Môn yn barod i groesawu Cymru i Eisteddfod yr Urdd

Mae ffenestri rhai o fusnesau'r ardal wedi eu haddurno
- Cyhoeddwyd
Dros y penwythnos, bydd giatiau maes Eisteddfod yr Urdd ym Môn yn agor am y tro cyntaf.
Mae'r ynys gyfan wedi dod at ei gilydd i baratoi, gyda sawl ardal wedi trawsnewid eu bröydd yn fôr o goch gwyn a gwyrdd.
Mae Môn yn gartref i Eisteddfod yr Urdd eleni am y tro cyntaf ers 22 o flynyddoedd, gydag Eisteddfod 2004 wedi'i chynnal ar yr un safle ym Mona.
Dywedodd Cadeirydd y pwyllgor gwaith lleol, Dr Manon Wyn Williams: "Mae gweld penllanw gwerth dwy flynedd a hanner o waith, mae o wir yn cyffroi rhywun."
Mwynhau 'yn sŵn y Gymraeg'
Dyma'r tro cyntaf i'r Eisteddfod ddod i Ynys Môn ers 2004.
Eleni hefyd ydy'r tro cyntaf erioed i Eisteddfod yr Urdd ymestyn i fod yn ŵyl saith diwrnod.
Wrth i gannoedd o blant a phobl ifanc yr ynys baratoi at yr Eisteddfod mae un criw wedi mynd ati i sefydlu adran newydd sbon.
Cafodd Adran Lligwy ei sefydlu ar gyfer yr Eisteddfod, ac Elfed Morgan Morris ydi un sydd wedi bod yn eu hyfforddi.
"Mae'r Eisteddfod yma o'r diwedd, a 'da ni wedi bod yn edrych ymlaen drwy'r flwyddyn gron am y diwrnod mawr o agor," meddai.
"Fel ysgol, 'da ni wedi bod yn andros o weithgar, nid yn unig yn cystadlu fel ysgol, ond hefyd yn sefydlu adran newydd, sef adran Lligwy."

Mae Elfed Morgan Morris wedi bod yn hyffroddi plant yr adran newydd
"Bwriad yr adran newydd yw rhoi cyfle y tu allan i oriau ysgol i fwynhau cerddoriaeth, drama a dawns yn sŵn y Gymraeg," ychwanegodd.
"Mae o wedi bod yn hwb i ni fel ysgol, i feddwl am gyfleoedd newydd i'n disgyblion ni, ac oherwydd y niferoedd sydd wedi dangos diddordeb eleni, mi fyddwn ni'n parhau y flwyddyn nesaf."
Dywedodd Lotti sy'n naw oed, ei bod yn gyffrous meddwl y bydd pawb yn heidio i'r ynys yr wythnos nesaf.
"'Da ni wedi bod yn harddu'r ysgol a chanu a dawnsio ac actio. 'Da ni wedi bod yn ymarfer geiriau a chanu.
"'Da ni wedi bod yn peintio cerrig a gwneud arwydd croeso."

Mae Carter, Lotti a Catrin yn aelodau o Adran Lligwy
Ychwanegodd Catrin, 10 oed ei bod wedi dysgu am hanes yr Eisteddfod yn yr ysgol.
"'Da ni wedi bod yn dysgu mwy am yr Eisteddfod drwy ysgrifennu araith ac wedi bod yn dysgu lot o ganeuon rhwng yr adran a'r ysgol.
"'Dwi'n ofnadwy o gyffrous ac mi fydd yn anhygoel, 'da ni wedi bod yn harddu'r fro ac yn dysgu caneuon hefyd."
Roedd Carter sy'n 11 oed hefyd yn llawn cyffro wrth groesawu'r Eisteddfod.
"'Da ni wedi bod yn ymarfer canu ac actio... cân o'r enw rhestr siopa ar gyfer yr Eisteddfod."

Mae ardaloedd ledled yr ynys wedi'u haddurno yn barod i groesawu'r Eisteddfod
Wrth i'r wythnos fawr agosáu, mae rhai o fusnesau Llangefni, y dref agosaf i'r maes, wedi bod yn addurno eu ffenestri.
Mae Rhian Sinnott yn un o berchnogion y siopau, ac wedi bod yn gwerthu baneri a nwyddau i gasglu arian at yr Eisteddfod.
Dywedodd: "Mae o wedi bod yn grêt, 'da ni gyd wedi edrych ymlaen at yr Eisteddfod ac i weld pawb yn dod i Ynys Môn.
"Mae pobl wedi bod yn addurno a dod i nôl eu pethau o'r siop - y bunting ac ati. Mae 'na gyffro yn bendant."

Mae Rhian Sinnott wedi bod yn gwerthu nwyddau'r Urdd yn ei siop
Ychwanegodd: "Mae 'na alw mawr wedi bod amdanyn nhw, 'dw i'n siŵr mod i'n breuddwydio coch gwyn a gwyrdd.
"Mae o fatha cymuned, pawb yn dod at ei gilydd a phawb yn croesawu'r Urdd i'r ynys, mae'n grêt."
Dywedodd Emrys Owen, rheolwr tafarn a gwesty lleol ei fod yn wych gweld y gymuned yn dod at ei gilydd.
"Mae wedi bod yn fyrlymus yma, mae pawb wedi addurno yn bob man. Os 'da chi'n cerdded o gwmpas y dref, mae pawb wedi neud ymdrech dda."

Mae Emrys Owen, fel nifer o fusnesau wedi addurno ei dafarn yn barod
"Dros yr wythnos, 'da ni'n llawn yma, gyda phobl yn dod o'r de."
Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y bydd y rhai sy'n dod i'r Eisteddfod yn ymweld â'r ardaloedd cyfagos.
"Er fod y dref yn fach o ran maint, mae 'na ddigon o bethau i weld yma."
Cymunedau Môn yn harddu'r fro i groesawu Eisteddfod yr Urdd 2026
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Criw dawns y blodau Eisteddfod yr Urdd 1976 yn ail-greu llun
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Yn ôl Cadeirydd y pwyllgor gwaith lleol, mae wedi bod yn waith caled ond pleserus.
Dywedodd Manon Wyn Williams: "'Da ni wedi dechrau arni ers ryw ddwy flynedd a hanner, ac wedi bod yn gweithio yn ddiwyd ers hynny.
"Mae gweld penllanw gwerth dwy flynedd a hanner o waith, mae o wir yn cyffroi rhywun a 'da ni gyd yn edrych ymlaen gymaint i weld y maes yn llenwi efo miloedd o ymwelwyr."
Yn ddiweddar, mi gyrhaeddodd y pwyllgor eu targed codi arian, ac roedd pawb yn "gorfoleddu", ychwanegodd Dr Williams.

Yn ddiweddar, fe wnaeth y pwyllgor gwaith lleol gyrraedd eu targed ariannol o godi £380,000
Ychwanegodd: "Mae wedi bod yn waith caled codi gymaint o bres, £380,000. Mae 'na bwyllgorau apêl ledled yr ynys, ysgolion, cynghorau plwyf, busnesau'r ardal. Mae pawb wedi cyfrannu ac wedi gweithio mor galed.
"Ddwy flynedd ar hugain o flynyddoedd yn ôl oedd yr Eisteddfod ar yr union faes yma yn sir Fôn ddiwethaf, ac ro'n i ryw 17 oed bryd hynny.
"Mae'r profiadau ges i bryd hynny dal yn fyw yn y cof ac wedi siapio fy llwybr gyrfaol i, cyfeillion nes i bryd hynny dal yn ffrindiau heddiw 'ma.
"Felly 'dw i'n gobeithio fydd plant a phobl ifanc Môn sydd wedi bod yn rhan o'r paratoadau at yr Eisteddfod eleni wedi elwa o'r un profiadau."
Bydd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn cael ei chynnal ar gae Sioe Môn ym Mona rhwng dydd Sadwrn, 23 Mai a dydd Gwener, 29 Mai.