Dyn wnaeth dagu ei wraig i farwolaeth yn ei gwely yn euog o lofruddiaeth

Michael DaviesFfynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Michael Davies yn cael ei ddedfrydu fis nesaf

GanAnnell Dyfri
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wnaeth dagu ei wraig i farwolaeth yn eu gwely wedi ei gael yn euog o lofruddiaeth.

Cafodd Michael Davies, 58 o Gefn Cribwr, Pen-y-bont ar Ogwr, ei gyhuddo o lofruddiaeth Tracey Davies ar ôl iddi gael ei chanfod yn farw yn Ebrill 2025.

Roedd yn genfigennus bod ei wraig yn gweithio gyda chydweithwyr gwrywaidd ac yn amau, yn anghywir, ei bod am ei adael. Roedd mewn dyled o £30,000 o hefyd.

Roedd Davies wedi pledio'n euog yn flaenorol i ddynladdiad, ond roedd wedi gwadu llofruddiaeth.

Daeth rheithgor yn Llys y Goron Casnewydd i'r casgliad fod Davies yn euog o lofruddiaeth a bydd yn cael ei ddedfrydu ar 2 Hydref.

'Mam ymroddedig'

Cafodd yr heddlu eu galw i Gefn Cribwr ar noson 18 Ebrill 2025 yn dilyn pryderon am les dau berson.

Fe wnaethon nhw ddod o hyd i gorff Tracey Davies, ac fe gafodd Michael Davies ei arestio yn y fan a'r lle.

Clywodd cwest i'w marwolaeth fod aelodau o deulu Ms Davies, a oedd wedi dechrau poeni amdani, wedi ei chanfod yn ystafell wely ei chartref ar Cefn Road.

Cofnodwyd achos dros dro o'r farwolaeth fel pwysau ar ei gwddf.

Mewn teyrnged fis Ebrill, dywedodd ei theulu ei bod yn "fam ymroddedig" a'i phlant oedd ei "balchder mwyaf".

Cafodd ei disgrifio fel "chwaer annwyl, ffrind ffyddlon, a phresenoldeb disglair a allai oleuo unrhyw ystafell gyda'i chwerthin".

Cafodd Tracey Davies ei disgrifio fel "chwaer annwyl a ffrind ffyddlon"Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Tracey Davies ei disgrifio fel "chwaer annwyl a ffrind ffyddlon"

Yn y misoedd cyn llofruddio ei wraig, roedd Davies yn gweithio ym maes logisteg yn Abu Dhabi, Yr Emiradau Arabaidd Unedig.

Clywodd y llys ei fod wedi mynd yn fwy isel ei ysbryd a gorbryderus wrth fyw ar ei ben ei hun mewn fflat oedd heb ffenestri.

Roedd yn poeni am dalu'r benthyciad banc o £30,000 yn ôl yn ogystal â chostau trwsio eu cartref.

Dywedodd Davies nad oedd yn gallu deall pam yr oedd wedi tagu Tracey. Dywedodd fod ei feddwl wedi "torri".

"Does gen i ddim syniad be' o'n i'n ei wneud, do'n i ddim yn deall beth oeddwn i'n ei wneud. Doedd gen i ddim cysylltiad gyda fy nwylo," meddai.

"Ro'n i'n gwybod ei fod yn anghywir."

"Doedd dim cynllun, dim meddwl, do'n i methu stopio'n hun. Dwi'n cofio Tracey yn symud ac yn gafael yn fy mreichiau."

Ar ôl lladd ei wraig, cymerodd orddos a thrywanu ei hun yn ei wddf a'i frest. Cafodd y ddau eu darganfod yn ddiweddarach gan aelod o'r teulu a pharafeddygon.

Clywodd y llys fod gan y cwpl berthynas agos a chariadus yn y gorffennol. Roedden nhw wedi cwrdd mewn clwb cerdded ac wedi priodi ar 1 Mawrth 2024.

I ddechrau, roedd Tracey Davies yn byw yn Abu Dhabi gyda'i gŵr, ond ni chafodd ei chymwysterau proffesiynol eu cydnabod yn y wlad a dychwelodd i Gymru.

Byddai Davies yn hedfan adref yn rheolaidd i ymweld.

Ond fe aeth Davies yn fwyfwy tawedog ac mi gafodd bresgripsiwn o gyffuriau gwrth-iselder a thabledi cysgu.

Yn y dyddiau cyn iddi farw, dywedodd Tracey Davies wrth ei chwaer-yng-nghyfraith ei bod hi'n credu bod Davies yn cael "rhyw fath o breakdown".

Mewn neges at aelod arall o'r teulu, ysgrifennodd: "Mae e' mor drist i'w weld; fi'n aros yn gryf, ond dyw Mickey ddim y dyn oedd e'."

Dywedodd Davies ei fod yn poeni ei fod yn mynd "yr un cyfeiriad" â'i rieni, oedd ill dau yn dioddef o broblemau iechyd meddwl.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.