'Amser i ni fel merched adnabod a chymryd mwy o ofal o'n cyrff'

"'Dan ni ddim yn siarad digon am broblemau gynaecoleg 'efo merched eraill," medd Llinos Jones o Ynys MônFfynhonnell y llun, Llinos Jones
Disgrifiad o’r llun,

"'Dan ni ddim yn siarad digon am broblemau gynaecoleg 'efo merched eraill," medd Llinos Jones o Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd

Mae dynes o Langefni wedi bod yn disgrifio ei phrofiad o gael canser y groth a chanser ceg y groth, gan bwysleisio bod angen "gwrando ar y corff".

Mae Llinos Jones, sy'n ei 60au, eisiau annog merched ei hoedran hi, sydd wedi mynd trwy'r menopos ers blynyddoedd, i fynd at feddyg teulu.

Mae'n dweud bod angen cymryd sylw o symptomau sy'n poeni rhywun, a'i bod hi'n "amser i ni fel merched siarad mwy am y peth a chymryd mwy o ofal o'n cyrff ein hunain a 'nabod ein cyrff ein hunain".

Daw ei sylwadau wrth i elusen rybuddio bod meddygon teulu yn ei chael hi'n anodd i wneud archwiliadau trylwyr ar gyfer darganfod canserau gynaecolegol, oherwydd y pwysau sydd arnyn nhw i gadw apwyntiadau byr.

Mae arolwg gan Tenovus o feddygon teulu yng Nghymru wedi canfod bod tua hanner o'r 100 a holwyd yn ystyried amser cyfyngedig apwyntiadau yn bryder mawr.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi "ymrwymo i gryfhau gofal sylfaenol fel sylfaen GIG Cymru", a'u bod yn diweddaru eu cynllun iechyd menywod.

'Rhyddhad' cael diagnosis

Mae Llinos wedi cael diagnosis ers tair blynedd bellach ac wedi cael blwyddyn o fynd yn ôl ac ymlaen at feddyg teulu.

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast fore Mawrth, esboniodd ei bod hi'n meddwl mai symptomau'r menopos oedd hi'n eu profi yn wreiddiol, cyn iddi gael diagnosis o ganser y groth.

"Roedd cael y diagnosis yn dipyn o ryddhad," meddai, "achos 'oedd o fatha bod fy nghorff i'n trio deud wrtha'i a bo' fi ddim yn gwrando".

"Ond, pan ges i'r diagnosis 'oedd o'n rhoi'r ateb i gyd i'r holl bethau oedd yn mynd ymlaen: 'O ia, dyna ydy o,' 'lly."

Erbyn i Llinos fynd i'r ysbyty a chael hysterectomi, sylwodd y meddygon bod y canser wedi mynd i geg y groth hefyd.

Cafodd 25 rownd o radiotherapi am bum wythnos yn Ysbyty Glan Clwyd.

"'Dan ni ddim yn siarad digon am broblemau gynaecoleg 'efo merched eraill a hefo meddyg," meddai Llinos.

"'Dan ni just yn 'i frwsio fo lawr i rywbeth arall, felly ma' lot o symptomau bach yn mynd tuag at un broblem mewn ffordd."

Esboniodd Llinos fod pethau wedi newid ers y pandemig: "Mae'r ffordd 'da chi'n gweld meddyg ac yn trafod wedi newid… ma' lot wedi mynd dros y ffôn.

"Does 'na ddim digon o bres i feddygon a dim bai arnyn nhw ydy hynny, ma' nhw'n gorfod gweithio o fewn eu cyllid a ma' 'na brinder meddygon teulu."

Dr Amara Naseem
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Amara Naseem yn dweud fod meddygon teulu dan bwysau i gynnig mwy o apwyntiadau, yn hytrach na chanolbwyntio ar driniaeth o safon

Mae pwysau ar feddygfeydd i gynnig mwy o apwyntiadau yn ei gwneud yn anoddach cynnwys profion am ganserau gynaecolegol yn ystod slotiau 10 munud, medd meddygon.

Dywedodd Dr Amara Naseem fod ei chlinigau'n rhedeg dros amser yn rheolaidd gan fod angen tua 20 munud i gymryd hanes meddygol manwl a chynnal archwiliadau mewnol mewn ffordd sensitif.

Roedd traean o feddygon a wnaeth gymryd rhan mewn arolwg yn poeni am atgyfeirio gormod o bobl am brofion i ddiystyru canser, oherwydd y pwysau sydd eisoes ar ysbytai.

Mae tua 95% o gleifion sy'n cael profion oherwydd amheuaeth o ganser yn cael gwybod yn ddiweddarach nad oes ganddyn nhw ganser.

Ond dywed meddygon y gall fod yn anodd adnabod achosion o ganser yn gynnar pan fo symptomau fel bol chwyddedig yn anodd eu gwahaniaethu oddi wrth gyflyrau eraill fel syndrom coluddyn llidus (IBS).

Dywedodd Dr Naseem fod y pwysau gan Lywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar "gynnig mwy o apwyntiadau i'r claf, yn hytrach nag ar ansawdd y driniaeth".

Lowri Griffith
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lowri Griffith o elusen Tenovus yn dweud bod angen i Gymru fod yn "fwy uchelgeisiol" mewn gofal gynaecolegol

Mae nifer llai o feddygfeydd yn ei hardal hefyd yn golygu ei bod wedi cymryd mwy o gleifion ac mae hi'n ofni bod risg na fydd menywod yn codi symptomau gynaecolegol nac yn mynychu sgrinio os yw apwyntiadau'n cael eu brysio, yn boenus neu heb eu trin yn dda.

Ychwanegodd ei bod hi'n "gweithio mewn cymuned amrywiol a difreintiedig lle mae'r nifer sy'n manteisio ar sgrinio eisoes yn isel".

Dywedodd fod rhai problemau iechyd menywod yn gofyn am archwiliad mewnol, ac y gall hynny gymryd amser i'w wneud "mewn ffordd empathetig a sensitif".

Ychwanegodd fod angen amser hefyd i egluro beth mae sgrinio'n ei olygu, chwalu ofnau ac, mewn rhai achosion, gweithio gyda chyfieithwyr.

'Angen mynd i'r afael â gofal sylfaenol'

Dywedodd Lowri Griffith o Tenovus bod angen mynd i'r afael â gofal sylfaenol a gofal ysbyty er mwyn gwella'r system.

Mae tua 1,200 o fenywod yng Nghymru yn cael diagnosis o ganser gynaecolegol bob blwyddyn, gan gynnwys canser y groth, yr ofari, ceg y groth, y fwlfa neu'r fagina, ac mae tua 470 yn marw.

Dim ond ar gyfer canser ceg y groth y mae sgrinio ar gael, ac nid yw'r prawf yn canfod y canserau gynaecolegol eraill.

Dr Kathrin Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Kathrin Thomas o Deep End Cymru yn dweud bod nifer y meddygon teulu wedi aros bron yr un fath wrth i'r llwyth gwaith gynyddu

Dywedodd Dr Kathrin Thomas, cyn-feddyg teulu ac arbenigwr iechyd cyhoeddus, fod nifer y meddygon teulu yng Nghymru "bron wedi aros yr un fath", tra bod baich y gwaith wedi cynyddu.

Mae hi hefyd yn rhan o Deep End Cymru, rhwydwaith o feddygfeydd yn ardaloedd mwyaf difreintiedig y wlad.

Dywedodd fod "anghydraddoldeb eang rhwng menywod mewn ardaloedd mwy cefnog a menywod mewn ardaloedd tlotach", yn enwedig o ran canser ceg y groth.

Mae amseroedd aros am driniaeth canser gynaecolegol yng Nghymru wedi gwella'n sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda 51.3% o gleifion bellach yn cael eu trin o fewn 62 diwrnod, o gymharu â 34% yn flaenorol.

Ond mae'r ffigwr diweddaraf ar gyfer pob canser yng Nghymru yn 60.1%, o'i gymharu â tharged o 75%.

Maria Bailey
Disgrifiad o’r llun,

Mae Maria Bailey wedi bod yn codi arian i wneud mwy o fagiau 'Bailey's Bags' er mwyn helpu cleifion eraill sy'n cael eu trin am ganser ceg y groth

Mae Maria Bailey, sy'n 55 oed, o Ben-coed ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn credu bod gallu gweld yr un meddyg teulu wedi chwarae rhan wrth ganfod ei chanser hi.

Sylwodd ar fwy o flinder a gwaedu o'r fagina, ond roedd yn meddwl mai gweithio oriau ychwanegol a'r menopos oedd yn gyfrifol.

Pan waethygodd y gwaedu ym mis Chwefror, aeth at ei meddyg teulu, a chafodd archwiliad mewnol a chyfres o brofion.

Daeth y profion o hyd i diwmor 4cm a chanser gradd 2 o amgylch ceg ei chroth.

"Rwy'n teimlo'n lwcus iawn iddi gymryd fi o ddifrif o'r cychwyn," meddai.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi "ymrwymo i gryfhau gofal sylfaenol fel sylfaen GIG Cymru", yn recriwtio hyd at 100 o feddygon teulu ychwanegol, ac yn diweddaru eu cynllun iechyd menywod.

Ychwanegon nhw bod strategaeth ganser genedlaethol 10 mlynedd newydd yn canolbwyntio ar "atal, diagnosis a thriniaeth", gyda "phwyslais ar ganfod canser yn gynharach."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.