Teyrnged i ŵr a thaid caredig a chariadus fu farw mewn gwrthdrawiad

Melvin AustinFfynhonnell y llun, Llun Teulu/Heddlu Dyfed-powys
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd teulu Melvin Austin ei fod yn ŵr, tad, taid a hen daid cariadus a ffyddlon

  • Cyhoeddwyd

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i feiciwr modur 73 oed fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yn ne Powys.

Roedd Melvin Austin yn 73 oed ac yn dod o Ystalyfera.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad rhwng car Citroen Berlingo gwyn a beic modur Kawasaki coch ar yr A4067 ger Crai am 11:45 fore Mercher.

Fe gadarnhaodd swyddogion fod Mr Austin wedi marw yn y fan a'r lle er gwaethaf ymdrechion parafeddygon.

'Meddwl y byd' o'i deulu

Dywedodd y teulu mewn datganiad fod colled 'Mel' wedi eu llorio.

"Am 55 mlynedd arbennig roedd yn ŵr ffyddlon i'w wraig Caron, roedd yn dad, taid a hen daid cariadus - ac roedd ei deulu yn meddwl y byd iddo.

"Roedd caredigrwydd, cynhesrwydd a chariad Mel yn cyffwrdd pawb oedd yn ei adnabod.

"Fe fydd ein hatgofion ohono yn llawn cariad ac ni all geiriau gyfleu'r golled enfawr yma."

Mae'r teulu yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn ymchwilio i'r gwrthdrawiad, gan annog unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â nhw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig