Eisteddfod yr Urdd: Sut mae cyrraedd y Maes?

map
  • Cyhoeddwyd

A fyddwch chi yn teithio i Gae Sioe Môn yr wythnos hon ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.

Os felly, mae modd i chi gyrraedd y maes mewn car neu ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae Cae Sioe Môn wedi ei leoli ger pentref Gwalchmai.

Mae'r urdd yn annog pobl i ddilyn yr arwyddion swyddogol er mwyn cyrraedd y Maes.

Sut i gyrraedd yn y car?

O'r de:

  • Dewch oddi ar yr A55 ar gyffordd 6

  • Dilynwch yr arwyddion am Faes yr Eisteddfod

  • Bydd arwyddion melyn yr Eisteddfod yn eich cyfeirio at y meysydd parcio

O'r gogledd:

  • Dewch oddi ar yr A55 ar gyffordd 5

  • Dilynwch yr arwyddion am Faes yr Eisteddfod

  • Bydd arwyddion melyn yr Eisteddfod yn eich cyfeirio at y meysydd parcio

Os yn defnyddio Sat Nav - defnyddiwch y cod post LL65 4RW.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Trên

  • Yr orsaf drenau agosaf yw Llanfairpwll, sydd tua naw milltir o'r Maes.

  • Neu mae gorsaf Tŷ Croes, sy'n orsaf fach stopio ar gais, bum milltir o'r Maes.

Bws

  • Y bws cyhoeddus sy'n pasio'r Maes yw'r A4 o Fangor i Gaergybi - mae Maes yr Eisteddfod gyferbyn â safle bws stad ddiwydiannol Mona

Beic

  • Os ydych chi am ddod i'r Eisteddfod ar eich beic, mae 'na le parcio beics yn saff wrth ymyl y Ganolfan Groeso

Cerdded

  • Nid yw'r Urdd yn argymell cerdded i'r Maes gan nad oes palmant yn arwain at Gae'r Sioe

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.