Trystan Llŷr Griffiths: 'Positifrwydd ar ôl diagnosis diabetes ein plentyn'

- Cyhoeddwyd
Mae Trystan Llŷr Griffiths yn llais cyfarwydd i lawer, yn ganwr opera sydd wedi perfformio ar rai o lwyfannau mwya'r byd.
Ond yn ddiweddar fe gafodd Trystan a'i wraig, Gwen, y newyddion bod eu merch, Efa, wedi cael diagnosis o diabetes math 1.
Daeth y newyddion fel syndod i Trystan a Gwen, gan fod Efa'n ferch iach a heini saith mlwydd oed, ac yn arddangos ychydig iawn o symptomau.
Siaradodd Trystan a Gwen gyda Cymru Fyw am ddiagnosis Efa.
Syched yn brif symptom
"O'n i mas yn gweithio ym Mrwsel," meddai Trystan. "Des i nôl ar ôl mis, ar benwythnos cyntaf Mehefin, a sylwi bo' Efa 'di colli tipyn bach o bwyse, ond o'n i'n credu mai lawr i jest tyfu o'dd e.
"Ond o'dd Gwen wedi sylwi bod Efa'n sychedig trwy'r amser ac eisiau mynd i'r toiled o hyd, felly 'nath Gwen wneud apwyntiad gyda'r doctor."
Wedi'r symptomau cynnar o syched, dywedodd Gwen fod y meddygon yn Ysbyty Glangwili'n eitha' siŵr beth fydde'r diagnosis.
"Y syched oedd y peth mwya' i mi sylwi, ac o'dd hi wedi colli pwyse, ond o'n i'n meddwl mai rhyw growth spurt o'dd e. O'n i'n meddwl bod e werth checo fe mas achos roedd rhywbeth yn canu cloch fod bod yn sychedig yn un o symptomau diabetes.
"Aethon ni at y meddyg teulu ac fe wnaethon nhw brawf gwaed a checio'r wrin. Oedd ei lefelau siwgr hi drwy'r to, off y scale yn llwyr, a 'naethon nhw ddweud y dyle ni fynd adre' a phacio overnight bag a mynd yn syth i'r ysbyty, i fynd yn syth ac i beidio gwastraffu amser - roedd e'n sioc enfawr.
"Roedden nhw'n eitha' sicr yn syth o beth oedd e."

Y teulu ar daith lan môr
Ers diagnosis Efa mae Gwen wedi dysgu'n helaeth am diabetes, ac hefyd y ffaith bod ei merch ddim yr unig blentyn yn yr ardal â'r cyflwr.
"Mae 'na dîm diabetes plant ffantastig yn Ysbyty Glangwili, ac roedd e'n agoriad llygaid i ddweud y gwir achos oedd e'n chwe diwrnod o aros mewn, i gael hyfforddiant o sut i ddelio gyda'r cyflwr.
"Felly bob dydd roedd Efa a fi'n mynd draw at yr uned diabetes a chael gwahanol sesiynau gyda'r nyrsys arbenigol i ddysgu ni sut i ddelio 'da hyn, i gyfri'r unedau o inswlin oedd eisiau, cael hyfforddiant gan y dietegwyr, gallu cyfri'r carbohydrates cyn bwyta... roedd e'n sioc i'r system ac yn lot i ddysgu am ffordd hollol newydd o fyw."

Gwen ac Efa'n siarad gyda Trystan ar Facetime
"Oedd e'n sioc i ni gymaint o blant ifanc sy'n byw gyda'r cyflwr," meddai Gwen.
"So ti'n sylwi nes bod e'n effeithio ar dy deulu di. Mae gymaint wedi cysylltu â Trystan a fi yn dweud "mae plentyn fy mrawd i 'da hwn" neu rhywbeth fel 'na... a lot o blant ifanc iawn, yn fabis neu'n rhyw ddwy flwydd oed."
Roedd Gwen yn poeni i ddechrau beth fyddai wedi gallu cyfrannu at Efa'n datblygu'r cyflwr.
"Y peth cyntaf ddaeth i'n meddwl i oedd 'ydyn ni wedi bwydo hi'r pethau anghywir, a rhoi gormod o losin iddi?'...
"Ond fe dd'wedodd yr ysbyty yn hollol glir bod e ddim yn fai ar neb ac mae'n un o'r pethau 'na sy'n gallu effeithio ar unrhyw un, a roddodd 'chydig bach o gysur i ni."

Trystan gyda Efa, Lefi ac Alaw
'Methu helpu'
Roedd y diagnosis a'r cyfnod yn yr ysbyty yn anodd i Trystan gan ei fod i ffwrdd yn canu ar gyfandir Ewrop ar y pryd.
"O'n i bant ym Mrwsel am ddau fis, ac dim ond diwrnod a hanner o'n i'n cael gytre yn yr amser yna.
"Pan ffoniodd Gwen yn dweud bod nhw yn yr ysbyty, o'n i'n gwybod bo' fi ffili dod nôl achos o'dd tair wythnos a hanner 'da fi ar ôl 'na, ac o'dd rhaid fi just suck it up ac aros mas 'na.
"Dwi'n barod i gyfadde dwi'n poeni mwy 'na'r wraig, a dwi'n dueddol o catastrophisio pethe; o'n i yn stage and piano rehearsals yn y 'stafell newid yn fy nagrau ddim yn siŵr beth oedd yn digwydd gytre, a falle bo' chi'n fwy emosiynol mewn gwlad dramor yn meddwl am bethe.
"Roedd e'n dair wythnos eitha' tough bant o'r teulu, a ffili helpu 'da ddim byd."

Efa gyda'i chwaer fach, Alaw, sy'n 10 mis oed
Felly, sut mae Efa ei hun yn ymdrin â'r cyflwr?
"Mae hi'n dda iawn chwarae teg", meddai Gwen.
"Mae hi'n saith mlwydd oed ac wedi cymryd y cyfan 'mlan. Cafodd hi'r diagnosis ar ddydd Iau, ac erbyn y dydd Sadwrn roedd hi'n rhoi'r pigiad inswlin yn ei choes ei hunan, dan hyfforddiant y nyrsys.
"Mae hi wedi bod yn ddewr iawn, a thrwy lwc dydi hi heb fod yn sâl, gan i ni ei ddal yn ddigon cloi.
"Mae'n rhaid i'r athrawon yn yr ysgol gael hyfforddiant, ac ni mewn cyswllt gyda'r ysgol o ran cadw llygaid arni a'r cyflwr."

Trystan ac Efa
Gyda thriniaethau meddygol arloesol yn amlygu eu hunain mewn sawl maes yn y byd iechyd bellach, beth yw'r gobeithion o drin y cyflwr yn y dyfodol?
"Yn naturiol nawr ni'n edrych ar wahanol wefannau - mae algorithm y ffôn wedi newid yn llwyr 'da fi nawr!" meddai Gwen.
"Mae 'na driniaethau yn Yr Almaen ac yn America, a sôn bod cure i'r cyflwr - allwn ni fyw mewn gobaith, ond ar hyn o bryd ni'n delio gyda fe fel rhywbeth fydd ganddi am weddill ei bywyd."

Efa'n edrych ar ei thad yn cneifio
Positifrwydd
"Sdim hwn yn mynd i stopio hi rhag gwneud dim byd," meddai Gwen. "Ellith hi wneud ymarfer corff, mae hi'n ferch actif yn gwneud cartwheels bob man!
"Sdim isie iddi newid ei deiet - wrth gwrs maen nhw'n hyrwyddo bwyta'n iach - ond does dim angen iddi golli mas ar fwyta dim byd, dim ond bo' hi'n cael yr inswlin i fatsio beth mae hi'n bwyta.
"Achos dyna beth yw'r broblem, mae'r pancreas wedi stopio creu inswlin, am ba bynnag reswm. Ond mae'n gadarnahol i wybod ellith hi gario 'mlaen i enjoio'i bywyd, jest bod hi'n dod i'r arfer o fyw 'da'r cyflwr."
Mae Trystan yn cydfynd yn llwyr gyda'r agwedd bositif wrth edrych tua'r dyfodol.
"Mae fe'n anghyfleustra mawr mae rhaid mi gyfadde', ond ar ddiwedd y dydd fe all pethe wedi bod lot gwaeth gyda diagnosis cwbl wahanol 'di dod ein ffordd ni.
"Diolch byth bod pobl yn gallu ymdopi a thrin hwn."

Trystan a Gwen gydag Efa, Lefi ac Alaw
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf

- Cyhoeddwyd17 Awst 2024
