Gwaharddiad gwasgaru slyri y gaeaf 'ddim yn gweithio' - gweinidog newydd

Tractor yn gwasgaru slyri
Disgrifiad o’r llun,

Chaiff ffermwyr ddim gwasgaru slyri rhwng canol Hydref a Ionawr ar hyn o bryd

GanSteffan Messenger
Gohebydd amgylchedd
  • Cyhoeddwyd

Dyw rheoliadau dadleuol sy'n gwahardd ffermwyr rhag gwasgaru slyri dros fisoedd y gaeaf er mwyn gwarchod afonydd "ddim yn gweithio" a bydd yn rhaid eu newid, yn ôl y gweinidog amgylchedd newydd.

Cafodd rheolau llymach i atal llygredd amaethyddol eu cyflwyno gan y llywodraeth Lafur flaenorol - gan ennill cefnogaeth pysgotwyr a grwpiau bywyd gwyllt tra'n cythruddo ffermwyr.

Dywedodd Llyr Gruffydd AS, y Gweinidog dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, y gellid defnyddio technoleg i helpu rheoli'r gwaith o wasgaru slyri yn gyfrifol yn lle "ffermio yn ôl y calendr".

Mynnodd nad oedd polisïau Plaid Cymru ar amaeth a'r amgylchedd yn gweithio "un yn erbyn y llall", wrth gael ei holi hefyd am darged y llywodraeth newydd i gyrraedd sero net erbyn 2040.

Llyr Gruffydd AS
Disgrifiad o’r llun,

Llyr Gruffydd sy'n gyfrifol am yr amgylchedd a chefn gwlad yn y cabinet newydd

Ers 2024 mae gwaharddiad wedi bod ar wasgaru slyri rhwng canol Hydref a mis Ionawr, yn rhan o gyfres ehangach o gyfyngiadau fu'n destun dadlau yng Nghymru ers dros ddegawd.

Cwyno mae ffermwyr bod y rheolau newydd yn rhy llawdrwm a chostus, a ddylen nhw fod yn medru gwasgaru slyri yn ddibynnol ar y tywydd, yn hytrach nac yn ystod cyfnod penodol o'r flwyddyn.

Ond roedd grwpiau natur wedi rhybuddio bod cyflwr afonydd Cymru'n cael eu heffeithio'n arw, a bod ffermwyr wedi cael blynyddoedd i baratoi ar gyfer y newidiadau.

Yn ei gyfweliadau cyntaf ers dod yn weinidog newydd, dywedodd Llyr Gruffydd, oedd yn llefarydd Plaid Cymru ar faterion gwledig cyn yr etholiad, ei fod yn glir nad oedd y gwaharddiad yn gweithio.

"Dyw ffermio yn ôl y calendr ddim yn gweithio. Mae adolygiad Bolton o'r rheoliadau llygredd amaethyddol wedi gwneud hynny'n glir," meddai.

"Fy mwriad i yw symud oddi wrth hynny, pa mor fuan allwn ni wneud hynny yw'r cwestiwn ond mi fyddai'n cychwyn drwy eistedd i lawr gyda'r grŵp sy'n edrych ar droi argymhellion adolygiad Bolton fewn i weithredu ar lawr gwlad."

"Mae 'na le i bwyso ar dechnoleg," ychwanegodd "felly mae hynny yn sicr yn rhywbeth sydd ar y rhestr."

Roedd protestio mawr ar draws Cymru yn 2024, yn rhannol yn erbyn y Cynllun Ffermio CynaliadwyFfynhonnell y llun, Getty
Disgrifiad o’r llun,

Roedd protestio mawr ar draws Cymru yn 2024, yn rhannol yn erbyn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn rhai tymhestlog iawn i'r diwydiant amaeth, gan arwain at y brotest fwyaf erioed y tu allan i'r Senedd yn 2024.

Roedd y cyfyngiadau ar wasgaru slyri yn rhan o'r darlun bryd hynny, yn ogystal â newidiadau i gymhorthdaliadau a'r ymateb i glefyd TB mewn gwartheg.

Dywedodd Gruffydd ei fod yn "berson sydd wedi byw ar fferm deuluol, mae 'mhlant i wedi'u magu ar fferm deuluol".

"Felly dwi'n gobeithio byddai'n dod â dealldwriaeth ac empathi i'r rôl yma, a dwi'n gobeithio cyn bo hir y byddai mewn sefyllfa i roi mwy o gig ar yr asgwrn ac anfon signal clir i'r diwydiant bod pethau'n newid."

Byddai'r llywodraeth yn "esblygu a newid" y drefn gymhorthdaliadau newydd - y Cynllun Ffermio Cynaliadwy - wrth wrando ar adborth ffermwyr, meddai.

Ond tra'u bod wedi ymrwymo i amddiffyn y gyllideb byddai sicrhau cynnydd yn faint sy'n cael ei wario ar ffermio yn "anodd" ar hyn o bryd o gofio'r "hinsawdd cyllidol", rhybuddiodd.

Serch hynny byddai'r llywodraeth yn symud at gyllidebau aml-flwyddyn, fel bod modd i amaethwyr gynllunio'n well.

Wrth gael ei holi a fyddai Cymru'n cyflwyno rhaglen difa moch daear yn y dyfodol, dywedodd ei fod yn cytuno â safbwynt Bwrdd Rhaglen TB Cymru bod angen mynd i'r afael â'r diciau "mewn bywyd gwyllt" yn ogystal â da byw.

'Sero net 2040'

Mae grwpiau amgylcheddol wedi mynegi siom nad yw newid hinsawdd a byd natur wedi'u crybwyll yn nheitl y gweinidog newydd.

"Mae Cymru'n wynebu argyfwng hinsawdd a natur - felly pam fod cabinet newydd Llywodraeth Cymru wedi cael gwared ar weinidog penodedig ar gyfer newid hinsawdd a heb flaenoriaethu natur?" gofynnodd River Action ar wefan X.

Yn y cyfamser, dywedodd swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol wrth rhaglen Dros Frecwast yn gynharach yr wythnos hon eu bod yn "siomedig" nad oedd sylw i'r amgylchedd yn natganiad y prif weinidog o'i flaenoriaethau yn y Senedd.

Wrth ymateb, dywedodd Llyr Gruffydd: "Dy'n nhw ddim yn broblemau ar wahân - mae'r heriau mae'r amgylchedd a'r diwydiant amaeth yn eu hwynebu yn aml yn deillio o'r un sylfaen.

"Mae rhai pobl yn mynd i bortreadu e fel un yn erbyn y llall - dwi ddim yn gweld hi fel 'na."

Roedd Plaid Cymru wedi addo yn eu cynllun 100 diwrnod i ddechrau'r gwaith o lunio Cynllun Gweithredu Hinsawdd a Natur, "fydd yn canolbwyntio ar lunio llwybr ymarferol at sero net erbyn 2040 ac adferiad sylweddol i natur erbyn 2050".

Wrth gael ei holi a oedd gosod targed sero net oedd ddegawd yn gynt na gweddill y DU yn ymarferol, dywedodd Gruffydd: "Mae'n mynd i fod yn heriol."

Ond "os y'ch chi'n gosod targed sy'n hawdd ei gyrraedd wel 'sdim pwynt cael targed".

"Mae'n rhaid i darged yrru gweithredu ar lawr gwlad ac o fewn llywodraeth ac ym mhob man arall."

Parc Cenedlaethol newydd?

Ar bwnc arall dadleuol yn ei frîff - sef y cynllun i greu Parc Cenedlaethol newydd yng ngogledd ddwyrain Cymru - datgelodd Gruffydd na fyddai modd iddo yntau benderfynu ar y mater, ar ôl bod yn llafar yn ei wrthwynebiad yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

"Wel dwi wedi gwneud 'y marn yn glir ynglyn â lle dwi'n sefyll - mae hynny'n golygu wrth gwrs falle nad y fi fydd yn gallu 'neud y penderfyniad yna," meddai.

Bydd rhaid cyfeirio fe at weinidog arall o fewn y llywodraeth. Mae hefyd yn rhan o'r etholaeth dwi'n ei gynrychioli sy'n golygu na allai fod yn rhan o'r penderfyniad - ond dwi eisoes wedi gwneud yn glir lle dwi'n sefyll."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.