Teyrnged i ddyn 18 oed 'oedd â'i holl fywyd o'i flaen'

- Cyhoeddwyd
Mae teulu dyn 18 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad ym Mro Morgannwg wedi dweud ei fod yn "ddyn ifanc hynod ddeallus oedd â'i holl fywyd o'i flaen".
Bu farw Dominic Luke Bailey o Gaerdydd yn y gwrthdrawiad nos Sadwrn, 6 Mehefin.
Digwyddodd y gwrthdrawiad am tua 20:00 ar yr A48 yn ardal y Tymbl, Sain Nicolas, rhwng dau gar - MG llwyd a Land Rover Defender du.
Mae'r heddlu'n parhau i ymchwilio ac yn apelio am dystion neu unrhyw un sydd â lluniau dashcam neu deledu cylch cyfyng o'r ardal i gysylltu.
Dyn 18 oed wedi marw ar ôl gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Dywedodd ei deulu fod Dominic Bailey newydd gwblhau ei arholiadau Safon Uwch yn Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf, lle'r oedd wedi bod yn ddisgybl am y saith mlynedd diwethaf.
Ychwanegodd ei deulu ei fod wedi cael cynnig lle ym Mhrifysgol Malaysia, ond wedi "penderfynu dilyn ei freuddwyd o deithio'r byd yn lle".
Mewn teyrnged, dywedon nhw: "Doedd neb yn debyg i Dominic.
"Roedd yn gallu rhoi gwên ar wyneb unrhyw un ac roedd yn ddyn ifanc hynod ddeallus oedd â'i holl fywyd o'i flaen."
Ychwanegodd ei deulu eu bod wedi'u dinistrio gan ei farwolaeth ac "na fydd bywyd byth yr un fath hebddo".
Dywedodd Heddlu De Cymru fod gyrrwr a theithiwr y Land Rover wedi cael eu cludo i'r ysbyty, lle maen nhw'n parhau i gael triniaeth.
Mae Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol yr heddlu yn apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu ffordd o yrru'r ddau gerbyd cyn y digwyddiad i gysylltu â nhw.
Mae swyddogion hefyd yn annog unrhyw un oedd yn teithio drwy'r ardal ar y pryd i wirio eu lluniau dashcam neu deledu cylch cyfyng preifat am unrhyw luniau perthnasol.