Beth ydy 'Cymru' mewn Klingon? Dathlu Star Trek yn 60

Gary SlaymakerFfynhonnell y llun, Gary Slaymaker
Disgrifiad o’r llun,

Fi ar command deck yr Enterprise (o Star Trek: Next Generation); rhan o'r Star Trek experience mewn gwesty yn Las Vegas

GanGary Slaymaker
Trekker
  • Cyhoeddwyd

Mae'r gyfres Star Trek wreiddiol yn dathlu pen-blwydd yn 60 eleni, ac mae'r cyflwynydd Gary Slaymaker wedi bod yn chwilio am gysylltiadau Cymreig gyda'r gyfres gwlt.

Yn 2004, fe wnaeth Herbert Solow a'i wraig ymadael â'u cartre yng Nghaliffornia, a symud i fyw i Gymru. Yn fwy penodol, 'nethon nhw symud i fyw i Lambed... i Bryn Road... chwe drws lawr o'r tŷ lle fues i'n byw pan symudon ni gynta i'r dre.

Treuliodd Herb y bum mlynedd nesa' yn darlithio rhan amser yn adran cyfryngau Prifysgol Llambed, ac fe wnaeth e a'i wraig, Yvonne, ddysgu Cymraeg, tra bod nhw'n byw yn yr ardal.

Yn 2009, fe wnaeth y pâr symud nôl i Galiffornia, lle bu farw Herb, 11 mlynedd yn ddiweddarach.

Dim ond rhyw dair blynedd yn ôl 'nes i ddarganfod bod Herb wedi byw yn y dre lle ges i'n magu.

Pe bawn ni'n gwbod amdano tra bod e dal yn yr ardal, fydden i wedi bod yn curo ar ei ddrws i weud helo, a pigo'i frêns ynglŷn ag un o'r cyfresi mwya' eiconig welwyd ar y sgrin fach.

Criw llong ofod yr EnterpriseFfynhonnell y llun, Sunset Boulevard/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Criw llong ofod yr Enterprise yn y gyfres wreiddiol yn 1966

Chi'n gweld, nôl yn 1964, ro'dd Herb yn Is-lywydd Cynhyrchu cwmni Desilu - y cwmni teledu a ffurfiodd gan y gomedïwraig Lucille Ball, a'i gŵr, y cerddor Desi Arnez.

Ro'dd Herb yn gyfrifol am ddod o hyd i brosiectau newydd ar gyfer y cwmni, ac yn 1965, fe gwrddodd â'r cyn-beilot, a chyn-bennaeth PR i'r LAPD, Gene Rodenberry.

Ro'dd gan hwn syniad am gyfres teledu ffug-wyddonol newydd – Star Trek – a fuodd Herb o gymorth mawr yn cael siâp a strwythur i'r sioe. Fe wnaeth gyflwyno'r syniad o'r 'Captain's Log' i'r gyfres – ffordd o gael y gwyliwr up to date ar ddechrau pob pennod.

Mae e dal yn rhyfeddod llwyr i fi, fel 'Trekker', bod un o'r bobl wnaeth greu'r clasur yma o deledu cwlt, wedi byw o fewn tafliad carreg i'n hen gartre.

A gan fod Star Trek yn dathlu ei benblwydd yn 60 eleni, fues i'n chwilio am fwy o gysylltiadau Cymreig sy'n perthyn i Starfleet a'r gofodwyr.

Y Gymraeg yn y gofod

Ma'r un gynta'n perthyn i bennod o Star Trek: The Animated Series y 1973 – cyfres animeiddio oedd yn cynnwys lleisiau'r actorion o'r gyfres wreiddiol.

Yn y bennod The Lorelei Signal, ma' cymeriad Montgomery 'Scotty' Scott yn canu darn o faled, o waith y bardd Eifion Wyn (Cwm Pennant) – Yr Hufen Melyn.

Allwch chi ffeindio'r darn ar-lein, dolen allanol, ac am ddyn ga'th ei eni yng Nghanada, i rieni Gwyddelig, ma' James Doohan yn gwneud jobyn lled dda o ganu'n Gymraeg.

James DoohanFfynhonnell y llun, CBS Photo Archive/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

James Doohan - oedd yn actio Scotty - a ganodd baled Gymraeg gan Eifion Wyn yn y gyfres

A gan bo' fi'n sôn am Mr Doohan, wnaeth ei allu ieithyddol ymestyn ymhellach, gan bod e'n un o'r tîm cynhyrchu wnaeth helpu i datblygu iaith y Klingons a'r Vulcans.

Ma 'na rai sy'n barnu bod Klingon wedi'i seilio ar y Gymraeg, gan bod hi'n gwneud defnydd helaeth o "ch" ac "ll". A galla i ddeall pam; gan bod y Cymry, fel y Klingons, yn wariars anrhydeddus sy'n hoff o yfed, a gyda thymer bur chwedlonol, bron, pan ma' nhw'n cael eu amharchu.

Yn fwy diweddar yn yr ail gyfres o Star Trek: Discovery, ma' 'na olygfa ar fwrdd y llong ofod, Discovery, lle mae'r universal translator (y peiriant sy'n galluogi i bawb ddeall ei gilydd) yn torri. O ganlyniad, mae'r llong yn troi fewn i Dŵr Babel y dyfodol, wrth i'r criw cyfan ddechrau siarad mewn ieithoedd gwahanol.

Ymhlith yr holl siaradwyr, mae'r swyddog cyfathrebu, R.A. Bryce yn yngan brawddeg yn y Gymraeg. Mae'n weddol amlwg nad yw'r actor sy'n chwarae Bryce (Ronnie Rowe Jr) yn Gymro go iawn, gan bod ei fynegiant e ddim yn berffaith... ond mae yn weddol amlwg ma'r Gymraeg sy'n cael ei siarad.

Caws ar dost a'r corrach

Ma' 'na ddau gysylltiad Cymreig i'r gyfres Star Trek: Voyager. Yr un gwana' yw'r ffaith bod capten y llong ofod Voyager, Kathryn Janeway, yn hoff iawn o bryd o Welsh Rarebit. Mae'n fwyd mae'n cofio'i thaid yn paratoi pan o'dd hi'n ferch fach, a ma'r cariad tuag at y cinio bach syml wedi parhau ers hynny.

Criw VoyagerFfynhonnell y llun, CBS Photo Archive/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Criw Voyager oedd angen help John Rhys-Davies (neu Leonardo Da Vinci) i drechu'r Borg - yn y canol yn y blaen mae Capten Kathryn Janeway, sy'n mwynhau Welsh Rarebit

Ma'r ail gysylltiad yn un od, i raddau; achos dyma'r unig esiampl (hyd yn hyn) o unrhyw actor Cymreig sydd wedi ymddangos yn Star Trek, ar y sgrin fach neu'r sgrin fawr. John Rhys-Davies yw'r actor yna.

Yn dod o Rydaman, mae'n fwya' enwog am chwarae Sallah yn y ffilmie Indiana Jones, a Gimli'r corrach yn Lord of the Rings. Ond fe wnaeth John ymddangos mewn dwy bennod o Voyager fel fersiwn hologram o'r artist enwog, Leonardo Da Vinci; yn cynnig cyngor i Janeway yn ystod cyfnodau o argyfwng.

Mae'n gysur i w'bod fod y dyn wnaeth beintio'r Mona Lisa hefyd yn gwbod fel odd trechu'r Borg, prif elynion Starfleet.

UFO yng Nghaerdydd?

Ond ma'r cysylltiad mwya' niwlog ond perffaith rhwng Cymru a Trek yn perthyn i Lywodraeth Cymru.

Nôl yn 2015, fe wnaeth rhywun ddanfon llythyr i'r Senedd, yn awyddus i gael gwybodaeth am honiadau o olion UFOs o gwmpas maes awyr Caerdydd.

Chware teg, fe ga'th yr holwr ei ateb, mewn llythyr yn yr iaith Klingon... o'dd yn gweud,

"jang vIDa je due luq. ach ghotvam'e' QI'yaH devolve qaS" ("Bydd y gweinidog yn ymateb maes o law. Fodd bynnag, dydy'r mater yma ddim wedi ei ddatganoli.")

KlingonFfynhonnell y llun, Michael Ochs Archives/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Klingon - iaith sy'n cael ei siarad gan dras y Klingons (a rhywun yn Llywodraeth Cymru)

Neis i weld bod 'na synnwyr digrifwch yn perthyn i'n Llywodraeth.

Felly, gyda diolch i Herb Heol y Bryn (fel wnaeth neb ei alw), pen-blwydd hapus Star Trek, a diolch am 60 mlynedd o ddiddanwch pur.

I'r sawl sydd â diddordeb, fy hoff gyfres deledu Trek yw Strange New Worlds, a'n hoff ffilm yw Star Trek: Wrath of Khan. "I have been, and always shall be, your friend".

O'n rhan i, 'dw i wedi bod, a fydda i wastod, yn ffan.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig