Arestio bachgen, 17, ar ôl i fechgyn gael eu trywanu yng Nghaerdydd

Parc Lydstep, CaerdyddFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd dau fachgen, 16 ac 17 oed, eu cludo i'r ysbyty ar ôl cael eu trywanu ym Mharc Lydstep, Caerdydd, nos Sul

  • Cyhoeddwyd

Mae bachgen 17 oed wedi cael ei arestio ar ôl i ddau fachgen gael eu trywanu yng Nghaerdydd.

Cafodd dau fachgen lleol, 16 ac 17 oed, eu cludo i Ysbyty Athrofaol Cymru ar ôl cael eu trywanu ym Mharc Lydstep, Gabalfa, ychydig cyn 19:00 nos Sul.

Dywedodd Heddlu'r De ddydd Iau fod bachgen 17 wedi'i arestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol, bod â chyllell yn ei feddiant, bod â chanabis yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi, ac ymosodiad drwy guro.

Mae'r bachgen, o ardal Caerau, Caerdydd, yn parhau yn y ddalfa, meddai'r llu.

Cafodd dyn 61 oed hefyd ei arestio nos Fercher am achosi affráe (affray).

Mae'r ddau fachgen a gafodd eu trywanu bellach wedi gadael yr ysbyty ar ôl derbyn triniaeth.

Dywedodd yr Arolygydd Ditectif Phil Marchant, o Heddlu'r De: "Mae arestio'r bachgen 17 oed yma yn ddatblygiad arwyddocaol yn yr ymchwiliad ac mae'n ganlyniad ymholiadau helaeth ers i'r digwyddiad gael ei adrodd.

"Hoffem ddiolch i'r gymuned leol am y gefnogaeth a'r wybodaeth a gawsom.

"Mae'r dioddefwyr a'u teuluoedd wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf ac mae'r ymchwiliad yn parhau."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.