Y therapydd cerdd sy'n sgwrsio heb eiriau

Zuzanna mewn sesiwn therapi cerdd gydag Awen yn ei hysgolFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Zuzanna mewn sesiwn therapi cerdd gydag Awen yn ei hysgol

GanAnna George
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae'r cerddor Awen Blandford o'r Wyddgrug wastad wedi caru pobl a charu cerddoriaeth.

Ac yn rhinwedd ei swydd fel therapydd cerdd ym Manceinion i elusen Nordoff and Robbins mae'n cyfuno ei chariad at y ddau beth er mwyn sgwrsio gyda'i chleientiaid.

Yn aml iawn mae cleientiaid Awen yn cynnwys plant ac oedolion gydag anableddau dwys, anghenion dysgu ychwanegol, awtistiaeth neu berson di-eiriau.

Dywed am bŵer defnyddio cerddoriaeth fel therapi: "Mi wnes i sylwi faint o lawenydd, hunan fynegiant a chysylltiad gydag eraill y gallai'r bobl hyn ei gael o gerddoriaeth, a pha mor dda oedd hynny i'w lles."

Beth yw therapi cerdd?

Ar hyn o bryd mae Awen, sydd wedi arbenigo ar y soddgrwth yn y Royal Northern College of Music ac hefyd yn chwarae'r piano a'r gitâr, yn therapydd cerdd mewn ysgol i blant ag anghenion addysgol arbennig, ac mewn ysgol uwchradd arbenigol i bobl ifanc sydd ag anghenion cymdeithasol, emosiynol ac iechyd meddwl.

Canfyddiad elusen Nordoff and Robbins yw bod therapi cerdd yn ymlacio cleientiaid, yn rhoi cefnogaeth emosiynol ac yn gwella lles.

Felly beth yn union sy'n digwydd mewn sesiwn therapi cerdd un-i-un gydag Awen?

"Paul Nordoff a Clive Robbins, arloeswyr ym maes therapi cerdd wnaeth ddatblygu'r dull dwi'n ei ddefnyddio.

"Mae'n ffocysu ar y person 'dach chi'n gweithio efo a be' maen nhw'n gallu 'neud, cydnabod y potensial yr hyn mae'r unigolyn yn gallu 'neud a chreu cerddoriaeth efo nhw mewn ffordd byrfyfyr.

Awen gyda'i soddgrwthFfynhonnell y llun, Andrea Terzuoli
Disgrifiad o’r llun,

Awen gyda'i soddgrwth

"Mae cydnabod y potensial yn hollbwysig. Os ydyn nhw'n gallu symud mae ganddyn nhw rhythm, neu os ydyn nhw'n gallu defnyddio eu llais mae ganddyn nhw dôn felly dwi'n gweithio efo be' maen nhw'n gallu 'neud i greu cerddoriaeth.

"Y gerddoriaeth yna ydy ein dull ni o gyfathrebu heb eiriau wedyn. 'Dan ni'n ymateb i'n gilydd ac yn cysylltu gyda'n gilydd.

"Er enghraifft os ydy cleient yn gwneud synau gyda'i lais dwi'n creu miwsig o amgylch eu tôn nhw.

"Mewn sesiynau grwpiau bychain, efallai byddai rhywun arall wedyn yn cychwyn tapio efo'u troed, yna rydw i'n dilyn y rhythm yna. Eu cerddoriaeth nhw ydy o, a dyna sylfaen yr holl sesiwn.

"Mae'n fodd i rywun fynegi eu hunain heb ddefnyddio geiriau."

Sesiynau Helen ac Awen

Dros haf 2025 bu Awen yn gweithio gyda chleient o'r enw Helen. Mae Helen yn byw gydag anabledd dysgu dwys (PMLD) ar ôl dioddef o anaf i'w hymennydd.

Roedd Helen wrth ei bodd gyda cherddoriaeth a dawnsio cyn yr anaf. Erbyn hyn mae bywyd Helen yn wahanol iawn, ac mae wedi bod yn gyfnod anodd i'w theulu, ond mae hi dal yn caru cerddoriaeth.

"Pan ddechreuais i weithio gyda Helen, ro'n i a staff ei hysgol yn ceisio ffeindio ffyrdd o gyfathrebu gyda hi, a ffeindio be' oedd hi'n gallu gwneud a deall.

"Wnes i sylweddoli wrth chwarae nodau isel ar y cello mod i'n gallu gweld gymaint o'i chymeriad hi yn dod allan achos oedd hi jest yn ffeindio fo mor ffyni.

"Oeddan ni yn cael sgwrs nôl a blaen efo'n gilydd trwy'r chwerthin a'r chwarae felly o'n i jest yn trio ffeindio petha' oedd yn cael ymateb ganddi."

Disgrifiad,

Gwyliwch Helen ac Awen yn sgwrsio gyda'i gilydd drwy gerddoriaeth

Erbyn hyn does gan Helen ddim llawer o reolaeth o symudiadau ei chorff, felly roedd gwneud Helen yn hapus a chysylltu gyda hi drwy gerddoriaeth yn brofiad emosiynol i Awen a'i theulu.

"Mae'r fideo ohona i a Helen jest yn dangos dau berson yn cael sgwrs di-eiriau ac yn mwynhau cwmni ei gilydd.

"Dwi heb weld Helen ers llynedd ond mae hi yn ôl yn ei hysgol bellach ar ôl cyfnod yn y rehab centre yn gweithio ychydig ar reolaeth y corff, felly dwi'n edrych ymlaen i weithio efo hi fwy yn y misoedd nesa'."

'Mae therapi cerdd mor bwysig i gymdeithas'

Daw Awen ar draws unigolion sy'n wynebu heriau personol neu â'u bywyd wedi newid yn aml yn ei swydd.

Ond mae gweld cymeriad cleient yn dod yn fyw eto drwy therapi cerdd yn brofiad sy'n ei chyffwrdd.

"Mae'r berthynas sy'n datblygu mor arbennig. Dwi'n gweithio efo rhywun sydd yn ddi-eiriau ar hyn o bryd ac yn y dosbarth doedd e ddim yn gwybod ei allu.

"Ers dechrau'r sesiynau hefo fo a defnyddio DJ sample pad lle ti'n gallu creu beats dy hun ac ychwanegu haenau o gerddoriaeth, mae o wedi creu drumbeat ei hun, baseline ei hun, synths, a wedi creu set DJ cyfan heb ddefnyddio geiriau.

"Mae ganddo gymaint o botensial. Mae'r therapi am adnabod y potensial ymhob unigolyn a dathlu be' maen nhw'n gallu 'neud."

"Mae therapi cerdd mor bwysig i gymdeithas. Mae gan greadigrwydd y pŵer i gysylltu pawb efo'i gilydd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig