Prinder therapyddion yn creu sefyllfa 'beryglus' yn rhai unedau newydd-anedig

Roedd angen cymorth ar efeilliaid Lowri Price i anadlu a llyncu, ar ôl cael eu geni dri mis a hanner yn gynnar
- Cyhoeddwyd
"Roedd y gefnogaeth gan y therapyddion iaith a lleferydd wir yn allweddol i fy efeilliaid."
Fe gafodd babanod Lowri Price, 38, eu geni 14 wythnos yn gynnar yn 2024 a bu'n rhaid iddyn nhw gael cymorth gan y tîm lleferydd ac iaith i helpu iddyn nhw lyncu ac i fwyta.
Bellach mae yna rybudd bod y sefyllfa yn rhai o unedau newydd-anedig Cymru yn beryglus oherwydd prinder therapyddion.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod therapyddion lleferydd ac iaith yn cael eu cefnogi i ddarparu gofal amserol ac o ansawdd uchel.

Roedd cryn heriau wedi'r enedigaeth, medd Lowri, sy'n ddiolchgar am gymorth therapyddion arbenigol
"Fe wnaethon nhw golli allan ar lot fawr o ddatblygiad a thyfiant sydd fod i ddigwydd yn y groth ac mae hwnna yn dod â môr o heriau," meddai Lowri.
"Dydy'r ysgyfaint ddim wedi datblygu, dydy'r organau ddim wedi datblygu, mae eu croen bach nhw'n denau, a hefyd dydy eu llwnc ddim wedi datblygu.
"Mae angen i ni gyd fwyta, rhaid i ni gyd cael y maeth rydyn ni angen, ac roedd hwnna'n her fawr iddyn nhw."
Roedd angen gofal dwys ar ei hefeilliaid am fisoedd, ac yn ôl Lowri roedd cefnogaeth y tîm therapi iaith a lleferydd yn yr ysbyty yn rhan allweddol o'u taith.
"Roedden nhw'n cael eu bwydo trwy diwb - roedden nhw'n cael mililitr o laeth y fron ar y tro.
"Wedyn yn hwyrach ymlaen roedden ni'n siarad am sut i symud nhw oddi ar y tiwb a rhoi cyfleoedd iddyn nhw gallu datblygu y cyhyrau, y llyncu ac ati, felly roedd y gefnogaeth gan y tîm iaith a lleferydd yn allweddol."
'Pryder enfawr'
Yn ôl adroddiad newydd gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith, mae prinder staff yn y maes wedi gadael y gwasanaeth dan bwysau difrifol.
Mae'r Coleg yn dweud bod y sefyllfa'n arbennig o bryderus mewn adrannau newydd-enedigol wrth i ddiffyg cefnogaeth effeithio ar ddatblygiad y babanod mwyaf bregus.
Mae therapyddion iaith a lleferydd yn helpu amrywiaeth o gleifion, gan gynnwys rhai sydd wedi cael strôc, rhai sy'n cael gofal dwys a babanod sydd â phroblemau bwydo, llyncu a chyfathrebu.

Mae'r ffaith bod cyn lleied o fyrddau iechyd yn cwrdd ag argymhellion y coleg brenhinol "yn siomedig iawn", medd Caroline Walters
Yn ôl Caroline Walters o Goleg Brenhinol Therapyddion Lleferydd ac Iaith, mae'r sefyllfa'n "peri pryder enfawr".
"Os y'n ni'n edrych ar strôc, mae therapyddion lleferydd a iaith yn gweithio ar draws y trywydd strôc, yn y cam acíwt, rehab a mas yn y gymuned.
"Yn y cam acíwt, dim ond un o'r byrddau iechyd sy'n cwrdd â'n argymhellion.
"Yn y maes rehab, does dim un o'r byrddau iechyd yn cwrdd â'r canllawiau, ac mae hyn yn siomedig iawn."
Mae'r coleg yn galw ar y llywodraeth i sicrhau "cylliad cynhaliadwy" ar gyfer y gwasanaeth yng Nghymru.
Bron 15% o swyddi gwag mewn mannau gwledig
Yn ôl ymchwil y coleg, mae dros 5% o'r swyddi therapi iaith a lleferydd yng Nghymru yn wag.
Mewn mannau gwledig, mae hynny'n codi i bron 15%.
Mae chwech o'r saith bwrdd iechyd hefyd yn dweud nad oes ganddyn nhw ddigon o staff i allu ddiwallu anghenion y gwasanaeth.
Er gwaethaf y pwysau ar y gwasanaeth, mae pedwar o'r saith bwrdd iechyd wedi rhewi swyddi dros y flwyddyn ddiwethaf, sydd yn cael effaith sylweddol ar raddedigion newydd.

Fe allai fod yn anodd i ddarpar therapyddion iaith gael swydd yn y dyfodol agos, medd Catrin Khalbi
Cafodd Catrin Khalbi swydd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr chwe mis ar ôl graddio, ond doedd hi ddim yn hawdd.
"O be dwi'n deall, fi'n credu mae'n mynd i waethygu," meddai.
"Mae'r cwrs yn Wrecsam yn tyfu pob blwyddyn felly mae yna fwyfwy o therapyddion yn chwilio am swydd."
'Galw uchel' am therapyddion iaith a lleferydd yng Nghymru
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2025
'Siarad Cymraeg yn well na Saesneg ar ôl cael strôc'
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2024
'Dim digon o gymorth' i blant ag anghenion siarad
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2023
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Nid yw'r GIG yn ddim byd heb ei staff.
"Mae'n hanfodol bod ei weithlu, gan gynnwys therapyddion lleferydd ac iaith, yn cael ei gefnogi i ddarparu gofal amserol ac o ansawdd uchel i bawb sydd ei angen.
"Mae'r Prif Weinidog bellach wedi penodi ei Gabinet a fydd... yn canolbwyntio ar wneud yr hyn sydd orau i Gymru.
"Bydd pob Gweinidog yn nodi ei flaenoriaethau cyn bo hir."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.