'Ni fyddwn i yma heddiw' heb gymorth ar ochr y ffordd a 100 peint o waed

Mae Richard bellach yn gwirfoddoli i Ambiwlans Awyr Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae dyn a oroesodd gwrthdrawiad difrifol yn ymbil ar y cyhoedd i roi gwaed ar ôl gorfod cael 100 o unedau o waed er mwyn achub ei fywyd.
Wrth deithio i Gaerfyrddin ym mis Chwefror 2020, bu Richard Jones mewn gwrthdrawiad a newidiodd ei fywyd.
Mae Richard o Gastell-nedd bellach wedi profi 13 o lawdriniaethau ers y gwrthdrawiad, ond yn dweud ei fod yn "byw bywyd i'r eithaf".
Mae dydd Llun yn nodi cychwyn wythnos rhoi gwaed, gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth ac annog mwy o bobl i roi gwaed.
'Hynod o bwysig' bod mwy o bobl ifanc yn rhoi gwaed
- Cyhoeddwyd12 Medi 2025
Tad allai waedu i farwolaeth unrhyw bryd yn diolch i roddwyr gwaed
- Cyhoeddwyd24 Mai 2024
Mwy o bobl yn cael rhoi gwaed wrth i'r rheolau newid
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2021
Wrth siarad ar Radio Wales fore Llun, esboniodd Richard sut ddigwyddodd y cyfan.
"'Nôl yn Chwefror 2020 ro'n i'n teithio i Gaerfyrddin ar gyfer gwaith, ac o beth mae tystion yn dweud, ro'n i'n gyrru ar y terfyn cyflymder, ac fe wnes i gymryd y troad i ffwrdd [slip road] ond heb ei ddilyn rownd ac yna nes i daro barier a chael fy lluchio 15 troedfedd yn yr awyr i mewn i un o'r arwyddion mawr."
Er nad yw'n cofio llawer o'r digwydd, dywedodd ei fod wedi bod yn hynod o lwcus fod rhywun gerllaw wedi dod i helpu yn sydyn.
"O be' dwi'n deall fe wnaeth Ian Thompson, cyn-feddyg yn y fyddin gyrraedd o fewn munudau."
Gydag anafiadau Richard yn ddifrifol, fe wnaeth Mr Thompson ei helpu wrth rwystro'r gwaed rhag llifo allan.
"Roedd y gwaed yn pwmpio allan," esboniodd Richard, gan ddweud, heb ymateb Mr Thompson "ni fyddwn i yma heddiw".

Dywedodd Richard fod y siwrnai i wella wedi bod yn "hir iawn"
Fe brofodd Richard anafiadau difrifol yn dilyn y gwrthdrawiad, gan gynnwys torri ei glun, pelfis, rhan o'i ben-glin, anaf i'w ymennydd, afu ac aren a bu'n rhaid iddo golli rhan o'i goes.
Dywedodd ei fod wedi bod yn "siwrnai hir iawn i wella" gan ddweud iddo "fyw yn ystafell fyw fy rhieni am dair blynedd mewn gwely sengl nes 'mod i'n gallu mynd fyny'r grisiau".
Bu'n rhaid i Richard gael 100 peint o waed oherwydd bod cymaint o waed yn llifo o'i gorff wedi'r gwrthdrawiad.
"Mae'r ambiwlans awyr bellach yn cario gwaed ar yr hofrennydd, felly roedd modd iddyn nhw roi chwe uned o waed i mi ar ochr y lôn a oedd yn golygu 'mod i'n gallu cael fy nghludo i Ysbyty Treforys."
Mae Richard bellach yn ymbil ar bobl, os ydyn nhw yn gallu, i roi gwaed.
"Mae 'mond yn cymryd awr o'ch diwrnod, dyw e ddim yn lot i'w roi ac fe all peint o waed safio bywyd rhywun, a newid bywyd."
'Byw bywyd gwell'
Dywedodd Richard iddo dderbyn coes prosthetig, ac ers hynny ei fod wedi bod yn gwthio ei hunain.
Erbyn heddiw, dywed Richard ei fod bellach yn byw bywyd i'r eithaf, ac yn gweld hi'n anodd dweud 'na' i gyfleoedd.
"Mae'r cyfleoedd dwi wedi eu derbyn wedi'r ddamwain, dwi methu dweud na, dwi'n ei gweld hi'n anodd dweud na i unrhyw beth!
"Dwi wedi byw bywyd gwell ers fy namwain," gan ddweud ei fod bellach yn gwirfoddoli i sawl mudiad ac elusennau gwahanol gan gynnwys Ambiwlans Awyr Cymru.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.