyda'i mam ac aelodau eraill o'i theulu wedi'r ras

Ras y Gader 2026Ffynhonnell y llun, Sport Pictures Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd digon o adloniant, sŵn a lliw yn Y Sgwâr drwy gydol y dydd

Ras y Gader 2026Ffynhonnell y llun, Sport Pictures Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r cefnogwyr iau'n mwynhau'r achlysur

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig