Carcharu dyn o Wynedd am 15 mlynedd arall ar ôl dedfryd flaenorol am dreisio

Thomas John CatoFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd rhaid i Thomas John Cato gofrestru fel troseddwr rhyw am weddill ei oes

GanHarri Evans
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Mae'r erthygl hon yn cynnwys manylion all beri gofid.

Mae dyn o Ddolgellau sydd eisoes yn wynebu 11 mlynedd yn y carchar wedi cael ei ddedfrydu i 15 mlynedd ychwanegol ar ôl i reithgor ei gael yn euog o ragor o gyhuddiadau o dreisio.

Cafodd Thomas Cato, 37, ei garcharu ym Mehefin 2023 ar ôl iddo ei gael yn euog o dreisio merch 17 oed yn 2022.

Ar ôl ymddangos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Iau fe gafodd ddedfryd o 15 mlynedd ychwanegol, gyda chyfnod estynedig o ddwy flynedd ar drwydded pan fydd yn cael ei ryddhau.

Penderfynodd y rheithgor fod Cato yn euog o bum cyhuddiad arall o dreisio mewn achos ym mis Medi.

'Cato yn berygl i fenywod'

Clywodd y llys bod Cato wedi ymosod ar fenyw a'i threisio dro ar ôl tro, ar sawl achlysur dros gyfnod o ddwy flynedd.

Ymosododd arni drwy ei tharo ar ei phen, gan adael anafiadau gweladwy, ac ar un achlysur torrodd ei hasennau, gan ei gadael yn analluog i symud oherwydd y poen.

Fel rhan o'r ddedfryd, mae'n rhaid i Cato hefyd gofrestru fel troseddwr rhywiol am gyfnod amhenodol, ac mae wedi cael gorchymyn atal gydol oes sy'n ei wahardd rhag cysylltu â'r dioddefwr.

Dywedodd y Cwnstabl Ditectif Bethany Clarke: "Mae Thomas Cato wedi profi ei hun i fod yn berygl i fenywod drwy beidio â dangos unrhyw edifeirwch, a thrwy orfodi'r fenyw i ail-fyw ei dioddefaint yn ystod treial.

"Mae ei weithredoedd erchyll wedi bod yn ddinistriol, gan ei gadael yn teimlo ar ei phen ei hun ac yn methu ymddiried yn hawdd.

"Mae hi wedi profi trawma na ddylai neb byth orfod ei wynebu, ac mae hi wedi dangos dewrder eithriadol wrth ddod ymlaen.

"Mae hi, heb os, wedi diogelu menywod eraill rhag niwed pellach, a gobeithiaf fod y canlyniad hwn yn cynnig rhywfaint o dawelwch meddwl a chau pennod, wrth iddi barhau â'i hadferiad."

Ychwanegodd bod "diogelu menywod a merched rhag trais yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Heddlu Gogledd Cymru".

"Hoffwn annog unrhyw un sydd wedi bod yn ddioddefwr trais rhywiol i ddod ymlaen. Byddwn yn gwrando arnoch, yn eich cefnogi, ac yn ymchwilio'n llawn i'r troseddau."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.