Arestio bachgen, 14, ar amheuaeth o geisio creu dyfais ffrwydrol

Roedd Snowdrop Lane yn Hwlffordd ar gau am gyfnod wrth i swyddogion ymchwilio
- Cyhoeddwyd
Mae bachgen 14 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio creu dyfais ffrwydrol gyda'r bwriad o beryglu bywyd.
Derbyniodd Heddlu Dyfed-Powys adroddiad bod "gwrthrych amheus" wedi ei ganfod ar Snowdrop Lane, Hwlffordd, tua 10:40 ddydd Sul.
Cafodd swyddogion arbenigol eu galw i'r digwyddiad er mwyn archwilio'r eitem.
Bu'r ffordd ar gau am gyfnod er mwyn sicrhau diogelwch trigolion, ac mae'r llu wedi diolch i bobl am eu cydweithrediad a'u hamynedd.
Mae'r bachgen yn cael ei gadw yn y ddalfa ac mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.