Canu ar Fryn Briallu i gofio cyfraniad Iolo Morganwg

- Cyhoeddwyd
Ar Fryn Briallu yn Llundain y cafodd seremoni gyntaf yr Orsedd ei chynnal, a hynny yn 1792 gan Iolo Morganwg.
Ers 2009 mae cofeb ar y bryn i'r bardd o Sir Forgannwg, ac yno ddydd Sadwrn, 6 Mehefin, roedd dros 60 o gantorion wedi ymgynnull i nodi 200 mlynedd ers ei farwolaeth.
Rhian Medi a drefnodd y digwyddiad, ble'r oedd aelodau o Gôr Meibion Taf yn canu Gweddi'r Orsedd fel rhan o'r dathliad.
Rhian oedd hefyd tu ôl i'r syniad i gael cofeb yno i Iolo yn y lle cyntaf.
Côr Meibion Taf yn canu Gweddi'r Orsedd ar Fryn Briallu
Yr Orsedd ar y Bryn
Bellach yn byw yn ôl adref yn Ynys Môn, roedd Rhian yn byw yn Llundain am 30 mlynedd, ac yn teimlo fod angen rhywbeth i nodi dylanwad prifddinas Lloegr ar ddiwylliant Cymru.
"O'dd gen i un droed yn y ddau le – Cymru a Llundain.
"O'n i'n cystadlu dipyn mewn eisteddfodau – 'nes i ennill y Rhuban Glas yn Eisteddfod Sir Fôn yn 1999 – ac o'n i'n arfer mynd efo merch fy ffrind i chwarae pêl-droed ar gaeau Bryn Briallu, a meddwl – 'waw, fan hyn ddaru o gychwyn'.
"Dwi'n meddwl fod yr hadyn wedi ei blannu yn fy mhen bod rhaid cael rhywbeth yna i goffáu'r ffaith bod rhan mor fawr o'n hetifeddiaeth ni a phwy ydyn ni fel Cymry yn deillio o'r lle yna yn Llundain."
Ddechrau'r 1790au, roedd Edward Williams – neu Iolo Morganwg – yn byw yn Llundain am ryw bum mlynedd.

Darlun pensil o Iolo Morganwg o tua 1800
Bryd hynny, roedd diwylliant Cymru ar ei anterth yn Llundain, meddai Rhian, gydag aelodau cymdeithasau diwylliannol Cymraeg fel y Gwyneddigion a'r Cymmrodorion, fel Jac Glan-y-gors ac Owain Myfyr, yn ymgasglu yn y tafarndai yno.
Roedd Iolo yng nghanol hyn, yn barddoni ac yn llunio llawysgrifau hynafol am 'hen draddodiadau Cymraeg' roedd yn honni eu bod wedi eu darganfod. Un o'r traddodiadau yma oedd nifer o elfennau seremonïau'r Orsedd, roedd yn awyddus i'w 'dychwelyd' i'n diwylliant.
Yn y seremonïau cyntaf ganddo ar Fryn Briallu, gosododd 12 carreg fach ar y llawr i gynrychioli Meini'r Orsedd, a defnyddio cleddyf heb ei ddadweinio; dyma oedd sail seremonïau'r Orsedd sydd mor gyfarwydd i ni heddiw.

Mae cerfiad efydd o ben Iolo yn edrych yn union tua'r dwyrain at yr haul, yng nghanol llechen o Ffestiniog, a'r cyfan wedi ei amgylchynu gan ddarn o farmor Moelfre – carreg wen roedd Iolo ei hun wedi ei ganmol ar ôl ymweld â'r chwarel
Er mai twyll oedd y cyfan – doedd y derwyddon ddim yn rhan o'n traddodiad ni'r Cymry, ac yn hytrach yn ffrwyth dychymyg y gŵr o Drefflemin – mae ei syniadau bellach wrth galon ein diwylliant ni heddiw.
Gyda chefnogaeth Elfyn Llwyd, oedd yn Aelod Seneddol ar y pryd, a chefnogwyr eraill gan gynnwys yr Orsedd ei hun, rhoddodd sefydliad The Royal Parks ganiatâd i gofeb i Iolo gael ei gosod ar Fryn Briallu.

Seremoni dadorchuddio'r gofeb ar Hirddydd Haf 2009
Ar Hirddydd Haf 2009, cafodd cofeb i Iolo Morganwg ei dadorchuddio gan Rhian, mewn seremoni lle'r oedd yr Orsedd gyfan yn bresennol, gan gynnwys Robin McBryde gyda'r Cleddyf Mawr, yn adleisio'r gleddyf oedd yn seremonïau gwreiddiol Iolo.
Cyfraniad gwerthfawr cymeriad dadleuol
Ag yntau'n gaeth i'r cyffur laudanum, ac yn cael ei gofio fel un â dwyllodd enwau mawr diwylliedig Cymry'r cyfnod, gyda cherddi ffug gan Dafydd ap Gwilym a 'hen draddodiadau'r Orsedd', mae Iolo Morganwg yn gymeriad dadleuol iawn yn ein hanes.

Rhian yn rhoi peth o hanes Iolo i'r dyrfa, a rhai o aelodau o deulu Côr Meibion Taf: Rhodri Jones (Cadeirydd y côr), Huw Llywelyn Davies, a Marian a John Evans sydd hefyd yn aelodau o'r Orsedd.
Yn ôl yr arweinydd, Steffan Jones, roedd y digwyddiad yn "ffordd arbennig o ddechrau'r penwythnos yn Llundain, a orffennodd nos Sul yn Neuadd Frenhinol Albert yng Ngŵyl Corau Meibion Cymry Llundain"
Ond cyfrannodd lawer at ddiwylliant Cymru a'r Gymraeg mewn nifer o ffyrdd, eglurai Rhian – ac ar ôl blynyddoedd o ymchwilio iddo, mae hi'n teimlo ei bod hi'n ei 'nabod yn dda.
"Roedd Iolo yn unigryw, yn ddyn ag egwyddorion cryf, ac roedd hi'n eironig bod angen gofyn i'r Royal Parks am ganiatâd i osod y gofeb, achos o'dd Iolo yn weriniaethwr. Ond roedd yn pragmatydd, a byddai'n gwybod 'needs must'!
"Roedd yn gymaint o radical drwy'i fywyd ac roedd o eisiau cicio yn erbyn y tresi. Dwi'n meddwl oedd o'n rhyw fath o gymeriad marmite mewn ffordd – 'sa chi unai yn meddwl y byd ohono fo, neu 'sa chi'n ei gasau o, yn enwedig 'sa fo 'di twyllo chi fel oedd o yn ei waith hanesyddol a llengar."

Owain, mab Rhian, yn gosod 12 carreg fach i gynrychioli Meini'r Orsedd, fel y gwnaeth Iolo Morganwg yn ei seremonïau yntau ar Fryn Briallu yn niwedd y 18fed ganrif
Fodd bynnag, er ei bersonoliaeth mawr, dadleuol, mae Rhian yn teimlo fod ei gyfraniad i Gymru a'r diwylliant Cymraeg wedi bod yn hynod o werthfawr.
"Roedd o 'di creu gymaint o eiriau - peiriant, tirwedd, carcus, anghytbwys, melodaidd - yn ogystal â thermau fel Alban Arthan ac Alban Hefin i ddisgrifio pegynau'r flwyddyn. O'dd o'n casglu caneuon gwerin.
"O'dd o 'di mynd ati i greu barddoniaeth na fyddai neb am ganrif yn gwybod 'na nid Dafydd ap Gwilym oedd 'di sgwennu o, gan ddefnyddio ieithwedd canoloesol.
"Mae lot o bobl wedi bod yn bychanu Iolo ond dwi'n meddwl fod y ffaith ei fod o wedi llwyddo i ffugio hwn yn anhygoel.
"A gyda'r Orsedd, ffurfiodd ein sefydliad cyntaf ni. O'dd o'n codi hyder y Cymry a dwi'n meddwl 'sa Iolo ei hun yn gwefreiddio at yr hyn sydd gynnon ni rŵan yng Nghymru, fel y Llyfrgell Genedlaethol, y prifysgolion a'r Eisteddfod Genedlaethol.

Côr Meibion Taf yn cerdded i fyny i gopa Bryn Briallu, gydag adeiladau dinas Llundain i'w gweld yn y pellter
"Dwi'n meddwl bod Iolo o flaen ei amser, ond roedd o'n gweld cwmpawd lot pellach, ac ystod i'w freuddwydion o.
"Dwi'n meddwl pan fod rhywun fel yna mor arbennig, mae hi mor bwysig i gario'r fantell a pharhau."
Geiriau Iolo, Gweddi'r Orsedd, oedd i'w clywed yn seinio dros Fryn Briallu fore Sadwrn, i gofio am y gŵr a ddyfeisiodd hen draddodiadau, a enillodd eu plwy' gan barhau yn ein diwylliant heddiw.
Ac yn neall, gwybod,
Ac yng ngwybod, gwybod y cyfiawn,
Ac yng ngwybod y cyfiawn, ei garu...
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd5 Awst 2024

