Her tair iaith i'r hyfforddwr rygbi o Drimsaran sy'n ffynnu yn y Côte d'Azur

Barry MaddocksFfynhonnell y llun, Barry Maddocks
GanGareth Rhys Owen
Chwaraeon BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Y swydd ddelfrydol mewn lleoliad perffaith? Dyna fyddai barn llawer am fywyd Barry Maddocks ar y Côte d'Azur, Ffrainc.

Dros y penwythnos fe gwblhaodd y gŵr o Drimsaran ei dymor cyntaf fel aelod o dîm hyfforddi clwb rygbi Nice drwy sicrhau dyrchafiad i'r Pro D2.

Ac er bod cael gweithio mewn dinas sy'n croesawu dros 300 o ddiwrnodau heulog y flwyddyn yn swnio'n apelgar, mae'n treulio'r mwyafrif o'i amser naill ai ar fws yn croesi Ffrainc neu'n ceisio cofio pa iaith i'w siarad.

Nice yw'r bennod ddiweddaraf mewn gyrfa sydd wedi ei dywys o'r Dreigiau a thîm saith-bob-ochr merched Lloegr i rai o glybiau enwocaf rygbi Ffrainc.

Mae Maddocks ar fin dechrau ei chweched tymor yn y wlad wedi cyfnodau gyda Biarritz ac Agen.

Barry Maddocks yn hyfforddi chwaraewr rygbiFfynhonnell y llun, Barry Maddocks

Ond os oes unrhywbeth wedi goroesi'r daith o Drimsaran i'r Côte d'Azur, ei acen yw hwnnw. Nid Steve McClaren mo Barry Maddocks.

"Dwi'n falch iawn o fod yn Gymro ac yn falch o ddod o bentref bach Trimsaran a'r holl gyfleoedd dwi wedi eu cael."

Mae bywyd dyddiol Maddocks yn aml yn cynnwys tair iaith... y broblem yw cofio pa un sy'n dod gyntaf.

"Dwi'n ceisio dod adre pan fo gennym ni penwythnos rhydd i weld y teulu, ond mwyafrif o'r amser dwi ar ben fy hun fan hyn. Pan dwi adre dwi'n siarad Cymraeg yn naturiol adref 'da Mam a Dad a'r plant.

"Draw fan hyn mae e'n galed trosglwyddo pethau o Ffrangeg i Saesneg ac yna i'r Gymraeg oherwydd dwi fel arfer yn meddwl drwy'r Gymraeg."

Barry Maddocks yn ysgwyd llaw un o chwaraewyr NiceFfynhonnell y llun, Barry Maddocks

Yn ffodus, nid Maddocks yw'r unig Gymro Cymraeg ei iaith yn Nice. Mae cyn-faswr Cymru Owen Williams hefyd yn rhan o'r garfan sydd newydd ennill dyrchafiad i'r Pro D2.

"Mae e'n allweddol o ran sylwedd ein hymosod. Ni'n cael bach o sbort weithiau yn siarad Cymraeg a does gan neb arall syniad am beth rydyn ni'n trafod."

Ble well i loywi'r iaith nag ar fws? Mae bysiau'n rhan annatod o fywyd rygbi yn Ffrainc, yn enwedig yn Nice sydd yn ne-ddwyrain y wlad. Mae teithiau o wyth neu naw awr yn rhan arferol o'r swydd, gyda'r tîm yn aml yn dychwelyd adref yn oriau man y bore wedi gêm oddi cartref. Ac nid y teithio yw'r unig her.

"Ma' fe yn gorfforol iawn. Ni yn hoffi lledu'r bêl ac wedi sgorio dros gant o geisiau. Ond mae pwyslais Ffrainc ar y blaenwyr."

Yn ogystal â dysgu iaith newydd, mae Maddocks wedi gorfod addasu.

"Ma fe 'di bod yn amser arbennig o ran dysgu. Mae iaith yn un peth, gorfod rhoi'r neges yn syml. Ma'r emosiwn llawer yn fwy nag yng Nghymru ac yn Lloegr. Mae nhw'n grŵp emosiynol iawn ac mae angen rhoi hwb bach fan hyn a fan draw."

Barry MaddocksFfynhonnell y llun, Barry Maddocks

Ond er gwaethaf yr haul, y dyrchafiad a'r llwyddiant proffesiynol, mae byw a gweithio dramor wedi dod ag aberth.

Er bod Maddocks yn rhan o griw Cymreig cryf yn Nice, gyda Gareth Baber yn brif hyfforddwr a chanolwr Cymru Tyler Morgan hefyd yn y clwb, pan symudodd i Ffrainc arhosodd ei wraig a'i blant yng Nghymru. Roedd parhad yn bwysig i'r teulu, gyda'r plant yn gallu aros yn eu hysgolion Cymraeg.

"Mae wedi bod yn galed. Fe ddechreuodd y mab ysgol uwchradd pan wnes i symud i Ffrainc ac mae e wrthi yn gorffen ei TGAU, a dwi heb fod yna am yr holl amser yna. Weithiau mae penblwyddi a digwyddiadau gyda ffrindiau. Felly mae'n beth caled iawn i fod i ffwrdd o ffrindiau a'r teulu."

Tra bod Maddocks wedi adeiladu gyrfa yn Ffrainc, mae cartref wedi aros yn Sir Gâr.

Ar ôl y dyrchafiad, bydd yn treulio'r tair wythnos nesaf adref yng Nghymru cyn i'w wraig a'i blant ymuno ag ef yn Ffrainc ym mis Awst ar gyfer gwyliau'r haf. Wedi hynny, bydd her newydd yn aros gyda Nice yn y Pro D2. Ond ryw ddydd, mae Maddocks yn gobeithio y bydd y daith yn dod â fe yn ôl adref.

"Lice'n i ddod adre a defnyddio'r profiad ges i fan hyn yn Ffrainc ac yn Lloegr cyn hynny, cyn gorffen hyfforddi."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig