Diabetes math 1: 'Diolch bod 'na ffordd i fyw gyda fe'

Llinos YoungFfynhonnell y llun, Llinos Young
GanAngharad Rhys
Yn gohebu oBBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae Llinos Young o Geredigion newydd dderbyn medal am fyw'n llwyddiannus gyda diabetes math 1 am dros hanner canrif.

Derbyniodd Llinos, sy'n byw yn Aberystwyth, Fedal Alan Nabarro gan Gymdeithas Diabetes UK. Mi wnaeth Alan Nabarro weithio'n ddiflino drwy ei fywyd i wneud yn siŵr bod neb gyda diabetes yn dioddef gwahaniaethu oherwydd y cyflwr.

Ar ôl cael y diagnosis yn 13 oed bu'n rhaid i Llinos newid ei deiet a chyfarwyddo gyda phrofi a chymryd meddygyniaeth bob dydd.

Bu'n rhannu gyda Cymru Fyw ac ar Fore Cothi ar Radio Cymru, sut beth yw byw gyda'r cyflwr mae hi'n ei alw'n 'gyflwr cudd':

GanLlinos Young

Ges i'r diagnosis o diabetes math 1 pan oeddwn i'n 13 oed. Yn arwain lan i'r diagnosis o'n i'n sychedig, yn mynd i'r tŷ bach yn aml a cholli pwysau'n ddifrifol.

Aeth Mam â fi at y meddyg teulu, wnaeth roi bocs o glwcos 'for energy' achos oedd y colli pwysau a bod yn sychedig yn neud fi'n flinedig. 'Nath y glwcos neud fi'n waeth.

Erbyn y diwedd, o'n i wedi colli sut gymaint o bwysau a sylweddolodd y meddyg wrth wneud prawf wrin bod y lefelau glwcos mor uchel, oedden nhw wedi mynd drwy'r to. Bues i yn Ysbyty Treforus am o leiaf pythefnos yn dod â fe dan reolaeth.

Addasu

Oedd e'n rhyddhad bod rheswm am y colli pwysau a'r symptomau ac o'n i mor falch o gael byw gyda fe. O'n i'n meddwl, mae hwn yn sialens, mae'n rhaid i fi fyw gyda fe nawr a diolch bod 'na ffordd i fyw gyda fe.

Dwi'n credu oedd e'n sialens mwy i'r teulu. Roedd rhaid iddyn nhw addasu a helpu fi. O'dd Mam yn gorfod berwi yr injections. Oedd yr injections yn rhai gwydr ac er mwyn sterilizeio nhw o'n ni'n gorfod berwi nhw fel poteli plant.

Oedden nhw'n dda yn Ysbyty Treforus am helpu fi i ymarfer injectio ar oren. Ac wedyn i injectio'r insulin yn y bola neu yn y breichiau ddwywaith y dydd.

Roedd rhaid i fi brofi'r wrin i weld faint o siwgr oedd yno, roedd e'n newid lliw. Roedd e gyd yn balafar a gorfod watcho beth o'n i'n bwyta hefyd.

O'n i'n gallu bwyta popeth ond ddim pethau fel cakes. Rheoli'r carbohydrates oedd e a phwyso faint o datws oedd ar y plât, ac ati.

O'ch chi'n clywed beth oedd y sgil effeithiau hir dymor, ac o'n i'n meddwl, byddai'n mynd yn dall. Mae lot o gymhlethdodau yn gallu dod gyda fe so o'n i'n meddwl mae'n rhaid i mi fod yn strict.

Pan o'n i'n mynd lawr i'r clinig, o'n i'n clywed y menywod yn siarad ac un yn dweud, "Fi ffaelu cael plant achos bod fi'n diabetig", ac o'n i'n meddwl, o diar. Ond na, doedd hwnna ddim wedi digwydd i fi, a ges i dri o blant.

Ymarfer corff

Dwi yn cerdded lot, a dwi nawr gyda'r chwaer yn mynd rownd arfordir Cymru, ni wedi cyrraedd Dinbych-y-Pysgod ar ôl dechrau yn Gaer. Dwi'n cerdded tipyn, ac mae'n bwysig i symud y corff.

Mae'r meddwl yn effeithio ar y siwgr hefyd. Os y'ch chi dan stress mawr a phryder, mae'r cortisol yn codi ac mae fe'n effeithio ar lefelau'r siwgr.

Mae bod yn diabetig fel bod ar si-so. Mae bod ar si-so yn eitha neis ond mae'n rhaid cael balans.

Allwch chi fod yn isel, a mae bod â siwgr isel yn beryglus. Dwi wedi cael profiadau isel sydd ddim yn neis, ac wedyn chi'n gallu bod yn rhy uchel sy'n effeithio popeth yn yr hir dymor. Felly cael y balans.

Llinos YoungFfynhonnell y llun, Llinos Young

Y fedal

I ddweud y gwir, o'n i'n eitha emosiynol a chuffed achos oedd e'n life sentence mewn ffordd er bod e'n relief [adeg y diagnosis]. O'n i'n meddwl bod fy rhieni a'n chwaer wedi gorfod byw gyda fe hefyd a neb yn meddwl amdanyn nhw fel 'na.

Erbyn hyn mae'r wybodaeth a'r system meddygol yn anhygoel a chi'n cael bob math o help. Mae hyd yn oed seicolegydd meddygol i gael nawr i diabetes yn arbennig.

Mae'r profi y gwaed wedi newid. Nawr, mae gyda fi disc ar fy mraich sy'n sensor a fi'n gallu testio fy ngwaed gyda'm ffôn. Dwi'n rhoi'r ffôn ar y sensor a fi'n gwybod yn union faint yw lefel y siwgr. Mae hwnna wedyn wedi cysylltu â'r nyrs diabetic ac maen nhw'n gallu helpu wedyn.

Dwi'n cael pedwar injection y dydd nawr ac mae'r un cyn gwely yn longacting i gadw'r insulin yn lefel.

Mae'n gyflwr cudd - gallwch chi gerdded lawr yr hewl a sym pobl yn gwybod dim.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig