Cymru'n cael cweir arall yn Chwe Gwlad y Merched

Kayleigh PowellFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Kayleigh Powell yn cario i Gymru

  • Cyhoeddwyd

Colli a wnaeth tîm rygbi merched Cymru yn Iwerddon nos Sadwrn, gyda sgôr o 33-12.

Georgia Evans a Jasmine Joyce wnaeth sgorio'r ceisiau i Gymru.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Cymru yn aros ar waelod y tabl ac wedi colli pob un o'r pedair gêm iddyn nhw chwarae.

Bydd Cymru yn chwarae yn erbyn yr Eidal nesaf, ar ddydd Sul 17 Mai.

Georgia EvansFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Georgia Evans i Gymru

Cychwynnodd y gêm yn agos gyda Chymru yn cystadlu gyda'r Gwyddelod.

Ond Iwerddon gafodd y cais gyntaf, wrth i Aoife Wafer gario'r bêl dros y llinell a Dannah O'Brien yn cicio'n gywir.

Ymatebodd y Cymry gyda chais eu hunain, wrth i Georgia Evans groesi a Keira Bevan yn llwyddiannus gyda'r drosiad.

Yna cafodd Iwerddon gais arall wrth i Béibhinn Parsons orffen yn daclus, ond O'Brien yn methu trosi. 12-7 i Iwerddon.

Y Cymry siomedigFfynhonnell y llun, Getty Images

Cafodd Iwerddon eu gwobrwyo eto ychydig cyn y toriad, wrth i Brittany Hogan sgorio ac O'Brien yn ehangu'r bwlch rhwng y ddau dîm.

Sgoriodd Iwerddon eu pedwaredd cais ac roedd y sgôr bellach yn 26-7.

Yn agos at derfyn yr ornest cafodd Cymru gais trwy Jasmine Joyce. 26-12 oedd y sgôr wedi hynny ar ôl methu â throsi.

Fel yr oedd y gêm yn dod i ben, sgoriodd y Gwyddelod un cais arall i adael sgôr o 33-12.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig