Penodi Rhodri Talfan Davies yn ddirprwy gyfarwyddwr cyffredinol y BBC

Dywedodd Matt Brittin (chwith) mai "Rhodri (dde) oedd y dewis rhagorol ymhlith sawl ymgeisydd cryf iawn"
- Cyhoeddwyd
Mae'r BBC wedi penodi Rhodri Talfan Davies fel dirprwy gyfarwyddwr cyffredinol, yn dilyn "proses recriwtio fewnol gystadleuol".
Mae Mr Talfan Davies wedi treulio cyfnodau fel cyfarwyddwr cyffredinol dros dro, cyfarwyddwr y cenhedloedd ac fel cyfarwyddwr BBC Cymru.
Bydd yn dechrau yn ei swydd newydd yn syth ac "yn gyfrifol am lunio a chyflawni strategaeth olygyddol y BBC a diogelu ymddiriedaeth y cyhoedd yn y BBC".
Dywedodd Matt Brittin y cyfarwyddwr cyffredinol mai "Rhodri oedd y dewis rhagorol ymhlith sawl ymgeisydd cryf iawn".
Dywedodd Rhodri Talfan Davies mai "anrhydedd" iddo oedd cael ei benodi i'r swydd.
Yn ogystal, bydd Rhuanedd Richards yn parhau yn ei rôl fel cyfarwyddwr dros dro'r cenhedloedd.
Penodi Rhodri Talfan Davies yn gyfarwyddwr cyffredinol dros dro y BBC
- Cyhoeddwyd28 Ionawr
Pryder y gallai toriadau'r BBC olygu gwario llai ar raglenni Cymraeg
- Cyhoeddwyd17 Ebrill
BBC yn tynnu'n ôl o gynhyrchu rhaglen Clwb Rygbi i S4C
- Cyhoeddwyd24 Ebrill
Mae Mr Talfan Davies wedi gweithio gyda'r BBC ers dros 28 mlynedd bellach ac mi fydd yn aelod o'r pwyllgor gweithredol a bwrdd y BBC.
Dywedodd ef fod y BBC yn "esiampl o ymddiriedaeth a rhagoriaeth i filiynau o bobl yma yn y DU ac yn fyd-eang".
"Dwi'n edrych ymlaen at weithio gyda thimau ar draws y sefydliad i hyrwyddo'r safonau golygyddol a chreadigol uchaf ac i gynnal gwerthoedd y BBC ar draws ein gwasanaethau."
'Arweinydd dibynadwy a phrofiadol'
Dywedodd Mr Brittin fod Rhodri Talfan Davies yn "arweinydd dibynadwy a phrofiadol - mae gwerthoedd y BBC i'w gweld wedi'u plethu i'w DNA".
"Dwi wedi dod i'w adnabod fy hun yn ystod y misoedd diwethaf a dwi wedi gweld yn uniongyrchol pa mor amhrisiadwy yw ei farn, ei brofiad eang a'i ymdeimlad o bwrpas i'r sefydliad hwn.
"Mae wedi'i drwytho yn nod gwasanaeth cyhoeddus y BBC wrth rannu fy uchelgais i ailddyfeisio'r BBC ar gyfer y dyfodol."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.